大象传媒

Ffermwyr yn protestio'n erbyn y llywodraeth yn Y Drenewydd

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Protest ffermwyr yn Y Drenewydd ddydd Sul

Mae dwsinau o ffermwyr yn y canolbarth wedi bod yn protestio yn erbyn cynlluniau amaethyddol Llywodraeth Cymru.

Roedd tua 100 o dractorau a cherbydau fferm yn rhan o'r brotest yn Y Drenewydd brynhawn Sul, a orffennodd y tu allan i ddigwyddiad yng nghlwb p锚l-droed y dref.

Daw'r gwrthdystio wrth i James Evans, y Ceidwadwr sy'n cynrychioli Brycheiniog a Sir Faesyfed yn y Senedd, ddweud bod gan ffermwyr hawl i brotestio yn heddychlon.

Dywedodd Llywodraeth Cymru nad oes unrhyw benderfyniad terfynol wedi'i wneud eto a bod y broses o ymgynghori ar y cynlluniau yn parhau.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd dwsinau o ffermwyr yn rhan o brotest y tu allan i glwb p锚l-droed Y Drenewydd bnawn Sul

Roedd y brotest yn Y Drenewydd wedi ei drefnu gan ffermwyr sy'n gwrthwynebu newidiadau posib i'r system daliadau.

Er mwyn cael mynediad i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, bydd rhaid i ffermwyr ymrwymo i blannu 10% o'u tir 芒 choed, a chlustnodi 10% arall fel cynefin i fywyd gwyllt.

Dadlau na fydd hynny'n ymarferol bosib wrth gynnal busnes fferm mae nifer wrth bryderu y bydd gofynion eraill y cynllun yn eu llethu 芒 gwaith papur.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn ol James Evans AS, mae gan ffermwyr hawl i brotestio yn erbyn y cynlluniau

Fe ddaeth y protestwyr yn Y Drenewydd at ei gilydd y tu allan i ddigwyddiad yn y clwb p锚l-droed oedd wedi ei drefnu gan Llafur Cymru.

Roedd Vaughan Gething a Jeremy Miles - y ddau ymgeisydd yn y ras i fod yn arweinydd ar y blaid - yn bresennol, ac mae'r 大象传媒 ar ddeall bod y ddau wedi cynnal trafodaethau gyda rhai o'r protestwyr.

Dywedodd Aneurin Aston, ffermwr o Lanbrynmair a oedd yn rhan o'r brotest, ei fod yn gobeithio "y bydd pobl yn gwrando ar eu pryderon".

"Ry'n ni yma oherwydd yr hyn maen nhw (Llywodraeth Cymru) yn gofyn i ni ei wneud, neu ein gorfodi ni i'w wneud... does dim democratiaeth yng Nghaerdydd ragor.

"Ein r么l ni yw cynhyrchu bwyd i'r cyhoedd, a 'da chi methu bwyta coed. Ry'n ni'n hapus i wneud ein si芒r i helpu gyda newid hinsawdd ond mae hyn yn ormod."

'Neb yn gwrando'

Roedd Andrew Randall hefyd yn rhan o'r brotest: "Does neb yn gwrando ar y ffermwyr... mae'r pwysau sydd arnom ni gyd dyddiau yma yn hurt.

"Dwi'n 18 oed ac yn gobeithio mynd i ffermio fy hun, ond yn anffodus dydw i ddim yn gweld dyfodol yn y maes... Dwi wir yn poeni a fydd cyfle i mi fynd i ffermio."

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod eu cynlluniau wedi'u "datblygu gyda ffermwyr", ac maen nhw'n annog pobl i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad sydd yn weithredol tan 7 Mawrth.

Ond yn 么l James Evans AS, mae'r cynlluniau yn golygu bod 5,500 o swyddi amaethyddol yn y fantol.

Disgrifiad,

Protest ffermwyr yn Sir G芒r ddydd Gwener

Wrth siarad ar raglen Sunday Supplement Radio Wales ddydd Sul dywedodd Mr Evans "nad yw ffermwyr yn gweld dyfodol i'w pobl ifanc".

"Mae Llywodraeth Cymru wedi siarad llawer am y 2,000 o swyddi sy'n cael eu colli yn Tata ac mae hynny'n hollol iawn. Mae'n rhaid i ni ddiogelu cynhyrchu dur yng Nghymru.

"Ond yna wrth i'w cynllun amgylcheddol olygu bod 5,500 o swyddi yn y fantol dydyn nhw ddim yn cymryd fawr o sylw," meddai.

Ychwanegodd "y byddai'n ddigon hapus" petai ffermwyr yn protestio y tu allan i'r Senedd os nad yw Llywodraeth Cymru yn gwrando.

'Mae gan bawb yr hawl i brotestio'

Fe wnaeth protestiadau tebyg gan amgylcheddwyr arwain y Blaid Geidwadol yn San Steffan i gyflwyno deddfwriaeth a fyddai'n gwahardd protestio ond yn ddiweddarach fe gafodd ei gwrthdroi gan D欧'r Arglwyddi.

Wrth gael ei holi a oedd gan ffermwyr freintiau arbennig wrth iddyn nhw brotestio dywedodd Mr Evans bod gan "bawb yr hawl i brotestio mewn dull heddychlon".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Daeth tua 3,000 o bobl o'r byd amaeth ynghyd ym mart Caerfyrddin nos Iau, 8 Chwefror

Mae Llywodraeth Cymru yn mynnu y bydd eu cynlluniau yn sicrhau cynhyrchu systemau bwyd diogel, yn diogelu'r amgylchedd ac yn delio ag argyfyngau hinsawdd a natur.

Dywedodd llefarydd: "Mae gweithio gyda'r sector amaeth yn allweddol a dyna pam mae'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy wedi'i ddatblygu ar y cyd 芒 ffermwyr.

"Ar hyn o bryd mae'r broses o ymgynghori yn digwydd ac fe fydden yn hoffi diolch i ffermwyr sydd eisoes wedi ymateb ac sydd wedi mynychu digwyddiadau ar draws Cymru.

"Does dim penderfyniad terfynol wedi cael ei wneud hyd yma. Fydd hynny ddim yn digwydd tan wedi'r ymgynghoriad a hoffem annog pawb i gyflwyno eu sylwadau cyn 6 Mawrth."