Pum munud gyda... Ann-Marie Lewis
- Cyhoeddwyd
Mae Anne-Marie Lewis, sy'n enedigol o Ffwrnes ger Llanelli, yn gyn-athrawes ac yn gyfieithydd erbyn hyn gyda chwmni Atebol.
Aeth Cymru Fyw draw i ardal Cynwyl Elfed i gael sgwrs gyda hi am ei phrofiadau tra'n byw ym Mhatagonia.
Pam benderfynaist ti ddechrau dysgu? Wyt ti wedi gweld unrhyw newidiadau ers i ti ddechrau?
Ar 么l i mi raddio a gwneud MA ym Mhrifysgol Caerdydd 'nes i ddechrau cyfieithu. Roedd fy chwaer yn athrawes a ges i'r chwant i fynd ati i hyfforddi i fod yn athrawes. Mae unrhywbeth sy'n newydd yn heriol ar y dechrau ond ro'n i'n mwynhau dysgu plant a phobl ifanc.
Dwi wedi gweld a phrofi newidiadau ym myd addysg. Ar y dechrau roedd pawb yn gweithio fel t卯m ond fe gynyddodd y pwysau gwaith dros amser ac ro'n i'n teimlo fod y gwaith papur cynyddol yn gwneud y swydd yn anoddach. Heblaw am Covid dwi'n si诺r y bydden i dal yn dysgu ond fe ddiflannodd y swyddi cyflenwi felly bu raid i mi chwilio am waith arall. Dwi wedi bod yn cyfieithu gyda chwmni Atebol ers rhyw dair blynedd erbyn hyn ac mi roedd e'n brofiad rhyfedd symud o'r dosbarth i weithio adref ar fy mhen fy hun.
Beth ysgogodd i ti fynd allan i ddysgu ym Mhatagonia a faint o sioc ges ti ar 么l i ti gyrraedd?
Sefydlwyd cynllun i ddysgu Cymraeg gan y Cyngor Prydeinig yn 1997 ac roedd yna Gymry Cymraeg wedi mynd allan i'r Wladfa er mwyn gwneud hynny. Erbyn 2001 ro'n i wedi bod yn dysgu ers rhai blynyddoedd a phenderfynais i fynd amdani. Roedd dysgu yn un o'r gofynion ynghyd 芒 llunio gweithgareddau cymdeithasol.
Ar 么l i mi lanio ges i dipyn o sioc os dwi'n onest. Roedd popeth mor wahanol i Gymru, y wlad, y tirlun, y diwylliant a'r tywydd. Roedd pobman mor frown. 'Nes i gyrraedd ym mis Awst, canol gaeaf yn yr Ariannin, a dwi'n gallu cofio'r tawelwch. Roedd popeth wedi cau erbyn wyth o'r gloch y nos. Ro'n i'n glanio ar y dydd Mawrth ac yn dechrau dysgu ar y dydd Mercher!
Faint o Sbaeneg oeddet ti'n ei siarad cyn cyrraedd?
Ro'n i'n gwrando ar gas茅t dysgu Sbaeneg wrth i mi deithio n么l a mlaen i Ysgol Bro Myrddin. Roedd hyn cyn y we a doedd dim fath beth 芒 Duolingo'n bodoli! Mi wnaeth fy sgiliau Sbaeneg wella pan ro'n i yn Nhrelew. Do'n i ddim yn clywed Cymraeg ar y stryd na Saesneg chwaith felly roedd gen i lyfryn bach Sbaeneg yn fy mhoced. Newidiodd hynny pan gyrrhaeddais i'r Gaiman oherwydd mi roedd pobl yn siarad Cymraeg yno.
Beth oeddet ti'n ei wneud yn rhinwedd dy swydd pan oeddet ti yno?
Pob math o bethau. Ro'n i'n dysgu Cymraeg i blant ac oedolion rhwng tair ac wythdeg pump mlwydd oed! Ar y penwythnosau ro'n i'n trefnu gweithgareddau fel teithiau siarad er mwyn hybu'r Gymraeg a chynnal nosweithiau llawen, cyngherddau, eisteddfodau a'r c么r. Doedd dim llawer o amser rhydd gen i ond doedd dim gwahaniaeth oherwydd roedd yr elfen gymdeithasol mor ganolig i'r swydd.
Sut groeso wnes di dderbyn yn ystod dy amser ym Mhatagonia a pha effaith mae'r cyfnod wedi ei gael ar dy fywyd?
Roedd pawb mor groesawgar. Roedd un g诺r 85 o'r enw Clydwyn ap Aeron Jones yn gymeriad a hanner. Mi wnes i ffrindiau drwy'r c么r a'r dosbarthiadau ro'n i'n eu cynnal.
Mi gwrddais ag un person sydd wedi cael tipyn effaith ar fy mywyd sef fy ng诺r, Fabio. Roedd e'n helpu gyda'r dosbarthiadau Cymraeg er mai cyfrifydd i garej ceir oedd ei swydd e ar y pryd. Fuodd e ar gyrsiau Wlpan yng ngholegau Llanbedr Pont Steffan a Harlech ac roedd e'n rhugl yn y Gymraeg erbyn i mi gyrraedd y Wladfa.
Teithiodd ei hen dylwyth, Rachel a Lewis Davies o Aberystwyth, ar long y Mimosa allan i Batagonia ac roedd hi'n feichiog ar y pryd. Dy'n nhw ddim yn eu gwneud nhw fel Rachel rhagor!
Mae gen ti a Fabio ddau o blant erbyn hyn. Fyddech chi'n hoffi symud i fyw ym Mhatagonia?
Cafodd Ifan a Miriam eu geni yng Nghymru ond mi dreulion ni flwyddyn yn byw yn yr Ariannin. Roedd y plant wrth eu boddau yno a ddaeth y ddau'n rhugl yn Sbaeneg mewn dim o dro. Bydden i wrth fy modd yn symud n么l i fyw yno ond mae'r g诺r yn gweld bod gan y plant fwy o gyfleoedd yma yng Nghymru. Mae bywyd yn anoddach yn y Wladfa, mae'n dlotach ond mae'r teimlad o gymdeithas yn gryf iawn 'na. Dyw bywyd ddim mor brysur chwaith. Serch hynny, ry'n ni'n byw ym Mlaencoed erbyn hyn sef ardal Dawnswyr Talog a dwi'n gweld tebygrwydd rhwng y ddwy gymdeithas.
A fyddet ti'n cynghori Cymry Cymraeg i ddilyn yn dy esgidiau di a dysgu Cymraeg ym Mhatagonia?
Yn bendant. Maen nhw'n frwd iawn i gael y Cymry i weithio yno fel y gwnes i. Mae 'na dair ysgol wedi eu sefydlu erbyn hyn sef Ysgol Yr Hendre, Ysgol Y Gaiman ac Ysgol Y Cwm. Mae 'na ddiffyg athrawon yn enwedig yn Nhrelew a does dim angen cymhwyster dysgu bellach. Yr hyn sy'n bwysig yw eich bod chi'n frwdfrydig ac yn angerddol.
Pryd wyt ti'n gobeithio mynd n么l i ymweld 芒'r Wladfa eto?
Dwi ddim yn si诺r ar hyn o bryd oherwydd dwi newydd ddechrau busnes ar lein yn gwerthu nwyddau harddwch organig ar gyfer y croen. Dwi a Fabio'n gobeithio ail-ddechrau teithiau i Batagonia eleni. Mae e'n dywysydd proffesiynol a bydd y teithiau'n para am bythefnos a hanner i ryw ugain o bobl.