Llwyddiant Wrecsam 'yn dod 芒 dagrau i'm llygaid i'
- Cyhoeddwyd
Ysgrifennwyd pennod arall yn hanes diweddar Clwb 笔锚濒-诲谤辞别诲 Wrecsam wrth iddynt sicrhau dyrchafiad am yr ail dymor yn olynol.
Roedd buddugoliaeth swmpus o 6-0 dros Forest Green Rovers ynghyd 芒 cholledion i MK Dons a Barrow b'nawn Sadwrn yn golygu y bydd y Dreigiau yn chwarae yn Adran Un Cynghrair Lloegr y tymor nesaf.
Roedd Wrecsam yn gwybod y byddai pum pwynt o'r tair g锚m oedd yn weddill yn sicrhau dyrchafiad - ond fe lwyddon nhw wneud hynny gyda dwy g锚m ar 么l o'r tymor.
"Mae'n dod 芒 dagrau i'm llygaid i," meddai Waynne Phillips, aelod o'r garfan ddiwethaf i sicrhau dyrchafiad i drydedd haen Cynghrair B锚l-droed Lloegr yn 2004.
"Doeddwn i ddim yn disgwyl o ddigwydd heddiw. Ro'n i wedi disgwyl MK Dons i ennill ond yn falch tydyn nhw heb.
"I'w wneud o yma [ar y Cae Ras] oedd yn bwysig i fi. Mae'n neis ennill dyrchafiad ond pan ti'n gwneud o ar patch dy hun o flaen y cefnogwyr yma, does na'm teimlad gwell.
"Os fasan ni wedi mynd fewn i'r g锚m nesaf yna faswn i wedi bod yn poeni ychydig bach yn mynd i Crewe y Sadwrn nesaf.
"Yn y diwedd dwi'n meddwl y tri t卯m gorau dros y tymor fydd yn mynd i fyny yn awtomatig - Stockport, Wrecsam a Mansfield.
"Mae'r tri ohonyn nhw wedi bod yn arbennig o dda. Am dymor sbesial unwaith eto 'dan ni wedi cael yma yn Wrecsam."
Daw dyrchafiad Wrecsam i Adran Un prin 12 mis ers iddyn nhw godi o Gynghrair Genedlaethol Lloegr, lle buon nhw'n chwarae am 15 mlynedd hir.
Ond trawsnewidwyd y clwb pan ddaeth s锚r Hollywood, Ryan Reynolds a Rob McElhenney, yn berchnogion ym mis Chwefror 2021.
Gyda phresenoldeb y ddau - a llwyddiant y gyfres ddogfen Welcome to Wrexham - mae'r clwb sydd wedi profi trafferthion ariannol sawl tro yn ei hanes yn ffynnu erbyn hyn.
Ac mae hynny wedi caniat谩u i'r perchnogion gefnogi'r rheolwr yn ariannol a galluogi iddo gryfhau'r garfan.
"Mae hynna wedi bod yn help mawr i Phil Parkinson," ychwanegodd Waynne Phillips, "ond mae o fel y rheolwr yn gorfod gwneud y gwaith wedyn ac mae o wedi gwneud o'n arbennig o dda.
"Allai ddim coelio weithiau y cwyno amdano fo os ydi Wrecsam yn colli g锚m - dwi'n mynd ar fy ff么n ac yn gweld beth mae pobl yn ei ddweud.
"Ond mae hynny yn digwydd i bob rheolwr - dwi m'ond yn gallu canmol y dyn hefo'r gwaith mae o wedi ei wneud yn y blynyddoedd mae o wedi bod yma.
"Fo di'r un sydd yn haeddu mwy o glod na neb arall.
"Do, mae wedi cael help gan y perchnogion i ddod 芒 chwaraewyr fel yr enwau mawr sydd yn y clwb i mewn. Dwi mor falch i Phil Parkinson."
Dyma'r pumed tro i Parkinson ennill dyrchafiad fel rheolwr ond y tro cyntaf iddo ef a Wrecsam wneud hynny gefn wrth gefn.
Mae Parkinson yn ffyddiog bod 'na ragor o benodau i ddod yn stori Wrecsam.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Ebrill