大象传媒

Pennod newydd i Stephen Jones

  • Cyhoeddwyd
Stephen JonesFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae cyn-faswr Cymru a'r Scarlets, Stephen Jones, wedi derbyn swydd gyda Moana Pasifika yn Seland Newydd.

Un o fawrion y Crysau Duon, Tana Umaga, sydd wrth y llyw i'r t卯m sydd wedi ei leoli yn Auckland, a gyda Jones wrth ei ochr mae 'na ddigonedd o brofiad yn y t卯m hyfforddi.

Gareth Rhys Owen fuodd yn siarad gyda Stephen Jones am y bennod newydd o'i fywyd.

Am hanner eiliad mae'n ymddangos bod Stephen Jones wedi newid ei gamp. Yn sefyll o flaen cae gwyrddlas, heb gwmwl yn yr awyr, dwi'n gofyn i gyn-faswr Cymru pam ei fod e wedi troi at griced.

"Beth? Na dyma ein stadiwm rygbi ni yma yn North Harbour," yw ei ateb.

Gyda'r haul tanbaid yn gosod cysgod dros ei wyneb ar ein sgwrs Zoom a'r cae rygbi fel carped, mae harddwch hafaidd hemisffer y de yn wrthgyferbyniad trawiadol i gymharu 芒 noson oeraidd yma yng Nghymru.

Ac mae clywed ein bod ni wedi cael m芒n flanced o eira adre yng Nghymru'r bore hwnnw yn cadarnhau ei arddeliad bod codi pac a symud i ben draw'r byd wedi bod yn benderfyniad cadarnhaol.

"Mae'n wych 'ma. Mae 'na lwyth o bethau gwahanol, ffres yma. Fe gafon ni bythefnos o wyliau dros y Dolig a'r flwyddyn newydd, sy'n wahanol iawn i Gymru.

"Fe dreuliais i amser 'da'r teulu yn ymweld 芒'r ardal a gyda'r tywydd fel yma, ry'n ni'n treulio'r mwyafrif o'n hamser ar y traeth."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Stephen Jones yn chwarae dros Gymru yn erbyn Lloegr yng Nghwpan y Byd 2003

Mae Jones wedi'i benodi fel hyfforddwr olwyr i Moana Pasifika, t卯m sydd wedi ei leoli ar gyrion Auckland ond a sefydlwyd yn bennaf i roi cyfleoedd i chwaraewyr o ynysoedd Tonga a Samoa.

Prin bythefnos sydd i fynd tan fod y tymor ym mhrif gystadleuaeth hemisffer y de, Super Rugby, yn dechrau.

"Roedd e'n gyfle gwych, pan eisteddes i ac edrych ar y Moana. Dyma drydydd tymor y t卯m yn Super Rugby ac mae 'na sg么p rhyfeddol yma, a ma' nhw am gryfhau."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Paratoi i daclo Tana Umaga, sef prif hyfforddwr Moana Pasifika ac sydd bellach yn gydweithiwr i Stephen

Pwysigrwydd ffydd a theulu

Mae'n dro ar fyd o gymharu 芒'i swydd ddiwethaf fel hyfforddwr ymosod y t卯m cenedlaethol dan arweinyddiaeth Wayne Pivac.

Cyn hynny fe weithiodd Jones gyda Pivac yn y Scarlets wedi cyfnod yn hyfforddi gyda'r Wasps yn Llundain.

Ac mae'r heriau yn dra gwahanol wrth iddo weithio gyda chriw o chwaraewyr o ynysoedd y m么r tawel.

"Y peth cynta' sy'n taro fi yw pwysigrwydd ffydd a theulu i'r chwaraewyr," meddai.

"O ganlyniad dwi wedi cael croeso twym galon. Mae yna nifer o chwaraewyr sy' prin yn siarad Saesneg ac mae hynny yn cynnig sialens.

