大象传媒

Tri wedi eu cyhuddo yn dilyn marwolaeth plentyn

  • Cyhoeddwyd
Kinglsey Road

Mae tri pherson wedi eu cyhuddo o fod yn gysylltiedig 芒 marwolaeth Ethan Ives oedd yn ddwy oed yn Awst 2021.

Fe wnaeth Michael Ives, 46, a Kerry Ives, 45, y ddau o Garden City, Glannau Dyfrdwy, ymddangos yn Llys Ynadon Wrecsam ddydd Llun.

Yn ogystal 芒 chyhuddiad o lofruddiaeth, mae'r ddau wedi eu cyhuddo o achosi neu adael i blentyn ddioddef niwed corfforol difrifol ac ymosod, cam-drin, esgeuluso neu adael plentyn gan achosi dioddefaint neu anaf.

Maen nhw wedi cael eu cadw yn y ddalfa.

Mae Shannon Kayleigh Ives, 27, o'r Wyddgrug, hefyd yn wynebu cyhuddiadau o achosi neu adael i blentyn ddioddef niwed corfforol difrifol ac ymosod, cam-drin, esgeuluso neu adael plentyn gan achosi dioddefaint neu anaf.

Cafodd ei rhyddhau ar fechn茂aeth.