大象传媒

Cofnod y Senedd: 'Opsiwn uniaith diangen a diffyg cyfieithu'

  • Cyhoeddwyd
Y CofnodFfynhonnell y llun, Senedd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Nid yw'r fersiynau uniaith yn nodi a ydych yn darllen yr iaith gafodd ei llefaru neu gyfieithiad

Mae cynnig opsiwn uniaith Saesneg o gofnod ysgrifenedig cyfarfodydd llawn y Senedd yn "gamarweiniol ac yn artiffisial" meddai arbenigwr ar ddwyieithrwydd.

Ac ar wah芒n, mae Cymdeithas yr Iaith yn beirniadu'r ffaith bod cofnod y pwyllgorau yn cynnwys cyfieithu Cymraeg i Saesneg yn unig.

Dywedodd Comisiwn y Senedd - sy'n rhedeg y sefydliad o ddydd i ddydd - bod eu polisi cyfieithu yn "sicrhau gwasanaeth gwych a gwerth am arian i'r cyhoedd".

Mae Cofnod y Trafodion yn drawsgrifiad gair am air o gyfarfodydd llawn y Senedd pan mae'r 60 AS yn cwrdd yn y Siambr, ac o gyfarfodydd pwyllgorau, fel Hansard yn San Steffan.

Ers 2016 mae'r Senedd yn cynnig yr opsiwn o ddarllen cofnod cyfarfodydd llawn yn Saesneg yn unig neu yn Gymraeg yn unig, yn ogystal 芒'r fformat dwyieithog.

Rhwng 1999 a 2016 bu'r Cynulliad, fel yr oedd yn cael ei alw bryd hynny, yn darparu'r cofnod o gyfarfodydd llawn yn y fformat dwyieithog yn unig, sef yr ieithoedd mewn colofnau cyfochrog, gyda'r iaith a gafodd ei llefaru ar y chwith a'r cyfieithiad ar y dde.

Os yw Aelod o'r Senedd yn siarad Cymraeg mewn cyfarfod llawn mae cyfieithiad Saesneg yn y cofnod ar unwaith, ond ar gyfer cyfraniadau Saesneg rhaid aros hyd at dri diwrnod gwaith ar gyfer y fersiwn derfynol gwbl ddwyieithog.

Dywedodd Dr Peredur Webb-Davies, uwch ddarlithydd mewn ieithyddiaeth ym mhrifysgol Bangor, y byddai'n "gwneud mwy o synnwyr i gael y fersiwn dwyieithog yn unig, am ei fod yn cyfleu amgylchedd ieithyddol y Senedd a Chymru, ac yn fwy defnyddiol".

'Diffyg'

Dywedodd Si芒n Howys ar ran Cymdeithas yr Iaith, "does dim posib i'r Senedd allu weithio'n gwbl ddwyieithog heb gofnod dwyieithog llawn o'i holl waith, gan gynnwys cyfarfodydd y pwyllgorau.

"Mae'r diffyg yma'n llesteirio mynediad y cyhoedd at waith y Senedd ac yn llesteirio gwaith Aelodau o'r Senedd ac unrhyw gyrff neu unigolion eraill sy'n cymryd rhan ynddyn nhw".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

"Does dim posib i'r Senedd allu gweithio'n gwbl ddwyieithog heb gofnod dwyieithog llawn o'i holl waith, gan gynnwys cyfarfodydd y pwyllgorau", meddai Si芒n Howys

Mae 18 o bwyllgorau, sy'n craffu ar wariant a pholis茂au Llywodraeth Cymru, dwyn y gweinidogion i gyfrif, a chraffu ar ddeddfwriaeth arfaethedig.

Ychwanegodd Si芒n Howys bod cofnod y pwyllgorau yn "cymryd yn ganiataol pob pawb yn gallu ac eisiau gweithio trwy gyfrwng y Saesneg, sy'n anghywir, ac yn mynd yn erbyn cynlluniau'r llywodraeth i gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg erbyn 2050".

'Pwysig bod y Gymraeg yn cael ei gweld'

O ran y cyfarfod llawn, esboniodd Dr Webb-Davies mai "mantais cofnod dwyieithog yw ei fod yn gorfodi darllenwyr i wynebu'r Gymraeg ac yn sicrhau eu bod yn deall bod y Gymraeg yn iaith sy'n cael ei defnyddio yn y Senedd".

"Mae Cymru yn ymfalch茂o mewn bod yn wlad ddwyieithog. Ac fel iaith leiafrifol, mae presenoldeb y Gymraeg ac amlygiad yr iaith yn bwysig.

"Mae'n bwysig bod y Gymraeg yn cael ei gweld, gan gynnwys y tu allan i Gymru.

"Prin yw'r bobl sy'n gwbl uniaith Saesneg, achos maen nhw'n gweld arwyddion dwyieithog ac yn clywed y Gymraeg.

"Mae cofnod dwyieithog yn cyfleu amgylchedd ieithyddol y Senedd a Chymru, ac yn fwy defnyddiol".

Ffynhonnell y llun, Senedd

Ychwanegodd Dr Webb-Davies ei fod yn "broblem" nad yw'r fersiynau uniaith o gofnod y cyfarfodydd llawn yn nodi a ydych yn darllen yr iaith a lefarwyd neu gyfieithiad.

"Mae gwahaniaeth rhwng iaith a lefarwyd a chyfieithiad, mae'n bwysig gwybod pa un ydyw.

"Hefyd, mae gwybod pa iaith a lefarwyd yn sicrhau dealltwriaeth o'r dewis ieithyddol a wnaed gan Aelodau o'r Senedd," meddai Dr Webb-Davies.

Ymatebodd llefarydd ar ran y Senedd, "mae Comisiwn y Senedd yn darparu gwasanaeth cyfieithu cynhwysfawr sydd yn cyhoeddi holl drafodaethau'r siambr ar ein gwefan yn y Gymraeg a'r Saesneg.

"Mae ein polisi cyfieithu yn un hir-sefydlog sydd yn sicrhau gwasanaeth gwych a gwerth am arian i'r cyhoedd."

Dim ond 8% o'r cyfraniadau mewn cyfarfodydd pwyllgorau'r Senedd oedd yn Gymraeg yn 2022-23, tra bod canran y cyfraniadau Cymraeg mewn cyfarfodydd llawn yn 30%.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol