Ateb y Galw: Enfys Clara
- Cyhoeddwyd
Enfys Clara sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma. Ar hyn o bryd mae Enfys yn gweithio gyda Theatr Genedlaethol Cymru fel cyfarwyddydd cynorthwyol ar y ddrama Ie Ie Ie.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Gwylio fy dau gefnder h欧n a'u tad yn chwarae 芒 Hot Wheels. Roedd y trac yn cymryd lan rhan fwyaf o ystafell fyw fy modryb ac oedd 'na loop-de-loop hiwj. Dwi'n meddwl o'n i'n dair, a s'genai ddim syniad pam 'naeth hyn sticio yn fy mhen.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Caerdydd! Mae'n lle nes i dyfu lan, so mae wastad yn teimlo fel gartref i fi. Yn spesifig, unrhyw un o'r traethau bach lawr bwys y Taf ym Mharc Bute. Dwi'n caru cael fy amgylchynu gan natur ond hefyd bod yng nghanol dinas.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Mynd i lle 'nath fy nghariad dyfu lan am y tro cyntaf. Roedd yr awyr mor glir yn y nos ac roeddwn yn gallu gweld cannoedd o s锚r. 'Nathon ni siarad am oriau o dan olau'r lleuad.
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Brwdfrydig. Creadigol. Doniol.
Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn gwneud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl n么l?
Unrhywbeth mae fy nghath, Ghost, yn ei wneud. Mae o'n hoffi rhedeg o gwmpas y t欧 yn neud bacfflips cyn dringo lan fy nghorff ac eistedd ar fy ysgwydd.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Tra'n gweithio mewn bar, nes i ollwng peint o lemonade dros plentyn. Dwi dal yn teimlo'n drwg amdano.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti gr茂o?
Reit nawr, dwi'n person rili emotional.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Ie, brathu fy ewinedd. Dwi 'di 'neud o ers o'n i yn y meithrin.
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?
Am I normal yet? gan Holly Bourne. Mae'n llyfr am rywun gydag OCD yn trio ffitio mewn gyda phobl newydd ac yn ceisio byw bywyd. 'Nath y llyfr helpu fi teimlo'n llai unig wrth ddechrau triniaeth.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod? Pam?
Fy nhadcu, 'nath o farw ar ddechrau 2023 a dwi'n rili colli fo.
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Dwi'n hanner Cuban, mae'r ochr yna o'n nheulu dal yn byw yno.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Cwtshio lan ar y sofa dan loads o flancedi gyda fy nghariad a'r gath, Ghost, a bwyta hufen i芒.
Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?
Llun o Ghost ar ei ddiwrnod cyntaf adre. Mae 'di tyfu cymaint ers hynny!
Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Zendaya, mae hi'n mor dalentog a dwi bach yn genfigennus o red carpet looks hi.
Hefyd o ddiddordeb: