大象传媒

Safle tirlenwi Sir Benfro'n derbyn gwastraff o Loegr

  • Cyhoeddwyd
Cyfarfod
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Daeth nifer o bobl i gyfarfod cyhoeddus nos Lun i drafod y sefyllfa

Mae cyfarwyddwr cwmni sydd yn rhedeg safle tirlenwi Withyhedge ger Hwlffordd wedi cyfaddef bod y safle yn derbyn gwastraff masnachol a diwydiannol o Loegr.

Clywodd cyfarfod cyhoeddus yn Crundale nos Lun bod arogleuon o'r safle yn achosi pennau tost a phroblemau anadlu i drigolion lleol.

Dywedodd David Neal, un o gyfarwyddwyr Resources Management UK Ltd, bod "gwastraff yn cael ei symud", yn sgil cwestiynau gan y gynulleidfa am y lor茂au di-ri sydd yn teithio lawr yr A40 o Gaerdydd i'r safle ger Hwlffordd.

Yn 么l Mr Neal, mae ei gwmni yn buddsoddi mewn technoleg amgen i safleoedd tirlewni, ond mae'n cymryd amser i ddatblygu safle ailgylchu.

Ffynhonnell y llun, Colin Burnett
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae cwynion wedi bod am safle Withyhedge yn Hwlffordd ers yr hydref

Yn y cyfarfod dywedodd Dr Giri Shankar o Iechyd Cyhoeddus Cymru mai'r flaenoriaeth oedd rhoi gorchudd dros y domen cyn gynted 芒 phosib er mwyn lleihau'r arogleuon oedd yn creu problemau iechyd.

Mae'r cwmni wedi cael gorchymyn gan Gyfoeth Naturiol Cymru i roi terfyn ar yr arogleuon gwael erbyn 5 Ebrill.

Mae trigolion rhyw bum milltir o'r safle yn cwyno eu bod nhw yn medru arogli'r pydredd.

Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru eu bod nhw wedi rhoi gwybod i Iechyd Cyhoeddus Cymru am safle Withyhedge ar 12 Ionawr, ar 么l i bobl gwyno am broblemau iechyd yn ymwneud 芒'r safle.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae David Neal wedi'i gael yn euog ddwywaith o droseddau'n ymwneud 芒 chael gwared 芒 gwastraff yn anghyfreithlon

Yn 么l Lorraine Edwards o Crundale, roedd plant lleol sydd ag asthma yn cwyno bod eu cyflwr yn waeth.

Dywedodd dirprwy brif weithredwr Cyngor Sir Penfro, Richard Brown, wrth y cyfarfod bod "cell ansawdd awyr" wedi cael ei greu gyda chymorth Cyfoeth Naturiol Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i fonitro'r sefyllfa.

Wrth annerch y cyfarfod, dywedodd Julie Mathias, sy'n byw yn Poyston Cross, bod ei theulu yn "dioddef arogl nwyon bob nos" ac wedi cael "llond bol".

Roedd hi hefyd yn flin bod Sir Benfro yn derbyn gwastraff o rannau eraill o'r wlad, ar 么l i'r sir ennill gwobrau am ailgylchu.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd pobl leol wedi ymgynnull nos Lun i drafod y broblem

Yn 么l y Cynghorydd Ceidwadol, David Howlett, sy'n cynrychioli Wiston, mae "rhywbeth wedi mynd o'i le yn llwyr" gyda safle Withyhedge yn ystod y misoedd diwethaf.

Fe ofynnodd a fyddai Mr Neal yn darparu iawndal, ar 么l cyfrannu arian at "achosion oedd yn agos at ei galon".

Dywedodd Mr Neal ei fod yn edrych ar sut i greu cronfa gymunedol, ond mai'r nod yw sicrhau bod y safle tirlenwi yn cydymffurfio ac i "rwystro'r arogleuon".

Cyngor yn cyfaddef fod angen gwelliannau

Fe gyfaddef Richard Brown, ar ran Cyngor Sir Penfro, bod angen cyflwyno gwelliannau i'r ffordd mae'r cyngor wedi cyfathrebu ar y mater.

Roedd yna dwrw ar ddiwedd y cyfarfod pan gyfaddefodd y cadeirydd, Henry Tufnell, ei fod yn cefnogi Vaughan Gething yn y ras i fod yn arweinydd nesaf Llafur Cymru.

Dywedodd Mr Tufnell bod Mr Neal wedi cyfrannu 拢200,000 ar gyfer ymgyrch Mr Gething, a bod angen cyfeirio at y mater cyn diwedd y cyfarfod, ar 么l i aelod o'r cyhoedd wneud "awgrymiadau" am y sefyllfa.

Mae Mr Tufnell yn bwriadu sefyll fel ymgeisydd Llafur yn sedd Canol a De Penfro.

Pynciau cysylltiedig