Ymddygiad treisgar disgyblion yn 'argyfwng' - undeb
- Cyhoeddwyd
Mae undeb addysg wedi galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i amddiffyn athrawon a disgyblion rhag ymddygiad treisgar yn yr ystafell ddosbarth.
Mae undeb NASUWT wedi disgrifio'r sefyllfa fel "argyfwng".
Maen nhw'n dweud fod 38% o athrawon yng Nghymru wedi profi trais neu gam-drin corfforol gan ddisgybl yn y flwyddyn ddiwethaf.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod "unrhyw fath o drais neu gamdriniaeth yn erbyn staff yn ein hysgolion yn gwbl annerbyniol".
Yn siarad yng nghynhadledd flynyddol NASUWT yn Harrogate ddydd Sadwrn, dywedodd aelodau pwyllgor gwaith yr undeb yng Nghymru fod angen i'r llywodraeth wneud mwy i amddiffyn staff a disgyblion.
Ychwanegodd yr undeb fod eu haelodau yn Ysgol Uwchradd Cil-y-coed yn Sir Fynwy ac Ysgol Uwchradd Pencoedtre yn Y Barri wedi bod ar streic yn ddiweddar am y mater.
Dywedodd Neil Butler, swyddog cenedlaethol NASUWT Cymru fod "athrawon yn gweithredu mewn amgylchedd gelyniaethus lle na allant addysgu ac ni all disgyblion ddysgu".
"Mae eu galwadau am help yn cael eu hanwybyddu," meddai.
"Mae llawer wedi dewis gadael y proffesiwn ac ni allwn recriwtio i gymryd eu lle.
"Rhaid i Lywodraeth Cymru agor eu llygaid i'r argyfwng sy'n datblygu yn ein hysgolion.
"Dylai athrawon gael eu grymuso i ddelio ag ymddygiad heriol trwy leihau maint dosbarthiadau a llwythi gwaith cytbwys.
"Mae cynghorau lleol ac uwch arweinwyr yn ymddwyn fel mai nid eu problem nhw ydy ymddygiad treisgar disgyblion.
"Os ydym am fynd i'r afael 芒'r materion hyn, rhaid i i wneud hynny gyda'n gilydd - ni ellir disgwyl i athrawon ymdopi ar eu pen eu hunain."
'Amgylchedd diogel a chroesawgar'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae unrhyw fath o drais neu gamdriniaeth yn erbyn staff yn ein hysgolion yn gwbl annerbyniol.
"Rydym am i'n hysgolion gynnig amgylchedd diogel a chroesawgar lle gall athrawon fwrw ymlaen 芒'u swyddi, gan sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn cael ei gefnogi i gyflawni ei botensial.
"Mae dyletswydd ar awdurdodau lleol ac ysgolion i sicrhau bod ysgolion yn ddiogel i bawb."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2022