大象传媒

Cyllideb: Llywodraeth y DU yn prynu safle Wylfa oddi ar Hitachi

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
WylfaFfynhonnell y llun, Christopher Furlong
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae atomfa'r Wylfa'n cael ei digomisiynu ar 么l stopio cynhyrchu ynni yn 2015

Mae llywodraeth y DU wedi cytuno i brynu safle Wylfa oddi ar Hitachi, meddai'r Canghellor Jeremy Hunt wrth gyhoeddi manylion ei gyllideb i'r Deyrnas Unedig,

Mae'r cytundeb am 拢160m yn cynnwys prynu safle Oldbury ychydig dros y ffin yn Sir Gaerloyw.

Tynnodd Hitachi yn 么l o gynllun Wylfa Newydd yn 2019.

Dywedodd y Canghellor hefyd y bydd Llywodraeth y DU yn cyfrannu 拢1.6m tuag at y gwaith o adnewyddu Theatr Clwyd yn Yr Wyddgrug, ac y bydd Y Rhyl yn derbyn 拢20m mewn arian 'codi'r gwastad'.

Mae Dyffryn Clwyd ac Ynys M么n yn seddi a enillwyd gan y Ceidwadwyr oddi wrth Lafur yn yr Etholiad Cyffredinol diwethaf yn 2019.

Ymatebodd Llafur drwy ddweud bod y gyllideb yn "fwy o jam yfory gan y llywodraeth flinedig hon" tra bod Plaid Cymru yn dweud bod "gwasanaethau cyhoeddus yn dadfeilio oherwydd diffyg buddsoddiad".

Cyhoeddodd y canghellor hefyd y bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn bron i 拢170 miliwn mewn symiau canlyniadol Barnett (bydd Llywodraeth yr Alban yn derbyn bron i 拢300 miliwn ac mae 拢100 miliwn ar gyfer Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon).

Yn 么l y disgwyl, cyhoeddodd y canghellor doriad newydd i gyfraniadau Yswiriant Gwladol ar gyfer gweithwyr o 6 Ebrill - dywed Mr Hunt y bydd yn gostwng y gyfradd o 2c arall, gwerth tua 拢450 y flwyddyn i rywun ar gyflog cyfartalog.

Ail gartrefi

Dywedodd y canghellor y bydd yn cael gwared ar doriadau treth sy'n ei gwneud hi'n fwy proffidiol i berchnogion ail gartrefi osod eu heiddo i bobl ar eu gwyliau yn hytrach nag i denantiaid tymor hir i'w rhentu, ac y bydd yn diddymu'r drefn o osod llety gwyliau wedi'i ddodrefnu.

Mae cadarnhad y canghellor ei fod, yn ogystal 芒 rhewi treth tanwydd, yn cadw'r toriad "dros dro" o 5c, yn golygu y bydd yn aros ar 53c y litr. Dywed y bydd hyn yn arbed 拢50 ar gyfartaledd i yrwyr ceir y flwyddyn nesaf.

Mae'r canghellor wedi parhau i rewi treth ar alcohol tan fis Chwefror y flwyddyn nesaf.

Ffynhonnell y llun, T欧'r Cyffredin
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Hon yw cyllideb olaf Jeremy Hunt cyn yr Etholiad Cyffredinol

Mae'r gyfradd uwch o dreth enillion cyfalaf eiddo i'w gostwng o 28% i 24% meddai Mr Hunt, sy'n rhagweld y bydd yn cynyddu refeniw gan y bydd mwy o drafodion.

Mae dau fesur wedi'u cyhoeddi i gael mwy o bobl a chronfeydd pensiwn i fuddsoddi yn stociau'r DU.

"ISA Prydain a fydd yn caniat谩u buddsoddiad blynyddol ychwanegol o 拢5,000 ar gyfer buddsoddiadau yn ecwiti'r DU gyda holl fanteision treth ISAs eraill. Bydd hyn ar ben y lwfansau ISA presennol ac yn sicrhau y gall cynilwyr Prydain elwa ar dwf y busnesau mwyaf addawol yn y DU," meddai Mr Hunt.

Bydd hefyd yn gorfodi awdurdodau lleol a chronfeydd pensiwn cyfraniadau diffiniedig i ddatgelu faint y maent wedi'i fuddsoddi yng nghyfranddaliadau'r DU - ar hyn o bryd mae cronfeydd pensiwn y DU yn buddsoddi dim ond 4% o'u hasedau mewn cyfranddaliadau yn y DU.

O ran budd-dal gofal plant, dywedodd Mr Hunt y byddai'n ymgynghori ar reol newydd i wneud y budd-dal yn berthnasol i incwm cartref cyfunol, yn hytrach nag ar sail unigol - rheol y mae'n bwriadu ei chyflwyno erbyn mis Ebrill 2026, a bydd y trothwy'n codi o 拢50,000 i 拢60,000.

Soniodd Mr Hunt am yr angen i leihau benthyca a lleihau'r ddyled genedlaethol.

Dywed fod rhagolygon heddiw yn dangos y bydd dyled yn disgyn i lai na 94% erbyn 2028 a 2029, i lawr o dros 100%.

Mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn disgwyl i'r economi dyfu 0.8% eleni ac 1.9% y flwyddyn nesaf.

Ymateb

Gan gyfeirio at benderfyniad y llywodraeth i brynu safle niwclear Wylfa, dywedodd Jo Stevens AS, llefarydd yr wrthblaid Llafur ar Gymru, bod "heb amserlen a phroses ar gyfer niwclear newydd ar y safle yn fwy o jam yfory gan y llywodraeth flinedig hon".

"Rydym wedi colli pum mlynedd ers i weinidogion wylio'r prosiect diwethaf yn chwalu," meddai.

"Byddai'r prosiect hwnnw wedi'i gwblhau 50% erbyn hyn, a byddem yn gweld manteision miloedd o swyddi adeiladu gyda 900 o swyddi parhaol ar y ffordd".

Dywedodd Ben Lake ar ran Plaid Cymru: "Cadarnhaodd cyllideb y canghellor amheuon nad oes gan y llywodraeth lawer o fwriad i fynd i'r afael 芒'r llu o faterion dybryd sy'n wynebu cymdeithas.

"Mae pobl wedi cael llond bol o weld gwasanaethau cyhoeddus yn dadfeilio o'u cwmpas oherwydd diffyg buddsoddiad cyhoeddus.

"Tynnodd y canghellor sylw'n gywir at y ffaith bod economi gref yn dibynnu ar wasanaethau cyhoeddus cryf, ac eto mae buddsoddiad cyhoeddus yn seilwaith cymdeithasol ac economaidd y DU wedi aros tua hanner y cyfartaledd ar gyfer econom茂au datblygedig Y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) ers degawdau, ac nid yw cyllideb heddiw yn gwneud dim i gau'r bwlch hwnnw."