Glaw 'wedi cael effaith' ar dwristiaeth dros y Pasg
- Cyhoeddwyd
Mae glaw trwm yn golygu bod rhai busnesau yng Nghymru wedi gorfod canslo archebion ar gyfer cyfnod y Pasg a chynnig ad-daliadau i gwsmeriaid.
Gyda rhybudd y gallai mis Ebrill fod yn wlyb hefyd, mae pobl sy'n gweithio yn y diwydiant twristiaeth yn dweud bod y glaw "wedi cael effaith" ar fusnesau.
Fe benderfynodd perchnogion gwersyll Heritage Coast ger Y Bont-faen ym Mro Morgannwg y byddai'n well iddyn nhw gau dros benwythnos y Pasg.
Dywedodd Philippa George: "Byddai hi wedi bod yn brofiad gwael i bobl wersylla yma. Mae'r tir yn socian a dy'n ni ddim am i atgofion ein cwsmeriaid gael eu difetha.
"Y bwriad yw ailagor ar 12 Ebrill, ond dydi hi ddim yn edrych llawer gwell ar hyn o bryd, felly bydd rhaid i ni wneud penderfyniad anodd o ran aros tan fis Mai neu beidio."
Ychwanegodd: "Ry'n ni wedi llwyddo i gadw'r gwair mewn cyflwr da, ond mae'r tir yn socian.
"Pe bai chi'n gyrru car neu campervan dros y caeau yna bydd 'na f么r o fwd, allai effeithio ar bobl sy'n bwriadu dod yn hwyrach yn y flwyddyn hefyd.
"Ein cyfrifoldeb ni yn y diwydiant lletygarwch yw helpu pobl i greu atgofion melys, a dyw'r tywydd yma ddim yn helpu o gwbl."
Dywedodd llefarydd ar ran GYG Karting yng Ngherrigydrudion, Conwy, bod llai o ymwelwyr wedi archebu lle eleni gan eu bod yn aros i weld sut fydd y tywydd.
"Dwi ddim yn si诺r os ydy'r bai i gyd ar y tywydd. Gallai'r sefyllfa economaidd fod yn ffactor mawr hefyd.
"'Da ni wedi gweld llai o bobl yn archebu lle na'r arfer. Er nad ydy'r tywydd yn effeithio ar y weithgaredd, mae pobl i weld yn aros am dywydd brafiach."
Yn Nyffryn Dyfi, mae wedi bod yn gyfnod prysur i'r diwydiant twristiaeth, er gwaetha'r glaw.
Ers 1 Mawrth, Huw Morgan a'i wraig Gail ydy perchnogion newydd Gwesty'r Wynstay ym Machynlleth.
Dywedodd Mr Morgan ar raglen Dros Frecwast: "Ers i ni agor dydan ni heb gael amser i feddwl, mae 'di bod yn hynod o brysur.
"Mae pobl yn dod o bob rhan o Brydain, ond 'da ni hefyd wedi gweld twristiaid lleol o bob rhan o Gymru.
"Ma' Machynlleth wastad yn eitha' prysur efo twristiaid efo beicio mynydd, mynyddoedd neu'r arfordir, felly 'da ni mewn lleoliad da.
"Mae'n od ym Machynlleth. Fel arfer ma' pobl yn heidio i'r arfordir, i'r traethau a wedyn ar ddiwrnod glawog, ma' lot yn chwilio am rywbeth i 'neud ac maen nhw'n tueddu i ddod i rywle fel Machynlleth."
'Paratoi ar gyfer y glaw'
Mae Arfon Hughes yn rhedeg teithiau cerdded Dyfi ac ar bwyllgor Canolfan Owain Glynd诺r ym Machynlleth.
Meddai: "Mae'r glaw yn cael effaith ond 'da ni'n paratoi ar ei gyfer o ac yn gyrru 'mlaen.
"Mi weles i gyfle i gynnal digwyddiadau bach a rhoi gwybodaeth i bobl... mae o wedi tyfu ac mae pobl yn dod o bell ac agos ar fysys.
"Mae o wedi bod yn sefydlog o ran cynnal y gwasanaethau yma i bobl."
Mae Rwth Hughes yn gynghorydd ar gyngor tref Machynlleth ac yn rhedeg fferm a'n rhentu llety i ymwelwyr.
Dywedodd: "Dwi'n meddwl bo' ni'n lwcus iawn... da ni'n cael llawer o bobl yn trafeilio drwy Fachynlleth ond fi fy hun, dwi'n gweld yn ddiweddar newid mawr yn oedran y bobl sy'n aros yma efo'r beiciau mynydd efo'r Athertons [teulu enwog ym myd beicio mynydd] wedi symud i Fachynlleth ac yn denu lot o bobl ifanc i'r ardal.
"Da ni yn Nyffryn Dyfi a dydi'r haul ddim yn dod allan yn aml, felly dwi'n gobeithio ddeith pobl yn 么l.
"Da ni'n lwcus iawn, mae 'na siopau arbennig, mae 'na bobl ifanc yn agor siopau a chaffis newydd, siopau crefftau sy'n denu ymwelwyr.
"Ges i ddynes yn dod i aros yn y llety o Glasgow yn dod lawr am ddau ddiwrnod i brynu sgidiau yn y siop sgidiau!
"Fyswn i'n licio gweld mwy yn cael ei wneud i hyrwyddo Machynlleth fel canolfan wyliau. 'Da ni angen hybu Machynlleth llawer mwy."
Ym mis Chwefror eleni, agorodd pont newydd ar yr A487 dros Afon Dyfi ger Machynlleth, ac yn 么l Rwth mae hynny "wedi gwneud gwahaniaeth mawr".
"'Da ni wedi bod yn lwcus bo' ni wedi cael y bont newydd yma ond mae'n rhaid i ni gofio bod y gweithwyr 'ma i gyd wedi bod yn aros yn lleol ac wedi bod yn bwyta'n lleol, ac ma' lot o bres wedi dod fewn i Fachynlleth achos y bont."
Er bod disgwyl rhagor o law ym mis Ebrill, mae perchennog y Wynstay, Huw Morgan, yn rhagweld haf prysur.
"Mae'r haf yn edrych yn eitha' da hyd yn hyn. Mae lot o ddigwyddiadau fel yr 诺yl gomedi - 'da ni'n lwcus efo pethau fel'na - a mae bookings trwy beicio mynydd yn hynod o bwysig hefyd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Mai 2023
- Cyhoeddwyd12 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd28 Gorffennaf 2023