大象传媒

Efailwen: Bachgen, 16, wedi marw ar 么l digwyddiad 芒 thryc

  • Cyhoeddwyd
Ll欧r DaviesFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Ll欧r Davies yn ddisgybl yn Ysgol Bro Teifi, Llandysul

Mae bachgen 16 oed wedi marw yn dilyn digwyddiad yn ymwneud 芒 thryc ar dir preifat yn Sir Benfro.

Mae teulu Ll欧r Davies, a oedd yn ddisgybl yn Ysgol Bro Teifi, Llandysul, wedi ei ddisgrifio fel "bachgen caredig, doniol a hoffus".

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i gyfeiriad yn ardal Efailwen, Clunderwen am 13:29 brynhawn Mawrth yn dilyn adroddiadau o wrthdrawiad.

Dywedodd Gwasanaeth T芒n ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru bod tryc wedi ei ddarganfod mewn afon fas, tra bod unigolyn wedi ei ganfod mewn lleoliad arall.

Er iddo dderbyn cymorth cyntaf gan barafeddygon, bu farw yn y fan a'r lle.

Dywedodd teulu Ll欧r mewn datganiad bod "eu bywydau wedi eu troi ben i waered" gan y newyddion.

"Gyda thristwch enfawr, ry'n ni fel teulu yn cyhoeddi marwolaeth Ll欧r," meddai'r datganiad.

'Wastad yn ein calonnau'

"Ar 12 Mawrth cafodd ein bywydau eu troi ben i waered gan y newyddion ein bod ni wedi colli ein bachgen caredig, doniol a hoffus.

"Mi fydd dy bersonoliaeth hyfryd yn parhau gyda ni am weddill ein hoes. Roedd dy allu i oleuo unrhyw ystafell yr oeddet ti'n cerdded mewn iddi yn rhywbeth y byddwn ni'n ei drysori am byth.

"Ni fydd ein bywydau'r un peth hebddo ti Ll欧r, fyddi di wastad yn ein calonnau. Cysga'n dawel beautiful boy."

Ychwanegodd y teulu eu bod yn gwerthfawrogi'r holl negeseuon o gefnogaeth gan ffrindiau, teulu a'r gymuned yn ehangach.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i gyfeiriad yn ardal Efailwen brynhawn Mawrth

O ganlyniad i natur y digwyddiad, mae'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch (HSE) wedi cael gwybod.

Dywedodd llefarydd ar ran HSE eu bod nhw'n gweithio gyda Heddlu Dyfed Powys fel rhan o'u hymchwiliad.

'Trasig'

Dywedodd Gareth Evans, Pennaeth Dros Dro Ysgol Bro Teifi: "Rydym yn hynod drist i glywed y newyddion trasig yma.

"Hoffwn ddatgan ein cydymdeimlad dwysaf i'r teulu ar yr amser trist ac anodd hwn.

"Byddwn yn darparu cymorth a chefnogaeth i'n staff a'n disgyblion dros y dyddiau nesaf."

Mae llefarydd ar ran Cyngor Ceredigion wedi dweud eu bod yn "cydymdeimlo gyda'r teulu ac yn cynnig cefnogaeth iddyn nhw".

Fyddan nhw ddim yn gwneud sylw arall wrth i'r heddlu ymchwilio.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd y Gwasanaeth T芒n bod tryc wedi ei ganfod mewn afon fas, ond nad oedd person yn y cerbyd ar y pryd

Dywedodd cynghorydd Sir Aberporth a'r Ferwig, Gethin Davies, oedd yn adnabod Ll欧r, fod yr effaith ar y gymuned i'w deimlo'n barod.

"Mae e'n mynd i fod yn golled fawr yn y gymuned. Mae e'n mynd i fod yn golled fawr hefyd yn y teulu, yn yr ardal, yr ysgol, a'r clwb rygbi achos o'dd diddordeb gyda fe yn llawer o bethau," meddai.

"Bob tro o'n i'n gweld e, o'dd e'n gweud 'Helo, shwmae Gethin' a phethau fel 'na, o'dd e'n eitha' ffeind. O'dd e'n gallu siarad ag unrhyw un.

"Mae e'n mynd i adael twll mawr yn y gymuned ond mae calon y gymuned yn mynd mas i'r teulu."

Mewn neges ar eu tudalen Facebook, dywedodd Clwb Rygbi Castellnewydd Emlyn bod Ll欧r "yn fachgen hoffus ac yn ffrind i bawb".

"Newyddion hynod o drist ddoe bod un o'n chwaraewyr dan 16 wedi colli ei fywyd. Mae'r clwb yn cydymdeimlo yn ddwys gyda'r teulu a'i holl ffrindiau," meddai'r neges.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Ll欧r yn "grwt hoffus iawn" oedd wrth ei fodd yn chwarae rygbi, yn 么l Emyr Jones

Dywedodd Emyr Jones, Hyfforddwr t卯m dan-16 Clwb Rygbi Castellnewydd Emlyn, bod Ll欧r yn "grwt hoffus iawn" oedd yn "gymeriad yn ei hunan".

"O'dd e'n newyddion trist iawn. Fi 'di gweithio gyda Ll欧r ers sawl tymor nawr. O'n nhw'n gr诺p bach agos iawn gyda'i gilydd, ac roedd e'n mwynhau ei rygbi yn fawr iawn," meddai.

"Mae'r newyddion a'r negeseuon ni wedi eu cael wrth glybiau arall yng ngorllewin Cymru, mae e'n neis i glywed bod e yn fachgen mor well known.

"Roedd e'n mwynhau ei rygbi a dim ond chwarae rygbi a gweithio o'dd e moyn neud."

'S诺n yn ofnadwy'

Mae Clwb P锚l-droed Aberteifi, lle'r oedd Ll欧r yn arfer bod yn aelod, hefyd wedi rhannu neges yn cydymdeimlo gyda'r teulu ac yn cynnig cefnogaeth i'w haelodau.

Dywedodd Nick Crowe, 67, sy'n byw gyferbyn 芒'r chwarel yn Efailwen, wrth 大象传媒 Cymru ei fod wedi clywed s诺n gwrthdrawiad.

"Roedd y s诺n yn ofnadwy... Do'n i methu gweld dim. Y peth cyntaf ddaeth i'm meddwl oedd 'lle mae'r gyrrwr?'," meddai.

"Rhedais yn 么l i'r t欧 er mwyn cael signal ac wedyn fe wnaeth fy nghariad i ffonio'r gwasanaethau brys."

Pynciau cysylltiedig