Rhybudd cyffuriau wedi marwolaethau mewn carchar
- Cyhoeddwyd
Mae'r Ombwdsmon Carchardai a Phrawf wedi gofyn i garcharorion lle mae chwech o bobl wedi marw mewn cyfnod byr i gael gwared ar gyffuriau.
Dywedodd Adrian Usher ei fod yn credu bod o leiaf rhai o'r chwe marwolaeth yng Ngharchar y Parc ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn gysylltiedig 芒'r cyffur Spice oedd wedi ei gymysgu gyda chyffur arall.
Fe ddaeth hi i'r amlwg ddydd Mercher bod yr Ombwsdmon wedi dechrau cyfres o ymchwiliadau wedi i nifer o garcharorion farw o fewn tair wythnos i'w gilydd yn y carchar.
Dywedodd cwmni G4S, sy'n rhedeg y carchar ym Mhen-y-bont ar Ogwr, fod y marwolaethau wedi digwydd rhwng 27 Chwefror ac 19 Mawrth.
Bu farw John Rose a Jason Hussey yn y carchar ar 27 Chwefror, gyda Christopher Stokes wedi marw ar 9 Mawrth.
Nid yw enwau'r tri arall fu farw wedi cael eu cyhoeddi hyd yma.
Maen nhw ymysg 20 o farwolaethau sydd wedi digwydd yn y carchar ers Ionawr 2022.
Rhybudd cenedlaethol
Dywedodd Mr Usher: "Yn dilyn ymchwiliadau cychwynnol, rydym yn credu fod o leiaf pedwar o'r chwe marwolaeth yn gysylltiedig gyda chyffuriau.
"Mae'n debygol fod y rhain yn cynnwys y cyffur Spice wedi'i gymysgu gyda theulu arall o gyffuriau.
"Fe gyhoeddwyd rhybudd iechyd cenedlaethol am y cyffur arbennig yma, sydd heb gael ei enwi hyd yn hyn, ond rydym yn credu fod o leiaf dau o'r rhai fu farw yng Ngharchar y Parc wedi ei gymryd.
"Mae'n debygol felly fod y marwolaethau i gyd yn gysylltiedig gyda Spice.
"Rydym yn annog pob carcharor sydd 芒 Spice yn ei feddiant i gael gwared arno'n syth.
"Mae hwn yn gyffur peryglus, ac nid ydym am weld unrhyw farwolaethau diangen yn digwydd eto."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Mawrth
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd17 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd13 Tachwedd 2018