大象传媒

Crynodeb

  • Chwe pherson arall wedi marw ar 么l cael Covid-19 - cyfanswm yn 34 bellach

  • 180 o achosion newydd wedi'u cadarnhau, gan ddod 芒'r cyfanswm i 921

  • Y Prif Weinidog Boris Johnson wedi cael prawf positif am coronafeirws

  • Yr Ysgrifennydd Iechyd, Matt Hancock, hefyd wedi cael prawf positif

  1. Amddiffyn y penderfyniad i ganslo bwletinau teleduwedi ei gyhoeddi 10:56 Amser Safonol Greenwich 27 Mawrth 2020

    大象传媒 Cymru Wales

    Mae pennaeth 大象传媒 Cymru wedi dweud bod y darlledwr yn gorfod gwneud 鈥減enderfyniadau anodd am flaenoriaethau鈥 yn dilyn penderfyniad i ganslo bwletinau teledu brecwast ar 大象传媒 One Wales o ddydd Llun.

    Ni fydd unrhyw un o genhedloedd a rhanbarthau鈥檙 DU yn darparu bwletinau teledu boreol yn ystod 大象传媒 Breakfast o 30 Mawrth.

    Dywedwyd wrth wylwyr y bore 'ma ei fod yn 鈥渇esur dros dro鈥 tra bod y 大象传媒 wedi addasu i 鈥渙fynion wrth ymdrin 芒 Covid-19 a鈥檌 effeithiau ar ein bywydau i gyd鈥.

    Wrth ymateb i feirniadaeth ar y cyfryngau cymdeithasol yn dilyn y cyhoeddiad, dywedodd cyfarwyddwr 大象传媒 Cymru, Rhodri Talfan Davies: 鈥淢ae lefelau staffio yn y 大象传媒 wedi cael eu heffeithio ledled y DU, ac mae鈥檔 rhaid i ni wneud penderfyniadau anodd am flaenoriaethau."

    Rhodri
  2. Cau rhannau o lwybr arfordir Penfrowedi ei gyhoeddi 10:44 Amser Safonol Greenwich 27 Mawrth 2020

    Twitter

    Nid yw鈥檙 post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniat谩u cynnwys Twitter?

    Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.

    Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  3. Rhybudd am 'effaith ddifrifol' ar bysgotwyrwedi ei gyhoeddi 10:33 Amser Safonol Greenwich 27 Mawrth 2020

    Go brin fod unrhyw weithgaredd na diwydiant sydd heb gael ei effeithio mewn rhyw fodd gan coronafeirws.

    Fyddai rhywun ddim yn meddwl, er enghraifft, y byddai'r feirws yn effeithio ar y diwydiant pysgota, gan fod y pysgotwyr allan ar y m么r ar eu pen eu hun.

    "Mae o wedi effeithio yn ddifrifol ofnadwy, mae'r marchnadoedd i gyd wedi cau, yn Ewrop, yn Asia a'r marchnadoedd adra," meddai.

    Disgrifiad,

    Mae Sion Williams yn pysgota o Borth Colmon ar Benrhyn Ll欧n.

  4. Sut mae modd cynnal y Tour de France heb gefnogwyr?wedi ei gyhoeddi 10:24 Amser Safonol Greenwich 27 Mawrth 2020

    Chwaraeon 大象传媒 Cymru

    Ym myd y campau, mae trefnwyr y Tour De France yn ystyried cynnal y ras heb unrhyw gefnogwyr.

    Y ras yw'r digwyddiad chwaraeon mwyaf poblogaidd yn y byd o ran y nifer sy'n ei wylio'n fyw, am ei fod yn pasio trwy gymaint o ardaloedd yn Ffrainc.

    Fydd modd plismona pob ardal ar hyd llwybr y ras er mwyn sicrhau nad oes unrhyw un yn dod allan i'w gwylio? Cawn weld.

    Y Cymro, Geraint Thomas oedd yn fuddugol yn 2018, ac fe ddaeth yn ail y llynedd hefyd.

    Nid yw鈥檙 post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniat谩u cynnwys Twitter?

    Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.

    Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  5. 'Pobl yn cydymffurfio 芒'r canllawiau newydd'wedi ei gyhoeddi 10:13 Amser Safonol Greenwich 27 Mawrth 2020

    大象传媒 Radio Wales

    Mae pennaeth Heddlu De Cymru wedi dweud ei fod yn hyderus bod pobl yn dilyn y canllawiau newydd ar pryd maen nhw'n cael gadael eu cartrefi.

