大象传媒

Democratiaid Rhyddfrydol 'ddim am ymuno 芒 chlymblaid'

  • Cyhoeddwyd
jane doddsFfynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Jane Dodds yw arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Mae arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi dweud na fyddai ei phlaid yn ymuno ag unrhyw glymblaid ar 么l yr Etholiad Cyffredinol nesaf.

Wrth siarad cyn cynhadledd ei phlaid yng Nghaerdydd y penwythnos hwn, dywedodd Jane Dodds AS nad oedd y mater "ar yr agenda o gwbl".

Roedd y Democratiaid Rhyddfrydol mewn clymblaid gyda'r Ceidwadwyr yn San Steffan am bum mlynedd wedi 2010, ond fe gollon nhw y rhan fwyaf o'u seddi yn etholiad 2015.

Ar hyn o bryd does gan ei phlaid ddim ASau o Gymru yn San Steffan, a Jane Dodds yw eu hunig Aelod Seneddol ym Mae Caerdydd, ond dywedodd bod Senedd Cymru yn enghraifft dda o ble gallai ei phlaid weithio gydag eraill.

'Wedi gwahardd y gair clymblaid'

Pan ofynnwyd iddi am y posibilrwydd o ymuno 芒 chlymblaid os nad oedd mwyafrif clir wedi'r etholiad cyffredinol, dywedodd Ms Dodds: "Dwi wedi gwahardd y gair yna - y gair 'clymblaid'.

"Nid yw e ar yr agenda o gwbl, ac nid dim ond fi sy'n dweud hynny.

"Rwy'n credu bod pawb yn dweud hynny... Ond yn amlwg mae'n rhaid i ni gael gwleidyddiaeth aeddfed.

"Yr hyn dwi'n gweld yn y Senedd yw bod pobl yn cydweithio ar rai materion, a byddwn yn dychmygu y bydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn edrych i weld beth gallwn ni wneud i wella pethau, fel bod pobl yn elwa.

"Dyna beth mae pobl eisiau ei weld."

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Jane Dodds y bydd yn rhaid i'w phlaid ddewis ble i ganolbwyntio eu hymdrechion

Roedd gan y Democratiaid Rhyddfrydol 57 sedd yn Nh欧'r Cyffredin pan 'naethon nhw glymbleidio, ond fe gwympodd y nifer i ddim ond wyth sedd yn 2015.

Dywedodd llawer o sylwebyddion fod y blaid wedi cymryd y bai am anhapusrwydd y cyhoedd gyda'r llywodraeth oedd o dan arweiniad y Ceidwadwyr.

'Blaenoriaethau clir iawn'

Ar drothwy cynhadledd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yng Nghaerdydd, dywedodd Jane Dodds bod yr hwyliau yn ei phlaid yn dda.

"Ry'n ni'n edrych ymlaen at y flwyddyn hon, yn edrych ymlaen at yr etholiad cyffredinol," meddai.

"Mae gynnon ni flaenoriaethau clir iawn, negeseuon clir iawn. Felly mae'r awyrgylch yn dda iawn."

Dywedodd bod blaenoriaethau ei phlaid yn glir: "Rydym yn ymwybodol iawn o'r pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd, er enghraifft, nad yw rhai pobl yn gallu cael deintydd ar yr NHS.

"Mae gofal plant yn bwnc arall. Ni'n ymwybodol iawn bod teuluoedd yn ei chael hi'n anodd, yn methu cael gafael ar ofal plant fforddiadwy o ansawdd uchel.

"A'r un arall, yw mai ni yw'r blaid sydd eisiau gwell system ddemocrataidd, nid yn unig yma yng Nghymru, ond dros y DU i gyd."

Pwy fydd yn cefnogi'r blaid?

Pan ofynnwyd iddi a oedd hi'n poeni y gallai'r Democratiaid Rhyddfrydol gael ei gwasgu rhwng Llafur a'r Ceidwadwyr, dywedodd Jane Dodds: "Wel, mae hynny wastad yn bryder, ond yw e?

"Ond mewn llefydd lle nad yw pobl am bleidleisio dros y Ceidwadwyr, maen nhw'n edrych i ni.

"A phan fydd pobl yn edrych arnon ni, yn arbennig yng Nghymru, a'r hyn mae Llafur yn ei wneud, er enghraifft, gyda'r Gwasanaeth Iechyd, fyddan nhw ddim yn pleidleisio dros y Ceidwadwyr, felly fe fyddan nhw'n pleidleisio dros y Democratiaid Rhyddfrydol."

Er nad oes gan y blaid unrhyw seddi yng Nghymru ar hyn o bryd, yn y gorffennol diweddar mae wedi cael llond llaw o ASau, yn bennaf yn cynrychioli cefn gwlad canolbarth Cymru.

O ran pa seddi y byddan nhw'n eu targedu, dywedodd Ms Dodds bod ei phlaid yn un fach,聽ac y bydd yn rhaid iddyn nhw ddewis ble i ganolbwyntio eu hymdrechion.

Cyfeiriodd at sedd newydd Aberhonddu, Maesyfed a Chwmtawe fel un lle byddai'r Democratiaid Rhyddfrydol yn gweithio'n galed, ond dywedodd y byddai'r blaid hefyd yn ymgyrchu ledled Cymru gyfan.