大象传媒

Chwaraewr p诺l yn gwrthod cytundeb dros bolisi trawsryweddol

  • Cyhoeddwyd
Lynne Pinches
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Lynne Pinches yn honni bod gan chwaraewyr trawsryweddol "fanteision corfforol" yn y gamp

Mae un o chwaraewyr p诺l gorau Prydain wedi gwrthod cynnig o gytundeb proffesiynol gan nad yw hi eisiau cystadlu yn erbyn chwaraewyr trawsryweddol.

Dywedodd Lynne Pinches, 51, ei bod wedi gwrthod lle ar yr Ultimate Pool Tour, sy'n cynnwys 32 o chwaraewyr gorau'r byd, gan ei bod hi'n credu fod gan fenywod traws fantais annheg wrth gystadlu.

Daw hyn ar 么l tro pedol gan y World Eightball Pool Federation (WEPF) a'u prif hyrwyddwyr, yr Ultimate Pool Group, ar eu polisi trawsryweddol.

Yn Awst 2023 fe ddywedon nhw na fyddai chwaraewyr traws yn cystadlu yn erbyn menywod "naturiol", ond cafodd y penderfyniad yna ei newid.

'Cadw at fy egwyddorion'

Dywedodd Ms Pinches: "Y tro pedol oedd yr hoelen yn yr arch i fi.

"Dwi 'rioed wedi cael cynnig cytundeb proffesiynol o'r blaen. Dwi'n teimlo fel fy mod i 'di ymladd yn galed am hyn.

"Dwi'n teimlo fel mod i wedi cael fy ngwahardd, er mai wedi gwahardd fy hun ydw i. Dwi'n cadw at fy egwyddorion.

"Dwi ddim eisiau wynebu chwaraewyr trawsryweddol fyddai ar y daith. Dwi'm yn credu bod hynny'n deg.

"Dwi'n gwneud hyn oherwydd dwi am ymladd am ddyfodol pobl ifanc sy'n dweud eu bod nhw eisiau rhoi'r gorau [i chwarae p诺l] cyn iddyn nhw hyd yn oed cychwyn."

Ffynhonnell y llun, Arall
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Harriet Haynes fod y sylw yn dilyn protest Ms Pinches wedi arwain at sarhau "ffiaidd" ac "erchyll" ar-lein

Fe wnaeth Ms Pinches gynnal protest yn erbyn y tro pedol trwy ildio twrnament menywod i'w gwrthwynebydd traws, Harriet Haynes, ym Mhrestatyn.

Dywedodd Ms Haynes bod y sylw yn dilyn protest Ms Pinches wedi arwain at sarhad "ffiaidd" ac "erchyll" ar-lein.

"Dyna oedd y tro cyntaf i fi ildio g锚m. Mae'n beth anodd iawn i'w wneud," dywedodd Ms Pinches.

"O'n i jest yn meddwl, llaw ar fy nghalon, o'n i methu cario 'mlaen i dwyllo fy hun a chwarae'r g锚m pan o'n i'n teimlo ei fod yn annheg.

"Dim mater traws ydi hwn, mae'n fater tegwch. Dyw o ddim am unigolyn.

"Dwi ddim isio rhoi fy hun trwy hynny eto, a dwi ddim isio rhoi fy ngwrthwynebydd drwy hynny eto.

"Tan i'r sefydliad newid o [y categori] i fod yn fenywod [naturiol] yn unig, fydda i ddim yn cymryd rhan."

Camau cyfreithiol

Mae Ms Haynes yn dadlau bod chwaraewyr traws wedi cystadlu yng nghategor茂au menywod am 20 mlynedd, a bod "dim tystiolaeth gadarn" yn awgrymu bod ganddynt fantais yn y gamp.

Mae hi wedi lansio camau cyfreithiol yn erbyn yr English Blackball Pool Federation (EBPF), a benderfynodd gadw'r gwaharddiad ar fenywod traws yng nghategor茂au'r menywod.

Dywedodd Ms Pinches ei bod hi a chwaraewyr eraill yn credu mai'r bygythiad o gamau cyfreithiol sydd wedi arwain at dro pedol gan sawl corff rheoleiddio gyda'u polis茂au trawsryweddol.

Ni wnaeth WEPF na'r Ultimate Pool Group ymateb i gais am sylw ar honiadau Ms Pinches, nac i esbonio pam eu bod wedi newid y polisi.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Fel rhan o ddadl yr EBPF am barhau 芒'r gwaharddiad, maen nhw'n dweud fod gan chwaraewyr sydd wedi eu geni'n ddynion, ac wedi mynd trwy lasoed gwrywaidd, fanteision corfforol sydd o fydd yn y gamp.

Dywedodd Ms Pinches ei bod hi'n rhan o gr诺p o chwaraewyr sy'n cymryd camau cyfreithiol eu hunain dros reolau sy'n eu "gorfodi" i chwarae menywod trawsryweddol.

Mae disgwyl iddynt gyfeirio at y Ddeddf Cydraddoldeb, sy'n nodi ei bod hi'n gyfreithlon atal pobl traws o gystadlaethau chwaraeon ble mae cryfder corfforol a stamina yn ffactorau pwysig, os yw hynny'n hanfodol er mwyn cynnal cystadleuaeth deg a diogel.

Dywedodd Ms Pinches: "Bydd gennym ni wyddoniaeth i gefnogi ein hachos llys.

"Dwi'n credu bydd y baich arnom ni i brofi bod ganddyn nhw [menywod traws] fantais, yn hytrach na'r ffordd arall.

"Byddai'n rhaid i chi fod wedi cuddio o dan garreg dros y 100 mlynedd ddiwethaf i beidio gwybod fod dynion yn well ar draws y maes chwaraeon."

Pynciau cysylltiedig