Cynnig trafod 芒 ffermwyr wedi cyfarfod tanllyd Caerfyrddin
- Cyhoeddwyd
Mae trefnwyr cyfarfod cyhoeddus enfawr a ddenodd miloedd o ffermwyr yng Nghaerfyrddin wedi datgelu eu bod wedi cael cynnig cyfarfod gyda'r llywodraeth.
Roedd tua 3,000 o ffermwyr a phobl yn ymwneud 芒'r byd amaeth yn rhan o gyfarfod tanllyd union wythnos yn 么l ym mart y dref.
Roedden nhw yna, yn 么l un o'r trefnwyr, mewn ymateb i "un argyfwng ar 么l y llall ym myd amaeth".
Yn ystod y cyfarfod roedd yna gefnogaeth unfrydol i gynnig yn rhoi mandad i'r trefnwyr drafod pryderon y sector yn uniongyrchol 芒 Llywodraeth Cymru.
Mewn fideo ar wefan Facebook, o dan y teitl "Digon yw Digon" dywedodd Gary Howells ac Aled Rees eu bod wedi derbyn y cynnig i drafod gyda'r Prif Weinidog Mark Drakeford a'r Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths.
Mae'r ddau wedi annog ffermwyr i "gadw'r heddwch ac ymddwyn yn gyfrifol" ac i "gadw unrhyw weithredu o fewn terfynau'r cyfarfod".
Dyw union fanylion y cyfarfod heb gael eu cyhoeddi, ond mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau'r cynnig i drafod.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Chwefror
- Cyhoeddwyd14 Mai
- Cyhoeddwyd15 Chwefror