Rowndiau rhagbrofol Euro 2025: Cymru 4-0 Croatia
- Cyhoeddwyd
Mae Cymru wedi cael y dechrau gorau posib i'w hymgyrch i gyrraedd rowndiau rhagbrofol Euro 2025 gyda buddugoliaeth dda yn erbyn Croatia.
4-0 oedd y sg么r yn y Cae Ras yn Wrecsam ar ddiwedd g锚m gystadleuol gyntaf yr hyfforddwr newydd Rhian Wilkinson wrth y llyw.
A hithau'n derbyn cap rhif 149, fe rwydodd Jess Fishlock ddwy o'r goliau, gyda Rachel Rowe ac Angharad James yn sgorio'r gweddill.
Mae'n golygu bod Fishlock bellach wedi sgorio 42 o goliau rhyngwladol - un yn fwy na Gareth Bale, ond dwy yn llai na Helen Ward sy'n dal y record hefo 44.
Daeth g么l gyntaf Fishlock wedi pedwar munud yn unig o chwarae - ymgais ar bl芒t, mewn gwirionedd, wedi i Rachel Rowe gadw'r amddiffyn yn brysur a chreu gofod iddi allu daro'r b锚l yn ysgafn i'r gornel gwaelod.
Bu'n rhaid aros tan ddechrau'r ail hanner i Fishlock ddyblu'r fantais. Fe gysylltodd gyda chroesiad gwych gan Gemma Evans, ac fe darodd y b锚l y trawst cyn bownsio'n 么l iddi ei phenio i'r rhwyd.
Yn hytrach na cheisio am hat-tric ddau funud yn ddiweddarach, yn dilyn gwrthymosodiad da gan Angharad James, fe basiodd Fishlock y b锚l i Rowe a ergydiodd i wneud hi'n 3-0.
Croesiad arall gan Gemma Evans arweiniodd at y bedwaredd g么l - aeth y b锚l dros ben y golwr, Doris Bacic, ond roedd angen i James ymestyn ei choes a'i thoi i mewn i'r rwyd o ongl heriol.
A hithau bellach yn 4-0 gyda llai nag awr o chwarae, doedd Croatia heb gael yr un ymdrech uniongyrchol ar y g么l.
Ceri Holland ddaeth yn agosach at wneud hi'n 5-0 gyda chwip o ergyd a darodd y trawst ond roedd pedair yn fwy na digon i roi Cymru ar frig y tabl cyn g锚m nesaf yr ymgyrch oddi cartref yn Kosovo nos Fawrth.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Ebrill