Sefydlu gr诺p yn y gogledd i leddfu 'unigrwydd canser'
- Cyhoeddwyd
Roedd teimlo lwmp ar ei bron yn sioc enfawr i Anwen Edwards o Lanfairpwll ym M么n yn Rhagfyr 2021 ond dywed mai'r hyn a roddodd fwyaf o syndod iddi oedd yr unigrwydd wedi i'r driniaeth ddod i ben.
Ddechrau eleni fe sefydlodd hi gr诺p ar y cyfryngau cymdeithasol o'r enw 'Cymuned Cefnogaeth Canser' - gr诺p sydd eisoes wedi cyfarfod ddwywaith ac wedi denu bron i 300 o aelodau.
"Mi ges i ddiagnosis buan ond roedd y cyfan yn andros o sioc," meddai Anwen wrth siarad 芒 Cymru Fyw.
"Roeddwn i'n 46, yn byw bywyd llawn gyda fy ng诺r a dwy ferch yn ei harddegau - ac i ddweud y gwir yn byw bywyd iach iawn.
"Yn ystod Covid roeddwn i wedi colli lot o bwysau ac yn ffit iawn. Roeddwn i'n rhedeg yn gyson, yn gwneud ymarfer corff ac yn bwyta'n iach - o ran fy ffitrwydd dyna'r mwyaf ffit dwi wedi bod erioed.
"Ond efallai yr hyn a'm tarodd i fwyaf tra'n s芒l oedd unigrwydd canser. Ro'dd hi'n gyfnod Covid a 'nes i'm cyfarfod ffrindiau ac roedd y cyfnod wedi i mi orffen y driniaeth yn waeth.
"'Nes i orffen y driniaeth ym mis Gorffennaf 2022. Roedd hwnna'n adeg mor anodd oherwydd pan mae rhywun yn mynd trwy'r driniaeth mae 'na apwyntiadau meddygol a chysur wrth iddyn nhw siecio chi lot - ond wedi i hynna ddod i ben mae rhywun yn teimlo'n reit ddihyder.
"Dyw'r gefnogaeth na'r sicrwydd ddim yn bod."
'Anhygoel ac emosiynol'
Ym Medi 2022 cafodd c么r canser Law yn Llaw ei sefydlu - c么r yng Ngwynedd i unrhyw un sydd wedi cael ei effeithio gan ganser.
Ymhlith yr aelodau yr oedd cleifion, aelodau o deuluoedd oedd wedi'u heffeithio gan yr afiechyd a'r rhai oedd yn gweithio yn y maes.
"Roedd cael mynd i'r c么r yna yn gwbl arbennig," dywedodd Anwen Edwards. "Dyna'r tro cyntaf i fi gyfarfod pobl oedd wedi bod trwy'r un peth 芒 fi.
"Roedd yr holl brofiad yn anhygoel ac yn emosiynol iawn ac erbyn hyn dwi'n arwain y c么r.
"'Dan ni'n cymdeithasu ac yn trafod profiadau ond hynny ar 么l y canu. Ond dyw pawb ddim isio canu a dyna pam 'nes i sefydlu'r gr诺p 'Cymuned Cefnogaeth Canser'.
"Fe na'th ffrind i fi gysylltu yn gofyn am gymorth a chefnogaeth i'w ffrind hi - doedd hi ddim am fod mewn c么r a dyma fi'n meddwl 'mae 'na fwlch yn fan hyn o ran cefnogi cleifion canser'.
"Wedi i mi gael cwnsela wedi'r driniaeth chemo roeddwn i'n gweld pwysigrwydd hynny a dwi fy hun bellach yn hyfforddi fel cwnselydd.
"Mae hynny o gymorth i'r gr诺p gobeithio ond yn amlwg does na'r un cyngor meddygol - yr arbenigwyr sy'n gwneud hynny."
Mae'r gr诺p wedi cyfarfod ddwywaith - ym Metws-y-coed ddechrau'r flwyddyn ac yna ym Mangor ym mis Mawrth.
"Roedd e'n hyfryd. Roedd rhai ar ganol triniaeth ac eraill wedi gorffen eu triniaeth ac yn teimlo'r unigrwydd yna.
"Wedi i chi gael canser mae 'na bethau bach yn gallu chwarae ar eich meddwl chi - ydy o'n mynd i ddod n么l? Ydy'r peswch sydd gen i yn wahanol i'r arfer? Mae'r gr诺p yn gyfle i rannu gofidiau.
"Ar ben hyn i gyd mae 'na sgil effeithiau. Dwi ddim y person yr oeddwn i cyn canser," ychwanegodd Anwen, sydd wedi dychwelyd i'w gwaith fel athrawes gerdd yn Ysgol Brynrefail, Llanrug.
"Does gen i ddim yr un egni - dwi'n blino ac mae gen i brain fog," dywedodd.
"Mae gen i binnau bach yn fy nhraed a'n nwylo a dwi methu chwarae offerynnau fel cynt... mae nifer yn cael cyfnodau o iselder yn sgil neu wedi'r driniaeth.
"Ydy, mae hi mor bwysig trafod y pryderon a'r ofnau a dwi'n gobeithio bod ein profiad ni yma yn y gogledd yn hwb i eraill sefydlu grwpiau tebyg yn 么l y galw."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Ionawr