Sara Davies yn ennill C芒n i Gymru 2024 gyda'r g芒n Ti
- Cyhoeddwyd
Sara Davies sydd wedi ennill cystadleuaeth C芒n i Gymru 2024 gyda'r g芒n Ti.
Steve Balsamo a Kirstie Roberts oedd yn ail gyda Goleuni, wedi'i pherfformio gan Moli Edwards, tra mai Gwion Phillips ac Efa Rowlands oedd yn drydydd gyda Cysgod Coed.
Mae Sara yn derbyn tlws newydd C芒n i Gymru a gwobr ariannol o 拢5,000, tra bo'r ail safle yn derbyn 拢3,000 a'r trydydd safle'n cael 拢2,000.
Am y tro cyntaf roedd y gystadleuaeth yn cael ei darlledu yn fyw o Arena Abertawe, gyda Trystan Ellis-Morris ac Elin Fflur yn cyflwyno ar S4C.
Ond bu'n rhaid i'r sianel ymddiheuro nos Wener ar 么l i nifer o bobl honni nad oedden nhw wedi gallu pleidleisio am eu hoff g芒n oherwydd problemau gyda'r llinellau ff么n.
Y beirniaid oedd Bronwen Lewis, Dom James, Mared Williams a Carwyn Ellis, gydag Osian Huw Williams - prif leisydd Candelas - yn cadeirio'r panel.
Roedd cyfanswm o 118 o ganeuon wedi cael eu cyflwyno i'r beirniaid ar gyfer y gystadleuaeth eleni.
Bu'r beirniaid Bronwen Lewis a Mared Williams yn perfformio fersiwn o Y Cwm gan Huw Chiswell ar y noson hefyd, 40 mlynedd ers i'r g芒n ennill C芒n i Gymru yn 1984.
C芒n serch gan daid Sara i'w nain yw Ti.
Ysgrifennodd ei thaid geiriau'r g芒n cyn iddo farw, ac ar 么l ei golli, aeth Sara ati i gyfansoddi'r gerddoriaeth.
Yn wreiddiol o Hen Golwyn, mae hi bellach yn byw yn Llandysul ac yn athrawes cerddoriaeth, drama a lles yn Ysgol Uwchradd Tregaron.
Mae hi'n aelod o Glwb Ffermwyr Ifanc Pontsian ac yn aelod o'r gr诺p 50 Sh锚ds o Lleucu Llwyd.
Mewn cyfweliad ar raglen Dros Frecwast fore Sadwrn dywedodd Sara Davies ei bod hi dal mewn sioc.
"Dwi'm yn si诺r os fydd o'n neud synnwyr i fi tan bo' fi'n gwylio fo n么l, ella mewn ychydig o ddyddiau," meddai.
'Breuddwyd taid wedi dod yn wir'
"O'dd nain yn dweud 'o bydde taid mor browd ohona ti', roedd hi bach yn upset ond wedi gwirioni yn deud hefyd bod breuddwyd taid wedi dod yn wir."
O ran y wobr ariannol, mae Sara yn gobeithio y bydd yn rhoi hwb i'w gyrfa fel cantores.
"Bydd o'n helpu efo gallu mynd o gwmpas yn canu mwy, neud gigs y tu hwnt i le dwi'n byw, recordio a phrynu pethau i allu canu - dyna'r bwriad.
"Mae'n teimlo mor bell yn 么l yn barod, dwi'n edrych 'mlaen i weld ymateb pawb a dwi mor ddiolchgar bod pobl mor gefnogol... dwi methu coelio'r peth."
Y bum g芒n arall a gyrhaeddodd y rhestr fer oedd:
Heno - Cyfansoddi: Elfed Morgan Morris a Carys Owen. Perfformio: Elin Hughes
Yr Un Fath - Cyfansoddi a pherfformio: Jacob Howells
Cymru yn y Cymylau - Cyfansoddi: Lowri Jones a Si么n Emlyn Parry. Perfformio: Lowri Jones
惭锚濒 - Cyfansoddi a pherfformio: Owain Huw a Llewelyn Hopwood
Pethau yn Newid - Cyfansoddi a pherfformio: Si么n Rickard
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Mawrth
- Cyhoeddwyd18 Chwefror
- Cyhoeddwyd29 Chwefror
- Cyhoeddwyd3 Mawrth 2023