Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Ges i str么c yn 29 a chyrraedd lle tywyll iawn'
- Awdur, Garry Owen
- Swydd, 大象传媒 Cymru
Mae menyw a gafodd str么c pan oedd ond yn 29 oed yn galw am fwy o gefnogaeth iechyd meddwl yn dilyn y salwch.
Dywedodd Melissa Broad ei bod yn "poeni y bydd pobl yn gallu bennu lan mewn lle tywyll iawn" heb gefnogaeth ddigonol.
Yn 么l elusen Mind a'r Gymdeithas Str么c, dim ond 3% o'r rheiny sy'n derbyn cymorth iechyd meddwl yn dilyn cael str么c.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod yn cydweithio 芒'r Gymdeithas Str么c聽i helpu pobl wella yn dilyn y salwch.
Str么c tair wythnos ar 么l cael plentyn
Fe brofodd Melissa Broad, o bentref Creigiau ger Caerdydd, str么c pan oedd yn 29 oed, a hynny yn gwbl annisgwyl.
Dair wythnos cyn hynny roedd hi wedi rhoi genedigaeth i'w phlentyn cyntaf.
Wedi iddi brofi poenau ofnadwy yn ei phen, dywedodd y meddyg mai meigryn oedd arni, ond 10 awr yn ddiweddarach nid oedd yn gallu siarad yn iawn. Oriau'n ddiweddarach ac nid oedd yn gallu siarad o gwbl.
Fe alwodd ei g诺r, Paul am ambiwlans, ac ar 么l cyrraedd yr ysbyty fe ddywedodd y meddyg wrthi ei bod hi wedi cael str么c.
Roedd yr effaith corfforol yn ddifrifol, gyda Melissa yn methu siarad, ysgrifennu na darllen ar 么l gadael yr ysbyty.
'Teimlo fel bod fy mywyd i drosodd'
Fe gafodd y str么c effaith ar ei hiechyd meddwl yn ogystal 芒'r effeithiau corfforol.
Dywedodd: "Yn yr ysbyty fe wnaethon nhw gynghori fi i beidio 芒 chael mwy o blant oherwydd y risg, a dweud mwy na thebyg bydde ni byth yn gweithio eto."
"Fe nes i ddechrau meddwl be' oedd o 'mlaen i a siwd oedd fy mywyd i mynd i weithio mas.
"Roedd e'n teimlo 'chydig bach fel bod fy mywyd i drosodd. Fe wnaeth hynna i gyd gael effaith enfawr ar fy iechyd meddwl i ac roeddwn i mewn lle tywyll iawn."
Mae Melissa yn galw am ragor o gefnogaeth i bobl sydd wedi cael str么c ac yn profi problemau iechyd meddwl.
Dywedodd nad oedd "neb 'di cynnig unrhyw gymorth i fi, a bu'n rhaid i fi edrych am gymorth a help ar-lein, ond achos bo' fi ffili darllen yn dda roedd e'n anodd iawn."
Mewn adroddiad ar y cyd mae Mind Cymru a'r Gymdeithas str么c yn pwysleisio nad yw profiad Melissa yn un anghyffredin.
Maen nhw'n dweud fod 70,000 o bobl yng Nghymru wedi cael str么c, a bod tri chwarter o'r rheiny wedi profi o leiaf un broblem iechyd meddwl ers y salwch.
Maen nhw hefyd yn dweud mai ond 3% sydd wedi cael cefnogaeth pan fod yr angen fwyaf arnyn nhw.
'Lle tywyll iawn'
Yn dilyn ei phrofiad hi, mae Melissa o'r farn bod lle i wella o ran yr help a'r gefnogaeth sydd ar gael.
Dywedodd iddi fod yn "ffodus, roedd gyda fi deulu cefnogol o 'nghwmpas i ac roedd gyda fi fabi newydd a bues i yn canu a darllen iddo fe er mwyn cael fy hunan mewn lle gwell.
"Ond os nad yw'r gefnogaeth yna gen ti, rwy'n ofni y bydd pobl yn gallu bennu lan mewn lle tywyll iawn."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mai "byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd sy'n gyfrifol am gynllunio a chyflwyno gwasanaethau str么c", ond bod y llywodraeth yn cydweithio 芒'r Gymdeithas Str么c i helpu pobl i wella ar 么l str么c ac "mae hyn yn cynnwys gwella mynediad i wasanaethau cefnogi".