Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cost plismona protestio Gwesty Parc y Strade dros 拢1m
Roedd cost plismona protestiadau Gwesty Parc y Strade dros 拢1m i Heddlu Dyfed-Powys, mae cais rhyddid gwybodaeth gan 大象传媒 Cymru wedi datgelu.
Fe ddechreuodd y protestiadau tu allan i'r gwesty ger Llanelli fis Gorffennaf y llynedd, wedi i'r Swyddfa Gartref gyhoeddi cynlluniau i gartrefu dros 200 o geiswyr lloches yno.
Cafodd nifer o brotestwyr eu harestio, gydag Uwch-arolygydd Heddlu Dyfed-Powys, Ross Evans yn disgrifio'r cyfnod fel un "hynod o heriol" i'r llu.
Ar y pryd, fe ddisgrifiodd Cyngor Sir Caerfyrddin y sefyllfa hefyd fel yr "achos tristaf a mwyaf rhwygol ac anodd yr ydym wedi gorfod delio ag ef".
Roedd pryderon gwirioneddol am ba mor addas oedd y safle, a hynny gan bobl leol a gwrthbleidiau.
Roedd t芒n ar safle'r gwesty fis Hydref, gyda'r gwasanaeth t芒n yn gorfod cau'r safle dros bryderon diogelwch.
Ddyddiau'n unig wedi hynny, fe ddaeth tro pedol gan y Swyddfa Gartref, a gadarnhaodd na fyddai ceiswyr lloches yn cael eu cartrefu yn y gwesty wedi'r cwbl.
Yn sgil y cyhoeddiad, daeth y protestio i ben, a hynny wedi misoedd o darfu.
Cyfanswm o 拢1,165,192
Yn 么l gwybodaeth sydd wedi dod i law drwy gais dan y ddeddf rhyddid gwybodaeth, daeth i'r amlwg fod plismona'r protestiadau wedi costio cyfanswm o 拢1,165,192.88 i Heddlu Dyfed-Powys.
Yn sgil cadarnhad o'r gost derfynol, dywedodd Mr Llywelyn ei fod wedi "gyrru sawl llythyr i'r ysgrifennydd cartref ar y pryd, yn annog y Swyddfa Gartref i ail-ystyried eu penderfyniad ar frys".
"Roedd tensiwn o amgylch y safle wedi tyfu yn ddyddiol am wythnosau, ac roedd rhaid cael swyddogion a staff i weithio o fewn amgylchedd heriol a oedd yn sathru ar ein perthynas bositif gyda'r gymuned a wnaeth arwain at gostau sylweddol ynghylch plismona'r safle."
Yn siarad gyda 大象传媒 Cymru ychwanegodd Mr Llywelyn: "Ma' hwnna'n cynnwys arian i dalu staff am overtime ond hefyd y costau hynny o redeg y gweithredu yna roedd y llu yn ymdopi gyda - y protestiadau.
"Ma' hwnna'n swm sylweddol o arian cyhoeddus. Arian fydde wedi cael ei neilltuo ar gyfer gwasanaethau o fewn ein cymunedau ar draws ardal Dyfed-Powys yn ei gyfanrwydd.
"O' ni'n brofiadol gan bo' ni wedi delio gyda digwyddiad tebyg iawn yn ardal Penally yn Sir Benfro rhai blynyddoedd yn 么l, felly o'n i yn ymwybodol bod e'n mynd i fod yn gostus.
"Ond unwaith chi'n dechrau rhoi cyfanswm i'r amser mae'r swyddogion yn gwario a threulio yn ymateb i'r digwyddiadau hyn, mae'r gost yn gallu cynyddu yn eithaf sylweddol.
"Ni'n bod yn agored iawn yngl欧n 芒 hyn. Dw'i di bod yn agored iawn i gyhoeddi bo' ni'n chwilio ac yn gofyn i'r Swyddfa Gartref i ymateb ac i dalu yr arian yma a dal yn gofyn y cwestiynau hynny.
"Yn anffodus, dyw'r Swyddfa Gartref ddim yn rhoi'r atebion, ac yn bendant yngl欧n 芒'r arian - maen nhw'n bendant iawn yngl欧n 芒 nad oes yna le i ni gael yr arian n么l."
Galw am ddysgu gwersi
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin hefyd wedi gwneud cais i hawlio 拢230,000 mewn costau gan y Swyddfa Gartref, yn dilyn methiant y cynllun i gartrefu ceiswyr lloches yn Llanelli.
Yn 么l y Parchedig Aled Edwards, a gadeiriodd sesiwn holi ac ateb ar y cynlluniau oedd yn cynnwys rhanddeiliaid allweddol, mae'n rhaid dysgu gwersi.
Dywedodd: "Mae'n rhaid i chi gael democratiaeth dda i weithio.
"Mae hynna'n golygu bod yr elfennau sy'n medru cyfrannu at y prosiect i gyd yno, yn cyd-drafod gyda'i gilydd. Hwnna dwi'n credu sydd yn lleihau tensiwn.
"Lle 'dach chi'n gwneud hynny mewn modd sy'n dryloyw, mae hynny hefyd o gymorth."
Aeth ymlaen i ddweud: "Falle bod 'na wersi i'w dysgu fan hyn, trafod cynnar, trafod agored, falle'n dwad i ganlyniad fyddai wedi bod yn fwy hyblyg ac yn fwy buddiol yn yr achos yma."
Wrth ymateb i'r gost, dywedodd Nia Griffith, Aelod Seneddol Llafur dros Lanelli, fod cynnig y Tor茂aid ar gyfer Gwesty Parc y Strade yn "drychineb o'r cychwyn i'r diwedd".
Dywedodd: "Mae'r ffaith iddyn nhw wario dros filiwn o bunnoedd er mwyn plismona rhywbeth hollol ddiangen yn sgandal."
"Fe ddylai, a gallai'r arian hwnnw fod wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer swyddogion rheng flaen yn yr ardal, gan warchod y strydoedd a'r cymunedau."
Aeth ymlaen i ddweud bod yn rhaid i Lywodraeth y DU sicrhau fod Heddlu Dyfed-Powys yn cael eu digolledu yn llwyr, gan sicrhau "na fydd pobl leol yn gorfod talu am y gyflafan".
Dywedodd y Swyddfa Gartref fod y llywodraeth yn gwneud "cynnydd sylweddol o ran symud ceiswyr lloches allan o westai, sy'n costio 拢8.2m y diwrnod i drethdalwyr".
Fe ychwanegon nhw eu bod "wedi ymrwymo i sicrhau fod gan yr heddlu yr offer y maen nhw eu hangen er mwyn cadw'r cyhoedd yn saff, ac wedi cadarnhau setliad ariannol o 拢18.4bn ar gyfer 2024-24 gan gynnwys hyd at 拢148m i Heddlu Dyfed-Powys".
Mae Gwesty Parc y Strade yn parhau ar gau.