大象传媒

M4: Gyrrwr wedi marw ar 么l gwrthdrawiad rhwng car a lori

  • Cyhoeddwyd
Safle'r gwrthdrawiad
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad am tua 23:20 nos Lun

Mae gyrrwr wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng car a lori ar yr M4 yn Sir Gaerfyrddin nos Lun.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ger cyffordd 48, Yr Hendy, am 23:20.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys bod car wedi taro'n erbyn lori, a bod gyrrwr y car wedi marw ar y safle.

Bu'n rhaid cau rhan o'r M4 am rai oriau wrth i swyddogion ymateb i'r digwyddiad.

Mae'r ffordd bellach wedi ailagor i'r ddau gyfeiriad.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd tagfeydd hir i'w gweld ar yr M4 fore Mawrth

Pan oedd y draffordd ar gau rhwng cyffordd 48, yr Hendy, a chyffordd 49, Pont Abraham, roedd cyngor i deithwyr osgoi'r ardal os yn bosib.

Dywedodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru eu bod wedi anfon nifer o griwiau, gan gynnwys T卯m Ymateb Ardal Beryglus.

Yn 么l y Gwasanaeth T芒n ac Achub, roedd y ddau gerbyd ar d芒n wedi'r gwrthdrawiad.

Roedd criwiau wedi llwyddo i ddiffodd y fflamau cyn gadael y safle am 01:20.

Pynciau cysylltiedig