Prentisiaethau: Toriadau 'syfrdanol' yn 'ddi-resymeg'
- Cyhoeddwyd
Mae dros 60 o gyflogwyr o bob rhan o Gymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiogelu cyllid ar gyfer prentisiaethau er mwyn osgoi "toriadau trychinebus".
Daw'r alwad mewn llythyr agored sydd wedi ei gyhoeddi gan yr elusen addysg 么l-16 ColegauCymru, sy'n lleisio pryderon ynghylch effeithiau cyllideb ddrafft y llywodraeth.
Mae'r cynlluniau i dorri prentisiaethau wedi eu disgrifio fel rhai "syfrdanol" allai "dynnu carped o dan yr holl waith da sydd wedi ei wneud".
Dywed Llywodraeth Cymru y byddan nhw'n "parhau i fuddsoddi mewn prentisiaethau o safon" er bod cyllidebau'n gostwng.
Toriad 'syfrdanol' i brentisiaethau
Mae 65 o gwmn茂au wedi ychwanegu eu henwau i'r llythyr, gan alw am ddiogelu cyllid ar gyfer rhaglen brentisiaethau Llywodraeth Cymru a "sicrhau dyfodol llewyrchus ar gyfer economi Cymru".
Yn eu plith mae'r cwmni d诺r Wales & West Utilities, Porthladd Aberdaugleddau, y cwmni technoleg Nexperia yng Nghasnewydd, a chymdeithas dai fwyaf y gogledd, Adra.
Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast ddydd Mercher, dywedodd Dafydd Evans, prif weithredwr y gr诺p colegau Llandrillo Menai fod y diwydiant prentisiaethau yn "wynebu toriad o 25% yn y niferoedd 'da ni'n medru derbyn i mewn i brentisiaeth fis Medi nesa'".
Fe ddisgrifiodd y toriad fel un "syfrdanol", gan ddweud y gallai "dynnu carped o dan yr holl waith da sydd wedi ei wneud dros y 10 mlynedd diwethaf".
Wrth edrych ar effaith y toriad, dywedodd fod hynny'n golygu bod "10,000 yn llai o bobl ifanc yn mynd mewn i brentisiaethau, ac mewn cyd-destun lleol mae hynny'n golygu 200 yn Ynys M么n, 300 yng Ngwynedd a 300 yng Nghonwy".
Aeth ymlaen i ddweud bod y niferoedd hynny yn rhai "sylweddol".
"Maen nhw [y bobl ifanc] am fod yn ddraen ar y llywodraeth felly ma' hyn yn benderfyniad hollol ddi-resymeg."
'Parhau i fuddsoddi'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Er gwaethaf y cyllidebau sy'n gostwng, byddwn yn parhau i fuddsoddi mewn prentisiaethau o safon ac yn darparu dyfodol llwyddiannus i'n pobl ifanc.
"Rydyn ni'n gweld manteision hirdymor prentisiaethau i unigolion - drwy adeiladu gyrfaoedd cryf ac ennill gwell cyflog yn y tymor hir - yn ogystal 芒 manteision i'r economi gyfan.
"Gyda gostyngiad yn llawer llai nag mewn llinellau cyllideb eraill, byddwn yn buddsoddi 拢138m y flwyddyn nesaf mewn prentisiaethau o safon sy'n darparu buddion tymor hir a gyrfaoedd cryfach."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd17 Hydref 2023