Ras Llafur Cymru: 'Neges ynghylch 20mya yn anghywir'

Disgrifiad o'r llun, Mae'r polisi 20mya wedi hollti barn, cyn ac ers ei gyflwyno ar draws Cymru fis Medi diwethaf

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru gamgymeriadau wrth gyfathrebu ei pholisi 20mya, yn 么l un o'r ymgeiswyr i fod yn arweinydd nesaf Llafur Cymru.

Dywedodd Vaughan Gething bod angen i weinidogion "wrando ac nid pregethu" i'r cyhoedd.

Fe gafodd y Gweinidog Economi a'i wrthwynebydd yn y ras i olynu Mark Drakeford, Jeremy Miles, eu holi'n fyw ddydd Sul ar raglen Politics Wales.

Fe wnaeth Mr Miles addewid i "brynu neu adeiladu" safleoedd newydd er mwyn mynd i'r afael ag amseroedd aros triniaethau orthopedig, gan awgrymu y byddai cynghorau'n helpu i'w cyllido.

Yn y cyfamser, dywedodd bod gofyn i ffermwyr blannu 10% o'u tir 芒 choed yn bolisi "cywir".

Mae'r mater hwnnw ymhlith nifer sydd wedi ysgogi protestiadau gan ffermwyr yn ddiweddar.

Mae Mr Gething a Mr Miles wedi dweud na fydden nhw'n cefnu ar y polisi 20mya, gan addo yn hytrach i adolygu'r ffordd y mae'r drefn newydd yn cael ei gweithredu.

Mae adolygiad yn mynd rhagddo ar hyn o bryd o ran y canllawiau i gynghorau wrth benderfynu pa ffyrdd ddylai gael eu heithrio.

'Cefnogaeth eang'

Yn 么l Mr Gething mae yna "gefnogaeth eang i'r egwyddor cyffredinol o arafu cyflymderau ar ystadau ble mae yna blant, ac wrth ymyl ysgolion".

"Ein her, rwy'n meddwl, oedd, wrth gyflwyno'r [drefn] 20mya, cael rhywfaint o'r ochr gyfathrebu yn anghywir.

"Mae'n bwysig i ddangos ein bod wedi gwrando o ran hynny hefyd.

Disgrifiad o'r llun, Vaughan Gething

"Mae adolygu'r canllawiau yn bwysig. Rwyf wedi dweud yn gyson, serch hynny, bod hynny ynddo'i hun ddim yn mynd i fod yn ddigon.

"Y pwynt rwy'n ei wneud yw bod yr egwyddor yn un cywir o ran arafu cyflymderau ar lawer o ffyrdd ond mae'n rhaid i ni wrando a ni pregethu."

Amseroedd aros

Mae yna addewid ym maniffesto Jeremy Miles i sefydlu canolfannau arbennig ar gyfer gosod cluniau a phengliniau newydd er mwyn clirio rhestrau aros am driniaethau.

Yn ei gyfweliad, dywedodd Mr Miles y byddai hynny o ganlyniad "cydweithredu rhwng byrddau iechyd a chynghorau lleol sydd 芒'r grym neu'r mynediad at gyllid cyfalaf i wneud i hyn ddigwydd.

Disgrifiad o'r llun, Mae cynllun Jeremy Miles 'yn wahanol' i brojectau eraill sydd eisoes ar waith i leihau rhestrau aros

"Mae'r canolfannau hyn mewn llefydd gwahanol [i'r ysbytai] felly maen nhw'n cael eu gwarchod rhag y pwysau y byddai'n cael eu dwyn arnyn nhw o fod mewn ysbyty."

Mae'r cynllun, meddai, yn wahanol i brojectau eraill sydd eisoes ar waith i leihau rhestrau aros.

"Bydd angen i naill ai brynu neud adeiladu safleoedd newydd i hynny ddigwydd," dywedodd.

Mae cynghorau yn ariannu gofal cymdeithasol, ond dydyn nhw ddim ar hyn o bryd yn darparu gwasanaethau iechyd.

Mae meddygon iau Cymru yn bwriadu streicio eto dros gynnig Llywodraeth Cymru i roi codiad cyflog o 5%, sy'n llai na'r cynigion yn Lloegr a'r Alban.

Fe wnaeth Mr Gething gydnabod bod cyflogau staff y GIG wedi gostwng mewn termau real a bod llawer ohonyn nhw wedi "cyrraedd pen eu tennyn".

"Yr hyn sy'n rhaid i ni allu ei wneud yw parhau i eistedd i lawr gyda'r BMA, ac undebau eraill y gwasanaeth iechyd, i edrych ar ein hymrwymiad tymor hir i adfer cyflogau, a thrafod yn onest yr hyn y gallwn ei wneud o fewn fframwaith y gyllideb sydd gynnon ni nawr ag yn y dyfodol."

Polisi coed yn un 'cywir'

Dywedodd Mr Miles fod pob rhan o economi Cymru yn gorfod ymateb i'r "argyfwng" newid hinsawdd gan gynnwys y sector amaethyddol.

Mae cymhorthdal newydd yn cael ei gyflwyno i ffermwyr sydd 芒'r nod o wobrwyo cynhyrchu ac arferion bwyd "cynaliadwy" sy'n helpu mynd i'r afael 芒 newid hinsawdd a cholli elfennau natur.

I fod yn gymwys ar gyfer y taliadau mae'n rhaid i ffermydd sicrhau bod 10% o'u tir yn cael ei blannu gyda choed a bod 10% yn cael ei drin fel cynefin bywyd gwyllt.

Mae undebau ffermio yn dadlau na fydd hyn yn ymarferol i lawer a bydd rhestr wirio gofynion y cynllun yn golygu bod yna fwy o waith papur.

Disgrifiad o'r llun, Roedd yna tua 3,000 o bobl mewn cyfarfod tanllyd ym mart Caerfyrddin wythnos diwethaf i wyntyllu pryderon ynghylch polis茂au amaeth

Dywedodd Mr Miles bod y targedau plannu coed yn "llawer mwy hyblyg nag y maen nhw'n ymddangos".

Ond pan ofynnwyd a fyddai modd eu llacio, atebodd: "Na, rwy'n credu mai dyma'r polisi cywir, ond mae yn hyblygrwydd o fewn y polisi hwnnw i'w reoli'n sensitif. Felly mae modd plannu'r goeden gywir yn y lle cywir."

Mae ymgynghoriad ar y gweill. Ni wnaeth Mr Gething ddiystyru'r posibilrwydd o leihau'r gofyniad 10%.

"Rwy'n barod i gael sgwrs gydag undebau ffermio, fel y maen nhw'n ei gael gyda [y Gweinidog Materion Gwledig] Lesley Griffiths," meddai.

'Dim cynllun'

Gan ymateb i'r cyfweliadau, dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn Senedd Cymru, Andrew RT Davies bod "dim cynllun" gan y naill ymgeisydd na'r llall "i fynd i'r afael 芒'r materion pwysicaf yng Nghymru".

"Bydd y ddau ohonyn nhw ond yn gwneud mwy o'r un peth - canolbwyntio ar hoff brosiectau Llafur sef mwy o wleidyddion, gwahardd ffyrdd newydd a'r cyfyngiad 20mya hurt."