    Dywedodd y Prif Gwnstabl Matt Jukes wrth 大象传媒 Radio Wales y bore 'ma: "Wrth siarad 芒 nifer o gydweithwyr ac edrych ar gamer芒u CCTV ar draws Caerdydd, mae'n amlwg fod pobl yn dilyn y rheolau.

    "Wrth gwrs, fe fyddwn ni ar y strydoedd ac yn gweithredu'r gyfraith, ond y man cychwyn ydy apelio ar bobl i aros adref er mwyn arbed y GIG ac achub bywydau."

    Ychwanegodd Mr Jukes nad oedd o'r farn bod angen unrhyw fesurau pellach ar hyn o bryd, ond y bydd y llu yn parhau i atal pobl rhag casglu mewn mannau poblogaidd.

    Matt Jukes
  6. Cau waliau Conwy i'r cyhoeddwedi ei gyhoeddi 10:00 Amser Safonol Greenwich 27 Mawrth 2020

    Mae waliau tref Conwy wedi cael eu cau i'r cyhoedd y bore 'ma, gydag arwydd yn dweud bod hynny oherwydd argyfwng coronafeirws.

    Conwy
  7. Galw am eglurder ar fesurau sy'n berthnasol i Loegr yn unigwedi ei gyhoeddi 09:48 Amser Safonol Greenwich 27 Mawrth 2020

    大象传媒 Wales News

    Mae 15 o ASau Llafur o Gymru yn annog gweinidogion y DU i'w gwneud yn fwy amlwg pan fo mesurau i ddelio ag argyfwng coronafeirws mewn grym yn Lloegr yn unig.

    Mae'r gr诺p yn rhybuddio y gallai diffyg eglurder olygu bod pobl yn colli hyder yn eu gweithredoedd, ac yn gwrthod cydymffurfio a'u gorchmynion.

    Mewn llythyr at y Prif Weinidog, Boris Johnson, mae'r ASau yn dweud bod "dryswch" am gynllun i ostwng cyfraddau busnes, oedd ddim yn nodi bod angen i weinidogion Cymru gyflwyno cynllun eu hunain.

    Dywedodd Llywodraeth y DU mewn ymateb i'r llythyr ei fod yn cydweithio'n agos gyda gweinidogion Cymru.

    Boris Johnson
  8. Cymru'n clapiowedi ei gyhoeddi 09:36 Amser Safonol Greenwich 27 Mawrth 2020

    Roedd clapio i'w glywed ar hyd a lled Prydain neithiwr, wrth i'r cyhoedd uno am 20:00 i ddangos eu cefnogaeth i staff y gwasanaeth iechyd.

    Roedd y trefnwyr wedi gofyn i bawb gamu allan ar garreg yr aelwyd i ymuno yn y digwyddiad.

    Dyma rai o'r golygfeydd ar draws Cymru.

    Disgrifiad,

    Cymru yn diolch i weithwyr y GIG drwy glapio

  9. Jamie Roberts ar ei ffordd n么l o Dde Affricawedi ei gyhoeddi 09:25 Amser Safonol Greenwich 27 Mawrth 2020

    大象传媒 Sport Wales

    Mae canolwr Cymru a'r Llewod, Jamie Roberts ar ei ffordd yn 么l o Dde Affrica, gan hedfan yn 么l oriau'n unig cyn i'r wlad osod gorchmynion llym ar bobl i aros yn eu cartrefi yn sgil coronafeirws.

    Roedd Roberts wedi bwriadu aros yn Cape Town yn wreiddiol, cyn penderfynu y byddai'n well "bod adref yn y DU yn y cyfnod digynsail yma".

    Fe wnaeth y canolwr ymuno 芒'r Stormers o Gaerfaddon ym mis Ionawr, ac roedd wedi chwarae 10 g锚m dros ei glwb newydd cyn i gynghrair Super Rugby gael ei gohirio oherwydd Covid-19.

    Jamie RobertsFfynhonnell y llun, Getty Images
  10. Technoleg fideo yn lleihau pwysau ar feddygonwedi ei gyhoeddi 09:14 Amser Safonol Greenwich 27 Mawrth 2020

    Huw Thomas
    Gohebydd 大象传媒 Cymru

    Bydd pob meddyg teulu yn gallu cynnig ymgynghoriadau fideo o fis Ebrill er mwyn trin cleifion yn ystod pandemig coronafeirws.