"Bwriad y prosiect yw tyfu'r g锚m yn yr ynysoedd i sicrhau bod timau cenedlaethol Tonga a Samoa yn cryfhau."

Disgrifiad,

Stephen Jones yn trafod ei swydd hyfforddi newydd gyda Moana Pacifika, Seland Newydd

Daeth cyfnod Jones gyda Chymru i ben ar nodyn isel gyda'r t卯m hyfforddi yn colli eu swyddi wedi canlyniadau siomedig yn erbyn Georgia a'r Eidal.

A dwi ar ddeall fod cynllun hirdymor mewn lle a fydde wedi rhoi cyfrifoldebau ychwanegol i Jones wedi Cwpan y Byd 2023.

Ond cafodd Jones na Wayne Pivac mo'r cyfle i weithredu'r cynllun hwnnw.

"Yn amlwg ma' rhywun eisiau gweld unrhyw brosiect yn cael ei wireddu hyd at y diwedd," meddai.

"Yn amlwg fe'n gwadwyd o'r cyfle i wneud hynny, ond o edrych ar fy sefyllfa heddiw, mae'r profiadau yma yn anhygoel i gael cyfle i ddod 芒 fy nheulu i ben draw'r byd. Mae pethau'n digwydd am reswm."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Stephen yn arwain y Scarlets i'r cae yn y g锚m olaf ar Barc y Strade - 11 Hydref, 2008

Wedi degawd a mwy o gario'r baich o wisgo crys 10 Cymru, mae Jones yn hen law ar osgoi penawdau ymfflamychol a prin yw ei awydd i fanylu ar ddyddiau olaf teyrnasiad Pivac.

Mae'r ddau yn parhau i gadw cysylltiad er bod Pivac bellach yn hyfforddi yn Japan.

Ond y presennol a'r dyfodol sy'n mynd 芒'i fryd. Mae ei wraig a thri o blant (12, 10, a phump oed) hefyd wedi ymgartrefu yn Seland Newydd.

"Mae'n gam mawr i'r teulu. Bu'n rhaid i ni feddwl yn ddwys am y newid mawr; ysgolion, amgylchedd, diwylliant.

"Yn amlwg mae'n cymryd 'chydig o amser i ddod i arfer 芒'r bywyd newydd ond mae'r ysgolion 'di bod yn gefnogol iawn ac maen nhw eisoes 'di ymgartrefu."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Rhys Patchell yn chwarae dros yr Highlanders yn y g锚m gyfeillgar yn erbyn Moana Pasifika ar 2 Chwefror

Bydd tymor Pasifika yn dechrau yn erbyn wyneb cyfarwydd ar 24 Chwefror, gyda Rhys Patchell a charfan yr Highlanders yn eu croesawu ar y penwythnos agoriadol.

Fe chwaraeodd Pasifika g锚m gyfeillgar yn erbyn yr Highlanders ar 2 Chwefror, gyda'r Highlanders yn ennill 36-28.

A gyda Leigh Halfpenny, er gwaethaf anaf, hefyd wedi ymuno 芒'r Crusaders, mae 'na gynrychiolaeth gref o Gymry yn Seland Newydd.

"Mae'n brofiad gwych i nhw; cystadleuaeth newydd, athroniaeth wahanol... Cyfle gwych i dyfu fel person, yn enwedig tase nhw eisiau symud ymlaen i hyfforddi rhyw ddydd."

Mae'n amser i ddod 芒'n sgwrs i ben a dwi'n gofyn iddo fwynhau'r haf tra' bo' ni'n dioddef oerfel hemisffer y gogledd.

Yn hytrach na derbyn yr abwyd i frolio, mae Jones yn rhestru'r blaenoriaethau rygbi sydd i'w gwblhau dros yr wythnosau nesaf. Mae'r awch i lwyddo ar y cae chwarae mor amlwg ag erioed.

Hefyd o ddiddordeb: