Gary Slaymaker: Twin Town a fi
- Cyhoeddwyd
Mae'r ffilm gwlt, Twin Town, ar daith ledled Cymru ar hyn o bryd, i ddathlu 25 mlynedd ers iddi ymddangos gyntaf mewn sinem芒u.
Yr adolygydd ffilmiau, Gary Slaymaker, sydd yn llywio'r noson yng Nghlwb y Bont, Pontypridd nos Wener 8 Mawrth, a fydd yn cynnwys dangosiad o'r ffilm a sgwrs gyda'r cyfarwyddwr, Kevin Allen.
Ynghyd 芒 bod yn ffan, mae gan Gary gysylltiadau gwych a gwallgo' 芒 Twin Town, a ddechreuodd cyn i'r ffilm gael ei greu hyd yn oed, eglura:
'Chwa o awyr iach'
O'dd hi'n chwa o awyr iach i weld ffilm Gymreig cyfoes, yn llawn hiwmor ac anarchiaeth, ynghanol yr holl ddram芒u cyfnod am feirdd, glowyr, a chymunedau amaethyddol. Dwi'n ffan anferth o'r ffilm; mae'n un o'r darnau 'na alla i wylio bob wythnos, a dyfynnu bron pob linell ohoni.
Ma'n nghysylltiad personol i gyda'r ffilm yn mynd n么l i ddechrau'r 90au, pan gwrddes i Kevin [Allen] yn hen swyddfeydd Teledu Agenda yn Abertawe. Ro'dd e'n golygu ffilm ddogfen, a fydden i'n bwmpo mewn i'n gilydd yn rheolaidd yn y llecyn smygu, tu allan i'r stiwdios. Bydden ni'n rhoi'r byd yn ei le, ac yn trafod y prosiectau gwahanol o'dd yn cadw ni i fynd ar y pryd.
Un bore ro'dd Kev tu f芒s i'r adeilad yng nghmni g诺r o'r enw Paul Durden. Ro'dd y ddau yn cael eu cyfarfod cynta i ddechrau rhoi si芒p ar sgript ffilm newydd sbon o'r enw Twin Town. Ro'dd Paul yn swnllyd, cegog, yn berchen ar hiwmor tywyll, ac yn strab a hanner - do'dd dim rhyfedd bo' fi wedi cymryd ato fe'n syth.
Bach iawn o'r stori odd y ddau'n gallu rhannu, ond o'dd hi bendant yn waith fyddai'n defnyddio dinas Abertawe fel ei lleoliad.
Bum mlynedd yn ddiweddarach, o'n i'n eistedd mewn sinema yng Nghaerdydd yn gwylio ffrwyth eu llafur, ac yn wan o chwerthin. Ers i fi weld Twin Town am y tro cynta', ma'r ffilm wedi gweu ei hun i fewn ac allan o'm mywyd i'n gyson.
Bryn, Lucy a Fatty
Pan yn gwneud y gyfres Slaymaker i S4C, fe wnethon ni eitem penodol am Twin Town. Mynd ar daith o gwmpas lleoliadau eiconig y ffilm cyn gorffen yn nh欧'r actor Wil Thomas, i drafod y ffilm a'i r么l fel Bryn Cartwright, prif ddihiryn y stori.
Un o'r adegau 'na fydda i'n trysori am byth oedd perswado fe i ail-adrodd y tri gair [anweddus] wedodd e ar 么l i Fatty Lewis gwmpo oddi ar do y clwb rygbi. Fel arfer, 'wy'n syndod o broffesiynol ar gamera, ond odd hi'n amhosib cadw gwyneb syth gyda delivery Wil ar y linell 'na. Perffaith.
Am flwyddyn a hanner, fe fues mewn perthynas gyda'r actores Sue Roderick ('nath whare Lucy, gwraig Bryn Cartwright), ac yn aml, pan fydden i allan o gwmpas Caerdydd a'r cyffiniau, bydde wastod rhywun yn dod draw i holi Sue am Twin Town.
Fel arfer, naill ai dynion canol oed mawr, moel, mewn cotiau lledr a tat诺s ar eu gyddfau a dwylo, neu bechgyn o'dd yn amlwg lawer rhy ifanc i fod wedi gwylio hon mewn sinema. Ond yr un oedd yr ymateb gan y ddau griw - swildod, hynod o boleit, a dil茅it pur o gael ysgwyd llaw neu dynnu llun gyda un o s锚r ei hoff ffilm.
Ro'dd ymateb pobl i Huw Ceredig hyd yn oed yn fwy trawiadol. Fues i yng nghwmni Huw cwpwl o droeon mewn ciniawau mawr, a ro'dd 'na bron ciw hir o bobl yn ffurfio i gael ysgwyd llaw gyda Fatty Lewis ar y nosweithi hynny.
O s锚r chwaraeon a theledu, i ddynion busnes cefnog - allen nhw ddim aros i rannu eu cariad at y ffilm a pherfformiad eiconig Mr Ceredig, ac ro'dd Huw wrth ei fodd yn cael rhannu hanesion am weithio ar Twin Town.
Ffilm 'epic'
Bellach, ma' Twin Town wedi hawlio ei lle ar y rhestr o'r ffilmiau Cymreig gorau - uwchben How Green Was My Valley, ac o bosib Zulu hefyd.
Llynedd, fe ryddhawyd hi ar ddisg Blu-ray am y tro cynta, ac os edrychwch chi ar gefn y ddisg fe welwch chi'r geiriau Commentary with Morgan Hopkins & Gary Slaymaker. Ges i a Morgan ddwy awr hynod o ddifyr yn cymharu nodiadau, hel atgofion, a defnyddio'r un fath o iaith lliwgar a glywyd ar y sgrin... (wel, bydde fe wedi bod yn anghwrtais i beidio).
Y stori fwya' od sydd gen i am y cysylltiad Twin Town yw'r adeg o'n i yn Aberystwyth rai blynyddoedd n么l. Ro'dd 'na hanner dwsin o ni mas, ac wrth gerdded heibio sinema'r Commodore, dyma griw o fenwod ifanc yn rhuthro tuag ato ni, gyda arweinyddes y gang yn pwyntio ata i tra'n gweiddi, "Omigod, chi 'di o! Chi 'di o! Dudwch 'amblimans'. Dudwch o!"
Yn amlwg odd hi wedi'n nghamgymryd i am Chip, cymeriad Morgan Hopkins yn y ffilm. Heb feddwl ddwywaith wedes i, "'E come off the ladder. They took him down the 'ospital in the amblimans".
Wel, o'dd hi wrth ei bodd, a wedyn 'nath hi ofyn, "Newch chi seinio boob fi?"
Nawr, 'wy wastod wedi gweud, ma' rhaid i chi edrych ar 么l y ffans, hyd yn oed os nad ffans chi yw nhw, felly fe gymres y felt pen nath hi gymryd o'i chot, a sgrifennu 'Morgan Hopkins' ar ei bron, gyda cusan fach ar y diwedd. A bant 芒 hi yn gyt没n ei byd.
Ond i fynd yn 么l at y bore 'na yn Abertawe, pan gwrddes i Paul Durden gynta; 'wy'n cofio gofyn, wrth i ni fynd n么l i'r swyddfeydd, "What kind of film is it then, Paul? Comedy? Thriller?" Fe droiodd ata i gyda gw锚n fawr ar ei wyneb a gweud, "It's gonna be a f**kin epic, Gar".
Ac odd e'n llygad ei le, ond o'dd e.
Hefyd o ddiddordeb: