Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Sut i gynnal y parti gwylio C芒n i Gymru perffaith
Mae hi'r amser yna o'r flwyddyn... C芒n i Gymru: noson sydd yn dod 芒 phawb ynghyd yn eu cariad tuag at gerddoriaeth Gymraeg, a sydd byth yn achosi ffraeo ar-lein o gwbl... nac ydi wir.
Mae Gruffydd Si么n Ywain yn siwpyr-ffan o'r gystadleuaeth, ac yn cynnal parti gwylio bob blwyddyn. Eleni, fodd bynnag, mae wedi derbyn tocyn aur ac am fod yn Arena Abertawe er mwyn gwylio'r gystadleuaeth a chael profi'r wefr a'r chwys a'r dagrau yn fyw...
Ond yma mae o'n rhannu ambell i tip yngl欧n 芒 sut y gallwch chi gynnal y parti C芒n i Gymru perffaith.
Dim siarad yn ystod y caneuon
Sori, 'da chi yma i fwynhau a dal i fyny hefo ffrindiau? Take it outside. Mae 'na fusnes difrifol yn mynd ymlaen yn y stafell fyw ac mae angen tawelwch yn y gynulleidfa os gwelwch yn dda.
Diodydd
Mae pawb yn licio coct锚ls ar thema penodol. Dwi fawr o mixologist ond mae gen i gwpwrdd eang o weddillion poteli alcohol. Y tric ydi sylwi os ydi'r diod wedi ceulo cyn gorfodi neb i'w yfed...
Ryseits coctels C芒n i Gymru:
- Harbwr Diogel - gweddillion y cwpwrdd alcohol + lliw bwyd glas
- Bach o Hwne - gweddillion y cwpwrdd alcohol + lliw bwyd gwyrdd
- Rasta Gwyn - gweddillion y cwpwrdd alcohol + llaeth (dim ond y dewraf...)
Gwisg
Ar gyfer Eurovision 'da ni'n hoff o wisgo gwisg i gynrychioli gwlad sy'n cystadlu. Dydw i heb gael llawer o lwyddiant perswadio pobl i wisgo fel Mynydd Parys neu Bont Britannia eto ond mae gwisgo fel Arfon Wyn, er enghraifft, yn lot llai o ymdrech.
Teimlo'n fwy creadigol? Pam ddim dehongli un o ganeuon y gystadleuaeth? Ges i dri 'Cae o 哦d' acw un blwyddyn. Awkward.
Y mantra bersonol ydi 'more is more'.
Bwyd
Mae cost popeth (heblaw gwobr ariannol C芒n i Gymru) wedi codi dros y blynyddoedd dwytha, a phwy sydd wir isio cael ail-forgais er mwyn bwydo criw o ffrindau pan alla'i ofyn iddyn nhw ddod 芒 rhywbeth eu hunain?! Ar noson dda fydd gen i ddigon o fwyd dros ben i bara wythnos. Quids in!
Ond beth i'w weini yn ddelfrydol? Wel, yn ysbryd yr 诺yl - caws wrth gwrs!
Cadw sg么r
Fel un sy'n cymryd y peth yn llawer rhy ddifriol mae cadw sg么r yn hollbwysig. Marciau am y cyfansoddi, y perfformiad a'r vibe. C芒n wael ond siaced gliter arbennig? Could still be in with a shot yn t欧 ni...
Dwi ddim yn un am y gemau yfed bingo C芒n i Gymru achos erbyn fyddwn ni 'di cyrraedd yr ail VT a'r chweched stiwdio recordio ardd gefn byddwn i'n gocyls.
'After-party'
Fel pob parti gwerth ei halen mae angen parti arall yn syth ar ei 么l. Yn yr achos hyn 'da ni wastad yn dilyn y sioe ei hun gyda dangosiad o'r clasur oesol Dim Byd fel C芒n i Gymru. Margaret Williams yn canu Dy Fam? Stick it in my veins.
Gwyliwch C芒n i Gymru am 20:00 nos Wener 1 Mawrth ar S4C neu ar 大象传媒 iPlayer
Hefyd o ddiddordeb: