大象传媒

Safle dros dro i feithrinfa Gymraeg wedi t芒n difrifol

  • Cyhoeddwyd
T芒n CasnewyddFfynhonnell y llun, Darren Thomas
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r adeilad wedi ei gondemnio yn dilyn y t芒n ganol Ionawr

Mae'r unig feithrinfa Gymraeg yng Nghasnewydd wedi sicrhau lleoliad dros dro yn dilyn t芒n difrifol.

Fe gafodd adeilad Meithrinfa Wibli Wobli yng Nghasnewydd ei llosgi'n llwyr mewn digwyddiad nos Sul 15 Ionawr.

Chafodd neb ei anafu yn y digwyddiad, ond bu'n rhaid cau'r safle ac fe fydd yn rhaid ei ddymchwel.

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd y feithrinfa fod "t卯m Wibli Wobli wedi llwyddo i sicrhau lleoliad dros dro i barhau i redeg ein gwasanaeth... gyda diolch enfawr i Ysgol Gynradd Parc Tredegar am ein lletya".

Fe ychwanegon nhw eu bod yn "brysur yn sicrhau lleoliad parhaol hefyd a gobeithio y bydd gennym ychydig o newyddion i'w rannu yn fuan".

Wrth siarad gyda Cymru Fyw fe ddywedodd rheolwr y feithrinfa, Natasha Baker bod yna "sioc lwyr ac anghrediniaeth" wedi'r t芒n.

Ei phryder fwyaf, meddai, yw sefyllfa staff a rhieni "sy'n dibynnu ar y gwasanaeth... mae'r t芒n wedi cael effaith enfawr ar eu bywoliaethau".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r gefnogaeth gan unigolion, mudiadau a busnesau lleol wedi bod yn arbennig, meddai Natasha Baker

Dywedodd ei bod yn cysylltu'n rheolaidd gyda'r rhieni i rannu'r wybodaeth ddiweddaraf, ac wedi trefnu digwyddiad y penwythnos yma fel bod staff, rhieni a phlant yn gallu cwrdd.

"Mae llawer o blant wedi bod yn ofidus iawn pan, yn sydyn, doedden nhw methu dychwelyd i'r feithrinfa a gweld eu ffrindie a staff."

'Popeth wedi ei ddinistrio'n llwyr'

Agorodd Meithrinfa Wibli Wobli yn Ebrill 2023 fel y feithrinfa ddwyieithog gyntaf yn yr ardal.

"Mae'r adeilad wedi cael ei gondemnio a bydd yn rhaid ei ddymchwel - mae popeth tu mewn wedi ei ddinistrio'n llwyr, gan gynnwys ein holl offer," dywedodd Ms Baker.

"Rydym wedi bod yn gweithio ddydd a nos yn cysylltu 芒 landlordiaid a mudiadau cymunedol ar draws y ddinas. Mae'r cyngor wedi bod yn amhrisiadwy o ran mynd ati i helpu sicrhau datrysiad dros dro ar gyfer ein staff a rhieni."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y difrod wedi'r t芒n

Ar 么l derbyn cynnig i ddefnyddio adeilad addas yn Ysgol Gynradd Parc Tredegar yn ardal Dyffryn ar gyrion y ddinas, mae'r feithrinfa wedi cyflwyno cais i gofrestru'r safle gydag Arolygiaeth Gofal Cymru.

Ond gan ei fod yn llai na'r adeilad aeth ar d芒n, mae'r cais hwnnw ar gyfer derbyn 26 o blant yn hytrach na 60.

"Dyna'r nifer uchaf gallai'r gofod ei dderbyn," dywedodd Ms Baker. "Dylai hynny fod yn ddigon i gefnogi ein teuluoedd sy'n dal yn daer angen gofal plant.

"Cyn gynted ag y gawn ni s锚l bendith, gallwn ni groesawu ein teuluoedd yn 么l oherwydd mae llawer ohonyn nhw yn dal yn stryglo ac yn dal heb ddod o hyd i ofal plant rywle arall."

Ychwanegodd bod yr holl negeseuon o gefnogaeth wedi'r t芒n a'r cynigion i helpu'n ymarferol neu'n ariannol wedi bod yn "wirioneddol ffantastig".

"Fe fydd yr yswiriant ond yn talu am hyn a hyn ac mae llawer o hwnnw'n mynd ar gadw staff," dywedodd.

"Fe fydd cyfraniadau o'r gymuned, felly, yn amhrisiadwy i ni."

Pynciau cysylltiedig