大象传媒

Gohirio gwerthu Eglwys y Blygain Fawr am flwyddyn

  • Cyhoeddwyd
Eglwys Llanfihangel yng Ngwynfa

Mae'r Eglwys yng Nghymru wedi gohirio gwerthu eglwys blwyf Llanfihangel-yng-Ngwynfa am flwyddyn.

Yn ystod yr oriau diwethaf mae cannoedd o bobl wedi arwyddo deiseb yn galw am ddiogelu'r eglwys - lle cafodd yr emynydd Ann Griffiths ei bedyddio a'i chladdu.

Roedd Esgobaeth Llanelwy yn bwriadu gwerthu Eglwys Mihangel Sant - eglwys blwyf Llanfihangel-yng-Ngwynfa - mewn arwerthiant ar 11 Ebrill.

Roedd hi ar werth am 拢30,000.

Cynnal 'trafodaethau pellach'

Ond brynhawn Gwener dywedodd llefarydd ar ran Corff Cynrychioladol yr Eglwys yng Nghymru: "Y mae Eglwys Mihangel Sant, sy'n dyddio o'r 1860au, wedi bod ar gau ers mis Ionawr 2020, ar 么l i'w chostau atgyweirio strwythurol gynyddu y tu hwnt i gyrraedd adnoddau'r gymuned addoli leol.

"Yn 么l y cynllun gwerthiant, fe fyddai mynediad cyhoeddus i'r fynwent, gan gynnwys cofeb Ann Griffiths (1776-1805), yn cael ei ddiogelu.

"Gan fod diddordeb yn nyfodol yr adeilad wedi cael ei fynegi o'r newydd, bydd Corff Cynrychioladol yr Eglwys yng Nghymru yn gohirio'r ocsiwn am flwyddyn fel y gall trafodaethau pellach ddigwydd.

"Croesewir cynigion a fydd yn rhoi opsiynau ar gyfer yr eglwys hon, ac fe ddylai'r sawl sydd 芒 diddordeb gysylltu 芒'r Corff Cynrychioladol."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y Blygain Fawr olaf cyn i'r eglwys gau yn 2020

Cyn y cyhoeddiad ar raglen Dros Frecwast Radio Cymru, dywedodd y Cynghorydd Elwyn Vaughan o Ddyffryn Dyfi: "Mae'r eglwys ar werth ar ocsiwn a hynny yn fyr-rybudd, a felly bod 'na ddim cyfle wedi bod i bobl wyntyllu cyfleon be' gellid gwneud efo'r safle arbennig yma."

Mae'r eglwys wedi bod ynghau ers blynyddoedd oherwydd cyflwr yr adeilad, ac mae'r Cynghorydd Vaughan yn cydnabod y byddai angen gwario arian i adnewyddu'r safle.

"'Da ni'n gweld bod brwdfrydedd ar y cyfryngau cymdeithasol a phobl eisiau achub a chadw'r adeilad arbennig yma.

"Ond y realiti ydy bod gan yr eglwys yma - fel sawl eglwys a chapel - gostau sylweddol ac felly mae angen amser i bwyso a mesur i weld be ydy'r cyfleon - lle mae'r adnoddau ar gael i wneud unrhyw beth a pha gynlluniau cynaliadwy fyddai ar gael ar gyfer y dyfodol."

'Angen prynu amser'

Ychwanegodd: "Un peth ydy achub y lle, ond wrth gwrs, be' maen nhw'n gwneud efo'r gofod yna wedyn ydy'r cwestiwn mawr.

"Be' dwi wedi awgrymu, gan fod amser yn fyr, fyddai gofyn i'r Eglwys yng Nghymru a fydden nhw'n fodlon oedi efo'r gwerthiant ocsiwn yma i drafod efo grwpiau posib ynghylch gweld defnydd newydd i'r adeilad arbennig yma?

"Gan fod Eisteddfod yr Urdd o fewn 50 diwrnod ac o fewn tafliad carreg i Lanfihangel, fyddai hynny'n gyfle da iawn i drafod syniadau.

