大象传媒

Buddsoddiad mwyaf erioed o 拢6m i'r Cymru Premier

  • Cyhoeddwyd
Y Seintiau Newydd yn codi tlws y Cymru PremierFfynhonnell y llun, John Smith
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y Seintiau Newydd yn codi tlws y Cymru Premier

Mae Cymdeithas B锚l-droed Cymru (CBDC) wedi cyhoeddi y bydd yn buddsoddi dros 拢6m yng nghynghrair y Cymru Premier.

Dyma fydd y buddsoddiad unigol mwyaf erioed yn haen uchaf p锚l-droed yng Nghymru.

Fe fydd yr arian yn mynd at ddatblygu'r gynghrair rhwng nawr a diwedd tymor 2026/27.

Mae'r nodau'n cynnwys "codi proffil, safon a strwythur y g锚m ar ac oddi ar y cae" a chryfhau cysylltiadau gyda chymunedau lleol fel rhan o strategaeth bedair blynedd.

Y gobaith yw y "bydd pawb yn gweld newidiadau positif yn fuan iawn".

'Newid i faint y gynghrair'

"Mae gyda ni gynghrair sydd ddim yn ddigon cryf ar gyfer y diwylliant p锚l-droed sydd yma," meddai prif weithredwr CBDC, Noel Mooney wrth 大象传媒 Cymru.

Mae hi'n "glir i'r clybiau y bydd yna newid i faint y gynghrair", meddai, ynghyd 芒 "newid i'r ffordd 'dyn ni'n rhoi adnoddau i'r gynghrair".

Dywedodd eu bod "wedi cael problemau, er enghraifft, gyda gweinyddiaeth y gynghrair", a bod angen buddsoddi mewn marchnata'r Cymru Premier.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe fydd codi proffil yr haen uchaf yn llesol yn y pendraw i bob lefel o'r g锚m, yn 么l Noel Mooney

"Er enghraifft, mae gyda ni gytundeb nawr gyda [rhaglen] Sgorio yn yr iaith Gymraeg, felly rydyn ni'n dangos gemau'n fyw ar Sgorio, ond rhaid i ni hefyd wneud yn si诺r eu bod yn mynd allan yn yr iaith Saesneg hefyd," meddai.

Ychwanegodd y byddai codi proffil yr haen uchaf yn llesol maes o law i'r cynghreiriau is.

"Wrth i'r Cymru Premier ddod yn fwy llwyddiannus, ry'ch chi'n cael mwy o dorfeydd, mwy o arian yn dod i'r g锚m a fydd yn cael effaith yn ei dro ar Haen 2 a Haen 3 a'r g锚m ar lawr gwlad."