Stephen Williams yn ennill ras seiclo La Fl猫che Wallonne
- Cyhoeddwyd
Y Cymro, Stephen Williams, ydy'r dyn cyntaf o Brydain i ennill ras undydd La Fl猫che Wallonne yng Ngwlad Belg.
Ar 么l ennill y Tour Down Under ym mis Ionawr, hon ydy ei fuddugoliaeth fwyaf hyd yma.
Fe enillodd Williams, sy'n 27, y ras 124 milltir mewn amgylchiadau gwlyb ac oer.
Bu'n rhaid i nifer o seiclwyr eraill, gan gynnwys Tom Pidcock o Brydain, roi'r gorau i'r ras oherwydd y tywydd garw yn Ardennes a dim ond 44 groesodd y llinell derfyn.
Dywedodd Williams: "Rydw i mor hapus. Rydw i wedi gwylio'r ras gymaint o weithiau ar y teledu ac wedi breuddwydio o ddod yma gyda choesau da er mwyn ceisio ennill. Rydw i wrth fy modd."
"Fe welais i'r arwydd '300m i fynd' a meddwl os y gallai roi pump eiliad fewn i'r gr诺p a mynd yn agosach at y lein, yna fe alla i ddal 'mlaen."
Mae wedi bod yn flwyddyn lwyddiannus i Williams ar 么l iddo ennill y Tour Down Under a chreu argraff yn y Volta a Catalunya, ond doedd dim llawer wedi rhagweld y byddai'n ennill y ras yng Ngwlad Belg.
Wrth agos谩u at ddiwedd y cwrs o Charleroi i Huy, llwyddodd Williams i gadw digon o fwlch rhwng Kevin Vauquelin o Ffrainc a Maxim van Gils o Wlad Belg.
Ychwanegodd Williams: "Rydw i'n mwynhau rasio mewn tywydd fel hyn a chael buddugoliaeth - dwi wedi gwirioni.
"Mae'r bechgyn wedi bod yn fy nghefnogi drwy'r dydd ac wedi rhoi'r cyfle gorau i fi orffen yn y tri uchaf. I ennill y ras... mae hynny'n deimlad anhygoel."
'Ti'n un o'r seiclwyr gorau yn y byd'
Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast, dywedodd y sylwebydd seiclo, Peredur ap Gwynedd: "Stevie Williams unwaith eto wedi ennill a'r tro yma La Fl猫che Wallonne - un o'r rasys undydd mwyaf mawreddog gei di ar y calendr seiclo.
"Os ti'n ennill Fl猫che Wallonne mae'n golygu bo ti'n un o'r seiclwyr gorau yn y byd."
"27 mlwydd oed yw e ond gafodd e dwy flynedd eitha gwael achos anaf i'w ben-glin e a ma' nhw wedi sortio hwnna mas nawr diolch byth.
"Dechreuodd e ennill go iawn tua dwy flynedd yn 么l pan nath e ennill y Croatia race... mae e'n cadw ennill y rasys cymalau 'ma a mae wedi dechrau 'neud yn dda iawn a be' ma'n neud ym mis Gorffennaf yw'r Tour de France felly gobeithio nawn ni weld e'n disgleirio yn y ras hynny.
"Fi'n credu bydd e'n mynd mewn i'r Tour de France i ennill cymalau ac efallai eith e am crys y dringwyr. Rhwng fe a cwpl o fois eraill sy' gyda ni o Gymru yn y world tour, mae'n edrych yn ddisglair iawn i ni."
'Lwc a talent gyda'i gilydd'
Mae Peredur ap Gwynedd yn dweud bod ei lwyddiant yn y La Fleche Wallone yn golygu bod rheolwyr y t卯m "yn gwybod bod y boi yma'n gallu ennill a mae'r anafiadau tu 么l fe nawr".
"O'dd e ddim fod yn y t卯m yma i ddechre off. Nath e ymuno gyda t卯m arall ond nath y noddwyr dynnu mas a wedyn dod mewn i Israel-Premier Tech nath e ar 么l i'r tymor ddechre, a lwcus i gael lle yn y t卯m o'dd e.
"Tipyn bach o lwc a talent gyda'i gilydd a dyna ni - Stevie Williams yn ennill rasys."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mawrth
- Cyhoeddwyd18 Mai 2022
- Cyhoeddwyd18 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd4 Medi 2023
- Cyhoeddwyd27 Mai 2023