Bluestone i gael ei ddefnyddio ar gyfer cleifionwedi ei gyhoeddi 14:29 Amser Safonol Greenwich 27 Mawrth 2020
Mae cyrchfan wyliau Bluestone i ddod yn ganolfan adfer i gleifion Covid-19.
Dywedodd y prif swyddog gweithredol, William McNamara, eu bod yn gweithredu mewn "amgylchiadau hynod unigryw".
鈥淢ae'n hanfodol ein bod ni'n dod at ein gilydd i gefnogi ein gilydd - fel teulu, fel ffrindiau ac fel cymuned," meddai.
"Mae'n bleser gennym gynnig ein cyfleusterau i gael ei ddefnyddio yn yr amser hwn o angen cenedlaethol.
"Rydyn ni i gyd eisiau - ac angen - gwneud popeth o fewn ein gallu i wneud gwahaniaeth a chyfrannu at fynd i'r afael 芒'r argyfwng coronafirws sy'n datblygu."
Dywedodd cyfarwyddwr meddygol Bwrdd Iechyd Hywel Dda, Dr Phil Kloer: "Bydd cyflwyno'r gwelyau ychwanegol hyn i gleifion yn hanfodol i'n helpu i reoli llif cleifion dros yr wythnosau nesaf."