大象传媒

Cwmni roddodd arian i'r prif weinidog gerbron llys

  • Cyhoeddwyd
Vaughan GethingFfynhonnell y llun, Matthew Harwood/Getty Images

Bydd cwmni a roddodd filoedd o bunnoedd tuag at ymgyrch Vaughan Gething yn etholiad arweinydd Llafur Cymru yn mynd gerbron llys i wynebu cyhuddiadau amgylcheddol.

Mae Atlantic Recycling, sy'n rhan o gwmni a roddodd yr arian i Brif Weinidog newydd Cymru, yn wynebu dau gyhuddiad o fethu cydymffurfio gydag amodau trwydded amgylcheddol.

Bydd gwrandawiad i glywed y ffeithiau - sy'n cael ei adnabod fel gwrandawiad Newton - yn cael ei gynnal yn Llys y Goron Caerdydd ar 16 Rhagfyr.

Mae Atlantic Recycling yn rhan o'r Dauson Environmental Group, a roddodd 拢200,000 i ymgyrch lwyddiannus Mr Gething i olynu Mark Drakeford fel arweinydd.

Mae datganiadau'r ddau ymgeisydd yn yr etholiad hwnnw yn dangos fod ymgyrch Mr Gething wedi codi o leiaf 拢254,600, tra bod ei wrthwynebydd Jeremy Miles wedi codi o leiaf 拢58,800.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Daeth Sir Keir Starmer i Gaergybi gyda Vaughan Gething ddydd Llun

Mae'r prif weinidog wedi gwrthod ceisiadau gan wrthwynebwyr i ad-dalu'r arian, ond mae'n dweud y bydd ei blaid yn cynnal adolygiad o ariannu ymgyrchoedd.

Tra ar ymweliad 芒 Chymru yn gynharach yn yr wythnos, dywedodd arweinydd Llafur yn San Steffan, Syr Keir Starmer ei fod yn "gwneud synnwyr" i Lafur Cymru adolygu rheolau ynghylch ariannu ymgyrchoedd.

Fe ychwanegodd: "Mae'r prif weinidog wedi esbonio ei weithredoedd. Nid yw wedi torri unrhyw reolau a dyna ddiwedd ar y ddadl honno."