Plismon yn gwadu cyhuddiadau'n cynnwys dwyn 拢16,000
- Cyhoeddwyd
Mae swyddog gyda Heddlu De Cymru wedi gwadu dwyn s锚ff oedd yn cynnwys 拢16,000 mewn arian parod.
Mae'r Sarjant Ben Cooke, 34 o Hirwaun, Rhondda Cynon Taf, wedi'i gyhuddo o dorri mewn i d欧 ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar 7 Chwefror eleni, gan ddwyn y s锚ff ac eitemau personol eraill.
Mae wedi'i gyhuddo hefyd o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus drwy wneud chwiliadau heb eu hawdurdodi ar systemau'r heddlu rhwng 3 a 9 Chwefror, gan gamddefnyddio'i swydd fel heddwas er mwyn gwneud enillion personol.
Mae'r Sarjant Cooke hefyd wedi'i gyhuddo o gael mynediad i ddata ar gyfrifiadur yn groes i'r Ddeddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990.
Mewn gwrandawiad yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Mercher fe wadodd y tri chyhuddiad yn ei erbyn.
Fe gadarnhaodd ei gyfeiriad ac atebodd "dieuog" wrth i'r cyhuddiadau gael eu hadrodd iddo.
Dechreuodd fynd yn ddagreuol yn ystod y gwrandawiad 10 munud.
Cafodd ei gadw yn y ddalfa gan y Barnwr Tracey Loyd-Clarke, ac fe fydd yr achos yn ei erbyn yn dechrau ar 12 Awst.