大象传媒

Rhannu realiti bod yn rhiant ar gyfryngau cymdeithasol

  • Cyhoeddwyd
Sharlaine a'i theuluFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Sharlaine Quick a'i theulu

Mae mwy o rieni yn troi at gyfryngau cymdeithasol er mwyn rhannu delweddau realistig o fywyd wrth fagu plant.

Er y pwysau cyson i ddangos y bywyd 'perffaith' ar-lein, mae Sharlaine Quick a Gwawr Job-Davies o'r farn bod angen bod "yn agored".

Dywedodd Ms Quick bod cyfryngau fel Instagram wedi galluogi iddi "greu cymuned ar-lein sy'n ymddiddori yn yr un pethe".

Mae ymchwiliad diweddar wedi darganfod bod bron i hanner rhieni yn credu bod y cyfryngau cymdeithasol yn gosod disgwyliadau anghyraeddadwy pan ddaw at fagu plant.

'Rhannu'r realiti'

Mae Sharlaine Quick o Sir Benfro wedi bod yn rhannu elfennau o'i bywyd ar ei chyfrif Instagram ers iddi gael ei dau fab rai blynyddoedd yn 么l.

Dywedodd bod Instagram yn gyfle i "rannu syniadau", ac mae bellach wedi "creu cymuned ar lein sy'n ymddiddori yn yr un pethe".

Yn ogystal 芒 rhannu cynnwys hapus a phositif, mae Ms Quick wedi bod yn onest am y problemau mae'n wynebu fel rhiant, gan gynnwys trafferthion cysgu ei mab Ralffi.

Dywedodd Ms Quick ei bod hi'n "joio siarad gyda mamau eraill sydd ddim yn cysgu".

"Fi'n meddwl bod lot o bobl erbyn hyn yn rhannu'r realiti o motherhood, ac mae yn gwneud pawb i deimlo'n well."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ralffi a Cooper - meibion Sharlaine Quick

Aeth ymlaen i ddweud bod y cyfrifon yma yn rhannu'r "ups and downs o fywyd, a fi'n si诺r dewch chi ar draws rywun sy'n mynd trwy rywbeth tebyg i chi".

Fe gafodd Ms Quick a'i g诺r Carwyn eu meibion drwy driniaeth IVF, ac mae'n dweud ei bod yn "teimlo'n gryf" bod angen rhannu hynny.

Dywedodd: "Dwi'n meddwl bod y stigma yn dod o beidio siarad yn gyhoeddus amdano fe, so oedd hwnna'n benderfyniad nes i'n go glou, sef 'mod i'n mynd i rannu gymaint ag o'n i'n teimlo'n hapus i 'neud fel bod pobl eraill yn teimlo fel nag y'n nhw ar eu pennau eu hunain."

'Y da, y drwg a phopeth rhwng hynny'

Fe wnaeth Gwawr Job-Davies a'i gwraig, Catrin, fabwysiadu gefeilliaid pum mlynedd yn 么l, ac maen nhw o'r farn ei bod hi'n bwysig i fod yn "agored" am eu teulu, a rhannu'r daith ar-lein.

Aeth ymlaen i s么n mai mabwysiadu yw'r "peth gorau i fi a Catrin ei wneud ond hefyd y peth anoddaf. Dwi eisiau gallu rhannu darlun realistig o beth yw mabwysiadu."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Gwawr Job-Davies yn gobeithio bod ei chyfrif yn "helpu rhai sy'n mynd trwy rywbeth tebyg"

Fe gychwynnodd Ms Job-Davies ei chyfrif Instagram ar 么l sylwi cyn lleied o gynnwys Cymraeg oedd ar y pwnc.

Yn debyg i gyfrif Sharlaine Quick, wrth rannu ei phrofiad, dywedodd ei bod yn "cynnwys y da, y drwg a phopeth rhwng hynny".

"Mae o'n gyfle i gysylltu efo eraill - rhai mewn sefyllfa debyg i ni, ond hefyd pob math o bobl a theuluoedd gwahanol," meddai.

Dywedodd bod nifer o bobl wedi cysylltu 芒 hi ers iddi gychwyn ei chyfrif.

Cyfryngau cymdeithasol yn achosi pryder

Er bod nifer o gyfrifon fel rhai Sharlaine a Gwawr yn rhannu y da a'r drwg o fywyd, mae'r duedd o rannu delweddau o fywyd "perffaith" yn achosi pryder ymysg rai rhieni newydd.

Mae ymchwiliad wedi darganfod bod bron i hanner rhieni yn credu bod cyfryngau cymdeithasol yn gosod disgwyliadau anghyraeddadwy pan ddaw at ddulliau magu plant.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Gwawr Job-Davies mai mabwysiadu yw'r "peth gorau i fi a Catrin ei wneud ond hefyd y peth anoddaf"

Dywedodd Ms Quick: "Fi'n trio bob tro fi'n gallu rhoi ochr arall y geiniog.

"Fi'n siarad tipyn ambyti os bod rhywbeth wedi mynd yn wrong yn y dydd neu'r math 'na o beth".

I Ms Job-Davies, mae'n gobeithio bod ei chyfrif yn "helpu rhai sy'n mynd trwy rywbeth tebyg".