Oriel: Wythnos Awyr Dywyll
- Cyhoeddwyd
Mae'r cyfnod rhwng 9-18 Chwefror yng Nghymru yn cael ei alw'n Wythnos Awyr Dywyll.
Dyma'r amser mae parciau cenedlaethol ac ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol yn cydweithio i godi ymwybyddiaeth, ac i ddathlu'r awyr dywyll.
Mae sawl gweithgaredd wedi cael eu trefnu ar draws Cymru ac mae sawl un yn manteisio ar y cyfle i ddysgu mwy am yr hyn uwch ein pennau.
Un o'r rheiny yw'r ffotograffydd Gareth M么n Jones. Mae'n cyfaddef ei hun ei fod yn mwynhau agweddau o Astroffotograffiaeth; lluniau sy'n ymwneud a'r gofod a phopeth sydd uwch ein pennau, a'r amser gorau i weld y prydferthwch wrth gwrs yw yng nghanol nos.
Mae Gareth o Langefni yn byw'n agos iawn at Barc Cenedlaethol Eryri a thraethau hyfryd Ynys M么n, a dyma ble mae modd dod o hyd iddo ar noson glir gyda'i gamera.
Yn ogystal 芒 lluniau o'r awyr, mae Gareth yn hoff iawn o ddilyn stormydd ac wedi dal sawl moment ddramatig drwy lens ei gamera.
Mae wedi ennill y brif wobr yn y categori tirluniau yng Ngwobrau Ffotograffwyr Prydain yn 2023 a Ffotograffydd Tywydd y Flwyddyn yn 2019.
Mae'r detholiad o luniau gan Gareth yn dangos pa mor brydferth yw'r awyr uwch oddi fry pan mae rhywun yn cael moment i orffwys a syllu i fyny i'r awyr dywyll.