Dim cynllunio 'wyneb yn wyneb' cyn taith angheuol sgowt - cwest
- Cyhoeddwyd
Mae un o ddau arweinydd sgowtiaid aeth a gr诺p i wersylla yng ngogledd Cymru wedi dweud wrth gwest nad oedd unrhyw gynllunio "wyneb yn wyneb" wedi digwydd ar gyfer y daith.
Bu farw Ben Leonard, 16 oed, ar 么l iddo gael anaf difrifol i'w ben pan ddisgynnodd oddi ar glogwyni'r Gogarth yn Llandudno ar 26 Awst, 2018.
Dywedodd Gareth Williams, 31 oed, a oedd yn arweinydd cynorthwyol i'r Reddish Scouts wrth y cwest ym Manceinion ei fod wedi cael cais i fynychu'r daith gan yr arweinydd, Sean Glaister.
Er iddo gael e-bost gydag amserlen y daith, dywedodd Mr Williams nad oedd wedi cael unrhyw fapiau, asesiadau risg na dogfennau eraill.
Fe ofynnodd bargyfreithiwr y cwest, Sophie Cartwright beth oedd ei ddealltwriaeth o'r hyn yr oedd wedi cytuno i wneud, beth oedd ei rolau a'i gyfrifoldebau.
Fe atebodd gan ddweud ei fod wedi bod yno i helpu gyda chludo pawb, ond mai "p芒r arall o ddwylo" yn unig ydoedd, heb unrhyw "r么l" benodol.
Y bwriad gwreiddiol ar gyfer y daith oedd cerdded i gopa'r Wyddfa, ond bu'n rhaid newid y cynlluniau oherwydd rhagolygon y tywydd.
O ganlyniad, fe aeth y gr诺p ar daith i Landudno yng Nghonwy ac i gerdded ar y Gogarth.
Fe gafodd Ben Leonard a dau o'i ffrindiau eu gwahanu o'r gr诺p gan ddilyn llwybr arall, pan lithrodd Ben a syrthio.
Dywedodd Mr Williams wrth reithgor y cwest nad oedd yn credu bod Mr Glaister wedi bod i'r gwersyll yn Eryri ble arhosodd y gr诺p, ac nad oedd yn ymwybodol bod rhag-archwiliad o'r ardal honno na'r ardaloedd eraill yr oedd y gr诺p fod ymweld wedi digwydd.
Dywedodd Mr Williams, a oedd wedi gadael Cymdeithas y Sgowtiaid yn 2020, nad oedd yn credu fod ganddo hyfforddiant o safon ar adeg y daith, ac nad oedd yn creu bod ei r么l fel arweinydd cynorthwyol wedi cael ei gymeradwyo.
Fe ofynnwyd iddo hefyd am ei ddealltwriaeth o'r term "in loco parentis", sef bod 芒 chyfrifoldeb am blant yn absenoldeb rhieni neu warcheidwaid.
Dywedodd wrth y cwest ei fod yn gwybod beth oedd ystyr y term oherwydd y cwest, ond nad oedd wedi meddwl amdano.
Dywedodd wrth y llys fod Sean Glaister yn "fachgen neis" ac yn "frwdfrydig", a'i fod yn credu mai Mr Glaister oedd yr "arweinydd oedd yn gyfrifol" yn ystod y penwythnos hwnnw, "ei daith ef oedd hon" meddai.
Mae'r cwest yn parhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Ionawr