Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Datganoli cyfiawnder i Gymru yn 'gam trychinebus'
- Awdur, Rhodri Lewis
- Swydd, Gohebydd gwleidyddol 大象传媒 Cymru
Mae cyn-Ysgrifennydd Cyfiawnder Llywodraeth y DU wedi dweud y byddai datganoli cyfiawnder i Gymru yn "gam trychinebus".
Roedd Syr Robert Buckland yn siarad ar 么l i gomisiwn argymell y dylai Cymru gymryd rheolaeth dros gyfiawnder o San Steffan cyn gynted 芒 phosib.
Yn 么l Syr Robert, a gafodd ei eni yn Llanelli ac a fu'n gweithio fel bargyfreithiwr yng Nghymru am nifer o flynyddoedd, mae bod yn rhan o awdurdodaeth Cymru a Lloegr yn "dda i Gymru" ac ni ddylai hynny newid.
Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried cynnwys yr adroddiad.
Mae'r comisiwn yn dweud y dylai rheolaeth dros reilffyrdd a phlismona, yn ogystal 芒 chyfiawnder, ddod i Fae Caerdydd.
Ond mae Syr Robert yn dweud y byddai hynny'n gamgymeriad mawr.
"Dwi'n meddwl y byddai'n gam trychinebus i gyfiawnder yng Nghymru," meddai.
"Rydym fel rhan o awdurdodaeth Cymru a Lloegr, un o'r awdurdodaethau uchaf ei barch yn y byd.
"Mae'n henw da am reolaeth cyfraith, annibyniaeth ein barnwyr a'n proffesiwn cyfreithiol rhagorol hefyd yn golygu fod bod yn rhan o gorff mwy yn dda i Gymru.
"Mae'n dda i'r gyfraith yng Nghymru, ac rwy'n credu ei bod yn hanfodol, a dweud y gwir, ein bod yn aros fel un awdurdodaeth.
"Rwy'n gwrthod yn llwyr y syniad y byddem rywsut yn well ein byd gydag awdurdodaeth ar wah芒n i Gymru."
Cyn-archesgob Caergaint Dr Rowan Williams a'r Athro Laura McAllister yw cyd-gadeiryddion y comisiwn.
Maen nhw'n awgrymu tri opsiwn wrth edrych ar ddatganoli yn y dyfodol - ffurf gyda mwy o bwerau, system ffederal gyda chenhedloedd eraill y Deyrnas Unedig, ac annibyniaeth lawn.
Gallai annibyniaeth "gynnig potensial am newid cadarnhaol hirdymor drwy gael y pwerau i wella'r economi yn sylweddol," medd yr adroddiad, "ond mae'r rhan fwyaf o sylwebyddion yn cytuno y gallai Cymru fod ar ei cholled yn sylweddol yn y tymor byr i ganolig".
Ond yn 么l Syr Robert: "Dyw annibyniaeth ddim yn ymarferol bosib.
"Edrychwch ar yr hyn maen nhw'n ei ddweud am galedi.
"A ydyn ni wir eisiau mynd i lawr y ffordd o ddiboblogi am hanner can mlynedd, economi sydd ddim yn ffynnu, a gwlad fyddai'n symud yn 么l, nid ymlaen?
"Byddai annibyniaeth, dwi'n meddwl, yn golygu tlodi i Gymru, nid llwyddiant."
Mae'r comisiwn yn dweud nad oedd yn bwriadu argymell un opsiwn dros un arall, ac y bydd gwleidyddion yn cael y cyfle i drafod yr adroddiad.
Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford: "Mae'r adroddiad terfynol yn foment bwysig yn y ddadl ar daith gyfansoddiadol Cymru.
"Mae'n ddarn difrifol o waith sy'n haeddu ystyriaeth ofalus, a bydd Llywodraeth Cymru yn ei adolygu'n fanwl."
Mae mwy am y stori yma ar Politics Wales ar 大象传媒 One Wales am 10:00 ddydd Sul.