Pum nofiwr o Gymru i gystadlu yng Ngemau Olympaidd Paris
- Cyhoeddwyd
Mae pum nofiwr o Gymru wedi eu dewis i fod yn rhan o garfan Prydain ar gyfer y Gemau Olympaidd ym Mharis yn yr haf.
Y Cymry sydd yn y garfan yw Medi Harris, Daniel Jervis, Kieran Bird, Matthew Richards a Hector Pardoe.
Mae'r garfan lawn yn cynnwys 33 nofiwr, gan gynnwys rhai o enwau mawr y gamp fel Adam Peaty, Tom Dean ac Anna Hopkin.
Ar 么l cipio'r fedal aur fel rhan o d卯m cyfnewid dynion 4x200m yng Ngemau Olympaidd Tokyo 2020, mae Matt Richards 芒'i olygon ar gipio pum medal ym Mharis yn yr haf.
Daw hyn ar 么l iddo ennill y rasys 100m a 200m rhydd yn nhreialon Prydain ddechrau Ebrill.
Wedi blwyddyn lwyddiannus i Medi Harris o Borthmadog, yn cipio'r fedal aur ym Mhencampwriaeth Cwrs Byr Ewrop yn 2023, mae hithau wedi'i chynnwys yn y garfan.
Mae Kieran Bird wedi sicrhau ei le yn y garfan, er iddo beidio 芒 chyrraedd y gofynion amser wrth guro'r ras 400m dull rhydd yn y treialon ddechrau'r mis.
Yn wahanol i'r pedwar nofiwr arall - fydd yn cystadlu yn y pwll - bydd Hector Pardoe yn cystadlu yn y gystadleuaeth nofio marathon, a hynny ar 么l iddo ennill medal efydd ym Mhencampwriaeth y Byd fis Chwefror.
Dyma ail Gemau Olympaidd Dan Jervis, wedi iddo ddod yn bumed yn y ras 1500m rhydd yn Tokyo yn 2020.
Bydd y gemau'n cael eu cynnal ym Mharis rhwng 26 Gorffennaf a 11 Awst 2024.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd14 Ebrill 2023