大象传媒

Cau dwy ganolfan Ambiwlans Awyr yn dal dan ystyriaeth

  • Cyhoeddwyd
Ambiwlans Awyr
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ym mis Mawrth 2023 cyhoeddodd yr elusen y byddai'r ddau safle yn parhau i fod yn weithredol tan o leiaf 2026

Mae opsiynau i gau dwy ganolfan Ambiwlans Awyr Cymru yn y gogledd a'r canolbarth yn dal dan ystyriaeth, yn 么l adolygiad i'r gwasanaeth.

Mae'r adolygiad i wasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru wedi nodi dau opsiwn ar y rhestr fer sy'n cynnwys cau canolfannau ambiwlans awyr yn Y Trallwng a Chaernarfon.

Fe fyddai hofrenyddion brys y ddwy ganolfan yn cael eu hadleoli i safle ger yr A55 yng nghanol y rhanbarth fel rhan o'r newidiadau arfaethedig.

Mae ymgyrchwyr wedi dadlau'n gryf yn y ddwy ardal dros gadw'r canolfannau ar agor.

Roedd yr elusen wedi datgan ym Mawrth 2023 y byddai'r ddau safle'n parhau ar agor tan o leiaf 2026 yn dilyn cytundeb gwerth 拢65m gyda phartner hedfan newydd.

Fe fydd yr opsiynau'n cael eu trafod mewn cyfarfod o'r Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys yr wythnos nesaf cyn rownd derfynol o ymgysylltu 芒'r cyhoedd ym mis Chwefror.

Mae rhestr fer yr adolygiad yn debygol o ddigio ymgyrchwyr sy'n ofni y bydd ardaloedd gwledig ar eu colled pe bai'r ddwy ganolfan yn cau.

Mae dogfennau ar gyfer cyfarfod y pwyllgor ar 30 Ionawr yn cynnwys manylion y ddau opsiwn ar y rhestr fer, sef:

  • Uno shifftiau unigol Y Trallwng a Chaernarfon a chreu un shifft o ganolfan ger yr A55 a newid amserau'r sifft i 08:00-20:00 a 14:00-02:00.

  • Yr un manylion 芒'r uchod ond gan ychwanegu shifft car 2000-0800 yn Wrecsam.

Yn ystod Cam 2 yr adolygiad y llynedd roedd yr opsiynau hyn yn cael eu galw'n Opsiynau 3D a 4C. Yn ystod Cam 3 yr adolygiad byddan nhw'n cael eu cyfeirio atyn nhw fel Opsiynau A a B.

Mae ymgyrchwyr yn y canolbarth yn ffafrio Opsiwn 6 o Gam 2, a fyddai'n cadw canolfannau'r Trallwng a Chaernarfon ar agor ac yn ychwanegu cerbyd ymateb brys i leoliad yng ngogledd Cymru.

Fe wnaeth bron i 5,000 o bobl lofnodi deiseb ar-lein yn 2022 yn gwrthwynebu cau canolfan Caernarfon.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd tua 100 o bobl mewn cyfarfod yn Y Drenewydd y llynedd i ymgyrchu dros gadw canolfan Y Trallwng tu hwnt i 2026

Ym mis Chwefror, bydd Cam 3 o'r adolygiad yn gofyn am farn aelodau'r cyhoedd ar y ddau opsiwn A a B ar y rhestr fer, ynghyd 芒 chwe opsiwn arall.

Mae yna wahoddiad hefyd i roi barn ar "gamau ychwanegol sydd wedi'u nodi mewn ymateb i adborth gan y cyhoedd a rhanddeiliaid o Gamau 1 a 2".

Dywed y gwasanaeth bod y pwyllgor yn adolygu'r ddarpariaeth ambiwlans awyr er mwyn "gwella ac addasu'r gwasanaeth i ateb cymaint o alw 芒 phosib yng Nghymru".

Pynciau cysylltiedig