Arestio dyn wedi digwyddiad ar gae p锚l-droed Amlwch
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 43 oed wedi cael ei arestio mewn cysylltiad 芒 digwyddiad ar gae p锚l-droed Amlwch y penwythnos diwethaf.
Ddydd Mercher dywedodd yr heddlu eu bod yn ymchwilio i ymosodiad honedig ar lumanwr yn ystod g锚m rhwng Amlwch a Phenrhyndeudraeth yng Nghynghrair B锚l-droed Arfordir Gogledd Cymru ar gae L么n Bach ddydd Sadwrn 27 Ebrill.
Mae dyn bellach wedi cael ei arestio, a'i ryddhau ar fechn茂aeth tra bod ymchwiliadau'r heddlu yn parhau.
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Andrew Gibson: "Mae'n hymholiadau i'r digwyddiad yn parhau.
"Rydym yn cydweithio'n agos 芒 Chynghrair B锚l-droed Arfordir Gogledd Cymru ac yn annog pobl i beidio 芒 dyfalu neu rannu unrhyw gynnwys sy'n cael ei ddosbarthu ar y cyfryngau cymdeithasol er mwyn osgoi unrhyw ddylanwad posib ar achos cyfreithiol."
Mewn datganiad dywedodd Clwb 笔锚濒-诲谤辞别诲 Amlwch: "Fel clwb rydym ni wedi cael ein tristau'n fawr gan y digwyddiadau dros y penwythnos.
"Byddwn yn cydweithredu 芒 phob ymchwiliad gyda Heddlu Gogledd Cymru, Cynghrair B锚l-droed Arfordir Gogledd Cymru a Chymdeithas B锚l-droed Cymru i sicrhau bod y camau cywir yn cael eu cymryd."