Cwmni gwastraff a roddodd arian i Gething yn euog o drosedd arall
- Cyhoeddwyd
Plediodd cwmni sy'n rhan o gr诺p a roddodd 拢200,000 i ymgeisydd arweinyddiaeth Llafur Cymru, Vaughan Gething, yn euog i drosedd amgylcheddol ym mis Ionawr.
Plediodd Atlantic Recycling yn euog i fethu gweithredu yn 么l amod ei drwydded yn Llys y Goron Caerdydd, yn 么l rheoleiddwyr.
Nid yw'r cwmni wedi'i ddedfrydu eto am y drosedd.
Dywedodd llefarydd na allai'r cwmni wneud sylw ar y mater.
Mae Atlantic Recycling yn rhan o Gr诺p Amgylcheddol Dauson, a roddodd 拢100,000 i Vaughan Gething ar 18 Rhagfyr 2023, a 拢100,000 ar 11 Ionawr 2024.
Cafodd y cwmni, a'i gyfarwyddwr David John Neal, eu herlyn yn flaenorol am droseddau amgylcheddol yn 2013 a 2017.
Cafodd Atlantic Recycling hefyd ddirwy o 拢300,000 yn ddiweddar dros farwolaeth gweithiwr.
Plediodd y cwmni'n euog, meddai Cyfoeth Naturiol Cymru, i drosedd sengl ar 30 Ionawr 2024.
Roedd y drosedd honedig rhwng 14 Gorffennaf 2019 a 26 Gorffennaf 2019 ar safle'r cwmni yn Heol Newton, Caerdydd, wedi methu 芒 chydymffurfio 芒 thrwydded amgylcheddol drwy beidio 芒 "rheoli a gweithredu eu gweithgareddau yn unol 芒'u cynllun atal t芒n ysgrifenedig".
Roedd Atlantic Recycling wedi gofyn am ganiat芒d i apelio yn erbyn yr euogfarn i'r Llys Ap锚l, oedd yn eistedd yn Abertawe ddydd Mercher, ond cafodd ei gais ei wrthod.
Bydd angen cynnal gwrandawiad i benderfynu'r ffeithiau cyn i'r llys fynd yn ei flaen i ddedfrydu, meddai Cyfoeth Naturiol Cymru, gan ychwanegu nad oedd dyddiad ar gyfer y gwrandawiad wedi'i bennu.
Cafodd cwmni Atlantic Recycling a'i gyfarwyddwr David Neal eu herlyn yn 2013 am ollwng gwastraff yn anghyfreithlon ar Wastadeddau Gwent, ac fe gawson nhw eu herlyn eto yn 2017 am fethu 芒 glanhau'r gwastraff.
Cafodd Mr Neal ddirwy o 拢10,000 a dedfryd o dri mis wedi'i gohirio yn 2013.
Derbyniodd ddedfryd arall o 18 wythnos wedi'i gohirio yn 2017, ynghyd 芒 dirwyon a chostau o 拢230,000.
Dywedodd Atlantic Recycling: "Gan fod y rhain yn achosion barnwrol parhaus a'n bod yn dal i aros am y penderfyniad terfynol, rydym wedi cael gwybod y byddai'n amhriodol gwneud sylw ar hyn o bryd."
'Tryloywder'
Mae Mr Gething yn un o ddau ymgeisydd yn ras arweinyddiaeth Llafur Cymru. Daeth pleidleisio yn yr ornest i ben ddydd Iau am hanner dydd.
Dywedodd ei ymgyrch: "Mae'r holl roddion yn cael eu datgan i'r Senedd a'r Comisiwn Etholiadol yn unol 芒'r rheolau ac ymrwymiad Vaughan i dryloywder.
"Mae maniffesto arweinyddiaeth Vaughan Gething yn addo cryfhau camau gorfodi i warchod yr amgylchedd ac yn addo cosbau llymach i'r rhai sy'n torri rheolau amgylcheddol."
Cyn i'r drosedd newydd ddod i'r amlwg, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford wrth y 大象传媒 nad oedd "rheolau wedi eu torri" gan y rhoddion.
"Mae rhai o'r pethau sy'n cael eu dweud bod y rhodd rywsut yn golygu bod rhywun wedi cael mantais mewn penderfyniadau y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud yn bendant yn anghywir."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mawrth
- Cyhoeddwyd29 Chwefror
- Cyhoeddwyd27 Chwefror
- Cyhoeddwyd22 Chwefror
- Cyhoeddwyd21 Chwefror