"Os nad oes 'na rywbeth cynaliadwy yn dod yn amlwg, mi fyddai dal yn opsiwn rhoi o ar werth.

"Prynu amser i weld be' 'di'r cyfleon - dyna sy' angen."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd yr emynydd Ann Griffiths ei chladdu ar dir yr eglwys wedi ei marwolaeth yn 1805

Ann Griffiths o Ddolwar Fach ydy un o emynwyr mwyaf adnabyddus Cymru, gan ysgrifennu emynau fel 'Wele'n sefyll rhwng y Myrtwydd'.

Roedd hi'n rhan o'r diwygiad Methodistaidd ar ddiwedd y 18fed ganrif.

Cafodd hi ei bedyddio yn Eglwys Llanfihangel-yng-Ngwynfa, cyn priodi yno, ac fe gafodd ei chladdu ar dir yr eglwys yn 1805.

Yr hyn mae'r ddeiseb yn galw amdano ydy "atal gwerthiant Eglwys Mihangel Sant, eglwys blwyf Llanfihangel-yng-Ngwynfa, Powys".

Dywed y ddeiseb: "Yn ein tyb ni, mae gan yr Eglwys hon le arbennig yn hanes Cymru... yma y bu'r emynydd Ann Griffiths yn addoli. Ystyrir hi ymhlith y mwyaf o feirdd crefyddol Ewrop.

"Rydym yn grediniol, bod gan un o sefydliadau crefyddol mwyaf ein gwlad, y modd ariannol i atal y gwerthiant hwn.

"Gan fod yr arwerthiant yn digwydd mewn cwta wythnos (Ebrill 11 2024), credwn nad oes digon o amser i gychwyn ymgyrch genedlaethol i arbed yr adeilad i'r genedl.

"Rydym felly'n datgan bod rhaid atal y gwerthiant, a hynny er mwyn darganfod ffurf a ffynonellau gwahanol i achub yr adeilad pwysig hwn."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe gafodd Ann Griffiths ei bedyddio a'i chladdu yn yr eglwys yn Llanfihangel-yng-ngwynfa ym Mhowys

Un arall oedd yn anfodlon oedd y cerddor Lleuwen Steffan.

Dywedodd ar ei chyfrif X: "Eglwys Ann Griffiths, mae ei chofeb yn y fynwent.

"Does dim s么n amdani yn hysbyseb y gwerthwyr tai, er iddi gael ei bedyddio, priodi a chladdu yno, fel petai dim gwerth ar gyfoeth hanes Cymru.

"Does dim s么n am le'r eglwys hon yn nhraddodiad y plygain - lle cynhelid 'y Blygien Fawr' ar ddiwedd tymor y plygeiniau.

"Bu'n cynnal gwasanaethau plygain ers y drydedd ganrif ar ddeg. Dim gair am hyn wrth iddyn drio gwerthu'r lle. Mae'n siarad cyfrolau am gyflwr Cymru.

"Mi wn i bod trigolion yr ardal wedi gofalu am yr eglwys a bod yna waith atgyweirio dibendraw a phwy sy'n medru fforddio rhoi amser a phres i brosiect mor fawr 芒 hwn.

"Does gen i ddim atebion."

'Symptom o ddiboblogi a dirywiad cefn gwlad'

Yn 么l y Cynghorydd Elwyn Vaughan, mae'r sefyllfa yn arwydd o broblem ehangach.

"Be' 'da ni'n weld fan hyn ydy symptom o ddiboblogi a dirywiad cefn gwlad, fel sy'n wir mewn sawl ardal arall.

"Y cwestiwn ydy sut ydan ni'n wynebu'r her arbennig hynny, ac mae'n ddigon posib bod angen cymorth a manteisio ar y brwdfrydedd sy'n dod o bob cwr o Gymru a thu hwnt i gefnogi ymdrechion lleol."

Pynciau cysylltiedig