´óÏó´«Ã½

±Êê±ô-»å°ù´Ç±ð»åwyr drud Cymru

  • Cyhoeddwyd
Ian RushFfynhonnell y llun, Getty Images

Gyda'r ffenestr drosglwyddo ar fin cau, Dylan Griffiths sy'n edrych ar rai o'r chwaraewyr pêl-droed o Gymru sydd wedi symud am ffioedd mawr o'r 1950au hyd heddiw.

Trevor Ford

Mi oedd Trevor Ford yn dipyn o gymeriad. Er na welais i erioed o'n chwarae, dwi wedi clywed digon amdano gan eraill i wybod cystal chwaraewr ydoedd. Oherwydd yr Ail Ryfel Byd mi oedd Ford yn gymharol hen cyn gwneud ei farc.

Amddiffynwr oedd o yn wreiddiol cyn symud i chwarae yn y llinell flaen. Abertawe oedd ei glwb cyntaf a bu'n sgorio'n rheolaidd. O ganlynad i hynny fe wnaeth o ddenu sylw Aston Villa.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Wedyn yn 1950 mi ymunodd gyda Sunderland am £30,000 oedd yn record byd am chwaraewr ar y pryd. Mi gafodd dŷ gan y clwb yn ogystal â £250 am ymuno - rhywbeth fyddai'n effeithio ar ei yrfa yn ddiweddarach.

Mi sgoriodd hat-trick yn ei gêm gyntaf, torri'r postyn yn ogystal â boch gwrthwynebydd. Roedd derbyn y taliad o £250 yn groes i reolau'r Gynghrair Bêl Droed ac oherwydd hyn mi gafodd ei adael allan o garfan Cymru ar gyfer Cwpan y Byd yn 1958.

Mi gafodd gyfnod gyda PSV Eindhoven a Chaerdydd hefyd gan sgorio 23 gôl mewn 38 cap i'w wlad.

Gareth Bale

Wedi tymor disglair efo Tottenham Hotspur roedd clybiau mwya'r byd yn awyddus i arwyddo Gareth Bale. Real Madrid oedd dewis y Cymro am swm o £83.5 miliwn; record byd ar y pryd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Bale oedd yr 42ain person yn hanes y gêm i dorri'r record i fod y chwaraewr drytaf yn y byd.

Tuag at ddiwedd ei yrfa yn y Bernabéu, cymysg oedd barn cefnogwyr Madrid amdano ond mae'r hyn gyflawnodd yn ei gyfnod yn Sbaen yn rhyfeddol - ennill Cynghrair y Pencampwyr bum gwaith, gan sgorio yn y rownd dderfynol ddwywaith; ennill La Liga a'r Super Cup dair gwaith, Cwpan Clwb y Byd dair gwaith, a Chwpan Sbaen.

Mi fyddai unrhyw chwaraewr yn fodlon gyda'r cyfanswm yma!

Brennan Johnson

Gyda chyfnod Gareth Bale gyda Chymru'n dirwyn i ben, y cwestiwn naturiol oedd pwy fyddai'n camu i'r adwy gan sgorio a chreu'r goliau? Brennan Johnson ydy'r gobaith mawr, er efallai y bydd yn rhaid i ni fod yn amyneddgar cyn iddo wireddu ei lawn botensial.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae Tottenham wedi gweld digon ynddo i dalu £47.5 miliwn am ei wasanaeth. Mi ymunodd yr asgellwr gyda'r clwb o Lundain ym mis Medi 2023 wedi cyfnod llwyddiannus gyda Nottingham Forest.

Mae o wedi arwyddo cytundeb chwe blynedd o hyd ac mae'r swm y gwnaeth Forest ei dderbyn amdano yn record i'r clwb.

Ian Rush

Dyma chwaraewr symudodd o Gaer i Lerpwl am £300,000, ond bu'n rhaid iddo fod yn amyneddgar a bu'n anfodlon gan nad oedd yn cael cyfle i chwarae yno. Ond pan ddaeth ei gyfle, fe wnaeth gyfraniad aruthrol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Rush sydd â'r record hyd heddiw am y nifer fwyaf o goliau i'r clwb, sef 346 mewn 660 o gemau. Roedd Rush yn barod am her newydd yn 1986 ac mi symudodd i'r Eidal ac ymuno gyda Juventus am £3.2 miliwn, a oedd yn record Brydeinig.

Doedd ei gyfnod yno ddim yr hapusaf i'r ymosodwr a dychwelyd wnaeth o i Lerpwl am record arall i glwb o Loegr ei dalu, sef £2.7 miliwn.

Fel Gareth Bale mae'r rhestr o wahanol dlysau yr enillodd yn un hirfaith; pump Pencampwriaeth Lloegr, Cwpan FA Lloegr ar dri achlysur, Cwpan y Gynghrair bump gwaith a dau Gwpan Ewrop.

John Hartson

Mi gafodd John Hartson yrfa lewyrchus gyda sawl clwb. Luton oedd y clwb cyntaf cyn symud i ogledd Llundain ac i Arsenal yn 1995. £2.5 miliwn oedd y swm a dalwyd amdano - oedd yn record Brydeinig i glwb ei dalu am chwaraewr yn ei arddegau; 19 oed oedd Hartson.

Aros yn Llundain y gwnaeth o pan symudodd i West Ham yn 1997 am £3.2 miliwn. Eto roedd hyn yn record ar y pryd i West Ham ei dalu am chwaraewr, ac mi sgoriodd 33 gôl mewn 77 o gemau.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

O West Ham i Wimbledon, ac roedd y ffî roedd clybiau yn fodlon ei dalu am ei wasanaeth yn cynyddu bob tro - gyda Wimbledon y tro yma yn torri record y clwb gan dalu £7.5 miliwn. Roedd anafiadau'n dechrau effeithio arno, a bu bron iddo ymuno gyda Rangers a Tottenham ond roedd pryder am ei ffitrwydd, felly mi symudodd i Coventry.

Mewn cyfnod byr gyda'r clwb fe greodd dipyn o argraff, nes i glwb Celtic yn yr Alban dalu £6 miliwn amdano. Roedd y cyfnod yma yn un llwyddiannus iddo gan i Celtic ennill y Bencampwriaeth dair gwaith.

Tuag at ddiwedd ei yrfa mi symudodd i'r Hawthorns ac i West Bromwich Albion am hanner miliwn cyn cael cyfnod ar fenthyg gyda Norwich. Mi wnaeth Hartson ymddeol yn 2008. Mi sgoriodd 14 gôl mewn 51 o gapiau hefyd i Gymru.

Hefyd o ddiddordeb: