Huw Edwards yn gadael y 大象传媒 'ar sail cyngor meddygol'
- Cyhoeddwyd
Mae'r 大象传媒 wedi cyhoeddi fod y darlledwr Huw Edwards yn gadael y gorfforaeth "ar sail cyngor meddygol".
Mae'r cyflwynydd newyddion wedi bod oddi ar yr awyr ers haf 2023 yn dilyn adroddiadau ei fod wedi rhoi arian i berson ifanc am luniau anweddus.
Y Cymro oedd y cyflwynydd newyddion mwyaf uchel ei broffil o fewn y 大象传媒, ac yn aml yn arwain darllediadau digwyddiadau o bwys cenedlaethol.
Mewn datganiad ddydd Llun, dywedodd y gorfforaeth: "Mae Huw Edwards wedi ymddiswyddo heddiw a gadael y 大象传媒."
Dywedodd llefarydd: "Yn dilyn 40 mlynedd o wasanaeth, mae Huw wedi egluro bod ei benderfyniad wedi ei wneud ar sail cyngor meddygol gan ei feddygon."
Ychwanegodd bod y 大象传媒 "wedi derbyn ei ymddiswyddiad" a'u bod yn "credu y bydd yn caniat谩u i bawb symud ymlaen".
Roedd y darlledwr 62 oed, oedd yn brif gyflwynydd newyddion rhaglen 大象传媒 News at Ten, wedi ei wahardd o'i waith ers mis Gorffennaf.
Roedd hynny yn sgil honiadau ym mhapur newydd The Sun yn ymwneud 芒 chyflwynydd "heb ei enwi" a thaliadau i ddyn ifanc am luniau anweddus.
Daeth dyddiau o ddyfalu pwy oedd y cyflwynydd i ben pan gyhoeddodd gwraig Huw Edwards, Vicky Flind, ddatganiad yn enwi ei g诺r.
Dywedodd ar y pryd mai pryder ynghylch ei les meddyliol ac awydd i warchod eu plant oedd y prif reswm dros gyhoeddi'r datganiad.
Ychwanegodd fod ei g诺r 芒 phroblemau iechyd meddwl difrifol a'i fod wedi cael triniaeth at iselder difrifol yn y blynyddoedd diwethaf.
Ym mis Gorffennaf 2023 fe wnaeth lluoedd heddlu yn Llundain a de Cymru benderfynu nad oedd tystiolaeth fod Mr Edwards wedi cyflawni trosedd.
Dim t芒l i adael
Mae'r 大象传媒 wedi cadarnhau nad yw Mr Edwards wedi cael ei dalu i adael.
Fe wnaeth y gorfforaeth gadarnhau ei fod wedi bod ar d芒l llawn ers ei waharddiad, ond nad oes unrhyw arian pellach wedi cael ei dalu iddo.
Dywedodd y 大象传媒 ddydd Llun na fyddai'n briodol i wneud unrhyw sylw pellach.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Chwefror
- Cyhoeddwyd12 Gorffennaf 2023