27 neidr wedi eu gadael ar ochr ffordd yn Sir Benfro
- Cyhoeddwyd
Mae bron i 30 o nadroedd - un o'r rheini dros 17 troedfedd o hyd - wedi cael eu darganfod yn farw yn Sir Benfro.
Cafodd 27 neidr a phedair i芒r eu gadael mewn bocsys, bagiau bin a chasys gobenyddion ar ochr ffordd ger pentref Waterston.
Roedd sawl math gwahanol o neidr ymhlith y casgliad, gyda maint y nadroedd yn amrywio o un droedfedd i 17 troedfedd - tua'r un maint 芒 jir谩ff.
Mae elusen yr RSPCA bellach yn ymchwilio i'r mater ac yn apelio am wybodaeth er mwyn deall o le ddaeth y creaduriaid.
Dywedodd Keith Hogben, un o ymchwilwyr yr RSPCA, bod yr achos yma'n un o'r gwaethaf iddo ei weld mewn 25 mlynedd o weithio i'r elusen.
"Cafodd pedair i芒r eu darganfod hefyd a dwi'n credu mai bwyd ar gyfer y nadroedd mwyaf oedd y rhain," meddai.
"Yn bendant dyma un o'r pethau gwaethaf i mi orfod delio 芒 fo mewn chwarter canrif.
"Mae hi'n drist iawn i feddwl bod y nadroedd yma, o bosib, wedi bod yn dioddef ers sbel... Fedra i gredu bod hyn wedi bod yn brofiad ofnadwy i'r person wnaeth eu darganfod."
Mae ymchwiliadau post mortem yn cael eu cynnal ar rai o'r nadroedd er mwyn ceisio deall achos y marwolaethau.