大象传媒

S4C: Penodi Guto Bebb yn gadeirydd dros dro

  • Cyhoeddwyd
Guto Bebb
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Guto Bebb yn Aelod Seneddol dros Aberconwy tan 2019

Mae'r cyn-Aelod Seneddol Ceidwadol, Guto Bebb wedi'i benodi yn gadeirydd dros dro newydd ar S4C.

Bydd yn dechrau ar ei waith ym mis Ebrill, ac yn parhau yn y r么l tan fis Mawrth 2025 neu tan fod cadeirydd llawn amser yn cael ei benodi.

Daw'r penodiad ar 么l i Rhodri Williams gyhoeddi ym mis Ionawr nad oedd am gael ei ystyried ar gyfer ail dymor yn gadeirydd ar y sianel.

Mae'r broses o benodi cadeirydd llawn amser wedi dechrau yn swyddogol ddydd Iau.

Yn enedigol o Sir y Fflint, mae Mr Bebb wedi byw yng Nghaernarfon ers 40 mlynedd.

Bu'n Aelod Seneddol dros Aberconwy am ddegawd gan wasanaethu fel Gweinidog yn Swyddfa Cymru a'r Weinyddiaeth Amddiffyn.

Daeth ei gyfnod yn San Steffan i ben yn 2019 pan ddaeth Boris Johnson yn Brif Weinidog.

Mae bellach yn gweithio fel Rheolwr Gyfarwyddwr Gr诺p Undeb Amaethwyr Cymru wedi cyfnod fel Rheolwr Gyfarwyddwr Gwasanaeth Yswiriant yr undeb.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Sioned Wiliam wedi ei phenodi yn brif weithredwr dros dro yn dilyn diswyddiad Si芒n Doyle

Mae wedi bod yn flwyddyn gythryblus i'r darlledwr, gydag ymchwiliad annibynnol i honiadau o fwlio gan aelodau o d卯m rheoli S4C a diswyddo dau uwch swyddog blaenllaw, sydd wedi codi cwestiynau'n gyhoeddus am y modd mae'r bwrdd a'r cadeirydd wedi ymateb i'r sefyllfa.

Mae Bwrdd S4C eisoes wedi penodi Sioned Wiliam yn brif weithredwr dros dro yn dilyn diswyddiad Si芒n Doyle ym mis Tachwedd 2023.

Cafodd y cyn-brif weithredwr ei diswyddo o'r r么l ym mis Tachwedd y llynedd yn sgil honiadau o fwlio ac ymddygiad anaddas.

Ym mis Ionawr fe gadarnhaodd Rhodri Williams ei fod wedi anfon llythyr at Lywodraeth y DU yn gofyn iddyn nhw beidio ei ystyried ar gyfer ail dymor yn y swydd.

Mewn cyfweliad ar y pryd, dywedodd Mr Williams mai'r "flwyddyn ddiwethaf oedd yr anoddaf yn holl hanes y sianel".

Pynciau cysylltiedig