大象传媒

Tafarn eiconig yn chwilio am staff yn Sain Ffagan

  • Cyhoeddwyd
Tafarn y VulcanFfynhonnell y llun, Amgueddfa Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Amgueddfa Cymru yn gobeithio y bydd y Vulcan yn agor yn Sain Ffagan erbyn yr haf

Mae Amgueddfa Cymru yn chwilio am bobl sy'n fodlon teithio n么l mewn amser i weithio yn un o dafarndai mwyaf eiconig Caerdydd.

Cafodd tafarn y Vulcan yn ardal Waunadda'r brifddinas ei dymchwel yn 2012 a'i symud i Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan.

Nod yr amgueddfa yw codi adeilad sy'n adlewyrchu sut byddai'r dafarn wedi edrych a theimlo yn 1915 - a hynny gan ddefnyddio cynlluniau'r pensaer o'r cyfnod.

Mae'r amgueddfa'n gobeithio agor y dafarn yn yr haf, gan werthu bwyd a diod sy'n gweddu i'r cyfnod, ac maen nhw bellach yn chwilio am staff i weithio ar y safle.

Dau d欧 teras bach oedd y Vulcan yn wreiddiol, cyn i'r waliau gael eu dymchwel i greu un adeilad mwy.

Cafodd ei chofrestru fel 't欧 cwrw' am y tro cyntaf yn 1853, ond cafodd gwaith adnewyddu sylweddol ei gynnal ym 1915 - a dyna pryd cafodd y teils eu gosod ar flaen yr adeilad, yn dangos yr enw newydd.

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe wnaeth tafarn y Vulcan gau yn 2012 ar 么l bod ar agor ers bron i 160 o flynyddoedd

Wedi troad y ganrif roedd bygythiad cyson y gallai'r adeilad gael ei ddymchwel, ac yn 2009 pan roedd perygl gwirionedd y byddai hynny'n digwydd fe wnaeth dros 5,000 o bobl lofnodi deiseb yn galw am ei ddiogelu.

Ond ym mis Mai 2012 fe wnaeth y bragwyr SA Brain gau'r dafarn, gan ddweud nad oedd dyfodol masnachol iddi.

Cafodd yr adeilad ei gynnig yn ffurfiol i Amgueddfa Cymru'r flwyddyn honno, ac ers hynny mae'r gwaith o ddatgymalu ac ail-adeiladu'r Vulcan ar dir Sain Ffagan wedi bod yn mynd rhagddo.

Mae'r amgueddfa yn chwilio am oruchwylydd bwyd a diod a gweithwyr bar i weithio yn y Vulcan, a'r dyddiad cau os am geisio am un o'r swyddi hynny yw 19 Chwefror.