Gweinidog: Goruchwylio tri bwrdd iechyd yn fanylach
- Cyhoeddwyd
Bydd Llywodraeth Cymru yn goruchwylio tri bwrdd iechyd yng ngorllewin a de Cymru yn fanylach.
Yn y Senedd nos Fawrth fe gyhoeddodd Eluned Morgan y bwriad i ymyrryd yng ngwaith Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.
Ychwanegodd nad "cosb" oedd y camau ond "cydnabyddiaeth" y gallai "gweithio ar y cyd wneud pethau'n well".
Ond dywedodd y Ceidwadwyr fod y penderfyniad yn "syndod" a bod y gwasanaeth iechyd yng Nghymru mewn cyflwr "sobor iawn".
Yn 么l Plaid Cymru mae'n "codi'r cwestiwn" o faint o reolaeth sydd gan Lywodraeth Cymru dros y GIG.
'Pryder'
Wrth siarad yn y Senedd ddydd Mawrth dywedodd Eluned Morgan fod y GIG "o dan bwysau dwys" ond mai ei gwaith hi oedd sicrhau ei fod yn "darparu'r gofal gorau posib".
Ychwanegodd, er iddi ddirprwyo'r cyfrifoldeb hwnnw i fyrddau iechyd, weithiau roedd yn rhaid iddi wneud "penderfyniadau difrifol a oes angen cymorth a goruchwyliaeth ychwanegol ar sefydliadau'r GIG".
Mae'r penderfyniad yn golygu bod bellach pum lefel o oruchwyliaeth - trefniadau arferol, meysydd sy'n peri pryder, gwell monitro, ymyrraeth darged, a'r lefel uchaf sef mesurau arbennig.
Dywedodd y gweinidog y byddai'n gosod holl Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yng ngorllewin a chanolbarth Cymru i ymyrraeth wedi'i thargedu oherwydd bod "heriau" ariannol a chynllunio yn effeithio ar ei berfformiad.
Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, dywedodd y byddai'n "cynyddu'r lefel uwch gyfeirio i ymyrraeth wedi'i thargedu ar gyfer perfformiad a chanlyniadau".
Ychwanegodd ei bod yn "arbennig o bryderus" am yr adran achosion brys yn Ysbyty Athrofaol Y Faenor yng Nghwmbr芒n, sy'n rhan o Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan, gan gynyddu'r ymyrraeth i wella monitro perfformiad a chanlyniadau.
Ond cadarnhaodd na fyddai unrhyw newidiadau yn cael eu gwneud i lefelau ymyrraeth y pedwar bwrdd iechyd arall.
Mae Betsi Cadwaladr yn parhau i fod o dan fesurau arbennig - y lefel uchaf o ymyrraeth - a Chaerdydd a'r Fro yn parhau i gael ei fonitro'n well ar gyfer cynllunio a chyllid, fel y mae Powys a Chwm Taf Morgannwg.
Mae Cwm Taf Morgannwg hefyd yn parhau mewn ymyrraeth wedi'i thargedu ar gyfer perfformiad.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod gwasanaethau iechyd "dan bwysau aruthrol" ac y byddai'r penderfyniadau a wneir yn "cefnogi byrddau iechyd ymhellach ... yn ystod cyfnod anodd a heriol".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Ionawr
- Cyhoeddwyd18 Ionawr
- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2023