大象传媒

Betsi Cadwaladr: 'Llawer i'w wneud o hyd' medd gweinidog

  • Cyhoeddwyd
Eluned Morgan
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Eluned Morgan bod "gwelliannau" wedi bod i fwrdd iechyd y gogledd

Mae gan fwrdd iechyd mwyaf Cymru "lawer i'w wneud o hyd" cyn y gellir ei dynnu allan o fesurau arbennig, yn 么l y gweinidog iechyd.

Bydd yr wythnos nesaf yn nodi blwyddyn ers i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn y gogledd gael ei roi o dan y lefel uchaf o arolygiaeth gan Lywodraeth Cymru.

Digwyddodd hynny ar 么l cyfres o fethiannau difrifol ar ddiogelwch cleifion, perfformiad a llywodraethu, ynghyd 芒 phrinder staff a chyfres o uwch swyddogion gweithredol yn gadael.

Ond wrth roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa i'r Senedd ddydd Mawrth, dywedodd Eluned Morgan bod "gwelliannau" wedi bod.

Roedd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi bod yn destun mesur arbennig yn flaenorol rhwng 2015 a 2020.

Dywedodd Ms Morgan ei bod wedi bod yn "benderfyniad anodd" i ddychwelyd y bwrdd iechyd i fesurau arbennig ym mis Chwefror 2023, ond hwn oedd y penderfyniad cywir, meddai.

Dywedodd ei bod wedi bod yn "flwyddyn heriol" i'r bwrdd iechyd ond bod ei reolwyr bellach mewn "sefyllfa well o lawer i ysgogi newid sylweddol a gwella gwasanaethau iechyd i bobl gogledd Cymru".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r bwrdd yn gwasanaethu mwy na 700,000 o bobl

Wrth drafod yr aros am driniaeth yn y gogledd, dywedodd Ms Morgan: "Rwy'n gwerthfawrogi bod pobl yn dal i orfod aros yn rhy hir, ond mae pethau'n symud i'r cyfeiriad cywir.

"Mae'r bwrdd iechyd wedi bod dan fesurau arbennig ers 12 mis ac mae llawer i'w wneud o hyd.

"Y llynedd, gosodais gyfres o amodau cynaliadwyedd ar gyfer y bwrdd, sy'n dal yn ddilys, a bydd angen eu bodloni cyn y gellir ystyried dad-ddwys谩u."

'Sefyllfa enbyd'

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar ogledd Cymru, Darren Millar fod datganiad y gweinidog iechyd yn "atgof sobreiddiol o'r sefyllfa enbyd yn y gwasanaeth iechyd yn y gogledd".

Mae gan Betsi Cadwaladr, sefydliad iechyd mwyaf Cymru, weithlu o 19,000 yn gwasanaethu mwy na 700,000 o bobl ar draws Ynys M么n, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam.