大象传媒

Llio Angharad: 'Mae creu bwyd yn gelf'

  • Cyhoeddwyd
Llio AngharadFfynhonnell y llun, Llio Angharad

"Dwi'n gweld creu bwyd a chreu ryseitiau yn gelf ac mae'n wyddonol achos ti angen i bob dim weithio efo'i gilydd i greu pryd neis. Dwi'n meddwl bod o'n amazing sut mae pobl yn gallu creu pethau o'u pennau i neud pryd mor neis."

Mae cariad Llio Angharad at fwyd wedi siapio ei bywyd a'i gyrfa. A hithau'n Wythnos Cariad Cymru Fyw, dyma'r blogiwr bwyd o Ynys M么n yn rhannu sut mae bwyd yn 'obsesiwn' iddi ac wedi chwarae rhan hanfodol yn ei bywyd.

'Nes i ddechrau'r blogio a ballu tua 10 mlynedd yn 么l. Oherwydd bod fi'n byw yng Nghaerdydd oedd lot o bobl o adra sef Ynys M么n wastad yn gofyn am y lle gorau i fynd i aros, i fwyta, cael peint ac o'n i'n gyrru rhestr o lefydd i fynd ac yn neud guides bach.

'Nes i ddechrau rhannu nhw ar social media jest er mwyn ffrindia fi achos doedd neb yn dilyn fi, dim ond ffrindiau o adra. 'Nath o ddechrau tyfu a 'nes i greu mwy a mwy. Ac o'n i'n mwynhau neud nhw.

Mae bwyd a mynd allan am fwyd wedi bod yn ran o'm mywyd i ers pan o'n i'n fach. Dwi'n cofio yn 12 oed o'n i'n desbret i fynd i weithio efo bwyd so 'nes i gerdded tair milltir i'r (bwyty) Lobster Pot, peidio dweud wrth Mam a Dad a dweud celwyddau am fy oed i er mwyn cael job yn gweithio'n y gegin.

Ffynhonnell y llun, Llio Angharad

Gweithio mewn cegin

O'n i'n troi'n 13 oed a ges i fynd i weithio yno (yn y Lobster Pot). Ac o'n i mor ecsited. O'n i'n edrych mlaen i gael pres a prynu stwff fy hun ond hefyd o'n i'n cael mynd i weithio mewn lle bwyd...

O'n i'n waitress am tua blwyddyn ond o'n i rili isio mynd i'r gegin. Ges i gyfle am fod rhywun yn s芒l a fan 'na fues i yn y Lobster Pot efo Steff (y cogydd) yn gwylio fo'n neud yr holl fwyd mor anhygoel yma.

Ar ddiwedd y shifft oeddan ni'n cael bwyd ac ar nos Sadwrn o'n ni'n cael bwyd bach mwy swanky na chips ac o'n i'n cael blasu'r bwyd.

Ffynhonnell y llun, Llio Angharad

Edmygedd

Dwi'n mynd yn starstruck ddim efo pobl fel cerddorion, actorion ond efo chefs - dwin meddwl 'waw, maen nhw'n neud pethau amazing, maen nhw'n creu prydau amazing a dwi mewn awe o beth maen nhw'n neud'.

Dwi'n eitha' lwcus achos dwi wedi cael gweithio efo pobl fel (y cogyddion) Gino D'Acampo, Jamie Oliver - oedd Gino yn dipyn o gymeriad, union fel mae o ar y teledu.

Dwi hefyd wedi gweithio efo Sainsbury's yn cael blasu'r bwyd cyn bod o'n mynd mewn i'r archfarchnadoedd. Nid yn unig bod fi'n hoffi bwyd ac yn licio rhannu lle dwi'n mynd a bwyd da efo pobl ond hefyd dwi wedi cael cymaint o brofiad yn gweithio yn y sector bwyd hefyd.

Es i i weithio i Lobster Pot ac i Caffi Mam ac hefyd ges i gyfle i fynd i goginio efo Marco Pierre White yn dysgu sgiliau Ffrengig so oedd hwnna'n brofiad anhygoel hefyd ac mae e'n andros o gymeriad.

Plentyndod

Dwi'n ferch ffarm so pan o'n i'n fach iawn oedd Dad yn esbonio'r broses o greu cig a beth oeddan ni'n fwyta, bod gynno ni ffarm, lle oedd yr anifeiliaid yn mynd. O'n i'n deall y broses 'na o pan o'n i'n ifanc ac yn gwerthfawrogi a pharchu y broses 'na am fod gen i berthynas efo'r anifeiliaid mewn ffordd ac yn gwario amser yn edrych ar eu holau nhw ac yn helpu Dad allan.

Mae hynny mor bwysig i fi o ran cefnogi ffermwyr yng Nghymru ac hefyd cynhyrchwyr bach o gwmpas Cymru.

Cychwyn

Mae gwraidd yr holl beth o gariad tuag at fwyd yn dod o atgofion melys o fod efo Nain Cae Hen. Dyna lle oeddwn i'n gwylio Nain yn coginio, oeddan ni'n cael chats bach pan oedd hi'n neud y pastry neu neud y tarten rhiwbob ac oedd hi'n cael y rhiwbob o lawr y l么n o Gae Goll - oedd y gymuned i gyd yn helpu ei gilydd.

Ffynhonnell y llun, Llio Angharad
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Llio gyda Nain Cae Hen

Os oedd genni hi ddim llefrith na menyn oeddan nhw'n mynd i'r siop i n么l o iddi hi ac oedd hi'n neud cacen i'r bobl oedd yn byw'n agos iddi hi yn ogystal ag i'r teulu.

Mae gen i atgofion o gael sgyrsiau efo Nain a bod yn ran o goginio efo Nain ac oedd o'n amser rili rili neis. Dwi'n meddwl bod hi wedi bod yn ran mawr o'r profiad yna achos fy atgof cyntaf i o fwyd a chreu bwyd oedd gyda hi. Oedd hi'r person mwyaf awesome yn y byd.

Pryd olaf ar y ddaear

Pei corned beef, beans a chips, brechdan gwyn a digon o fenyn fel pan ti'n brathu y bechdan mae 'na farcia danedd a sticky toffee pudding.

Pynciau cysylltiedig