    Mae cynllun peilot yn ardal Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan yn cael ei ehangu yn gynt na'r disgwyl.

    Meddygon fydd yn penderfynu os ydyn nhw am gynnig y gwasanaeth, wrth i lawer o feddygfeydd gyfyngu ar nifer y cleifion sy'n gallu gweld doctor wyneb yn wyneb.

    Mae'r feirws wedi gorfodi newidiadau eraill, ac mae rhai meddygfeydd yn cynnig profion gwaed mewn meysydd parcio, tra bod fferyllfeydd hefyd wedi mabwysiadu technoleg fideo i roi cyngor i gleifion.

    Mae modd darllen rhagor am y stori yma ar ein hafan.

    FideoFfynhonnell y llun, Getty Images
  11. Mwy o achosion yn yr Unol Daleithiau nag unrhyw wlad arallwedi ei gyhoeddi 09:04 Amser Safonol Greenwich 27 Mawrth 2020

    大象传媒 News

    Yr Unol Daleithiau bellach yw'r wlad sydd 芒'r nifer fwyaf o achosion coronafeirws wedi'u cadarnhau, gyda dros 85,000 wedi cael prawf positif yno.

    Yn 么l y ffigyrau diweddaraf a gasglwyd gan Brifysgol Johns Hopkins, mae'r UDA wedi pasio China (81,782 achos) a'r Eidal (80,589).

    Ond mae llawer mwy wedi marw yn China (3,291) a'r Eidal (8,215) o'i gymharu 芒'r 1,300 o farwolaethau yn yr Unol Daleithiau.

    Yn 么l yr Arlywydd Donald Trump, y ffaith fod cymaint yn cael eu profi am y feirws yno sy'n gyfrifol am y nifer uchel o achosion wedi'u cadarnhau.

    UDA
  12. Oriel luniau: Coronafeirws yng Nghymruwedi ei gyhoeddi 08:49 Amser Safonol Greenwich 27 Mawrth 2020

    Cylchgrawn, Cymru Fyw

    Mae hi wedi bod yn gyfnod cythryblus yng Nghymru ers i'r achos cyntaf o coronafeirws gyrraedd yma ar 28 Chwefror.

    Mae'r sefyllfa yn newid yn ddyddiol, gyda rheolau mewn lle bellach i atal pobl rhag gadael eu cartrefi os nad oes wir angen.

    Mae Cylchgrawn Cymru Fyw wedi casglu rhai o luniau'r digwyddiadau dros y pythefnos diwethaf.

    Mae modd gweld yr oriel yn llawn trwy glicio yma.

    CoronafeirwsFfynhonnell y llun, Paul Ellis
  13. Cyhoeddi'r dirwyon am anwybyddu'r rheolau newyddwedi ei gyhoeddi 08:40 Amser Safonol Greenwich 27 Mawrth 2020

    大象传媒 Wales News

    Mae'r bobl sy'n torri'r rheolau llym newydd ar aros yn eu cartrefi yn ystod argyfwng coronafeirws yn wynebu dirwy o 拢60.

    Mae dirwyon yn codi i 拢120 ar gyfer rheiny sy'n anwybyddu'r gorchmynion fwy nag unwaith, ac mae fe all unigolion sy'n parhau i'w hanwybyddu gael eu harestio.

    Ond tra bod dirwyon yn gallu codi mor uchel 芒 拢960 yn Lloegr, ni fydd hynny'n digwydd yng Nghymru.

    Os ydy'r ddirwy yn cael ei thalu o fewn pythefnos, 拢30 fydd y ddirwy am y drosedd gyntaf yng Nghymru.

    CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
  14. Pryder am gludo bwyd archfarchnad i bobl freguswedi ei gyhoeddi 08:30 Amser Safonol Greenwich 27 Mawrth 2020

    Mae pryder na fydd pobl h欧n, anabl neu fregus yng Nghymru yn gallu cael blaenoriaeth wrth gael bwyd wedi'i gludo i'w cartrefi yn ystod yr argyfwng coronafeirws.

    Bellach mae archfarchnadoedd yn cael mynediad at fas data Llywodraeth y DU er mwyn blaenoriaethu cludo bwyd i bobl fregus sydd wedi cael gorchymyn i aros adref.

    Ond mae hwnnw ond yn cynnwys gwybodaeth am bobl yn Lloegr, gan olygu nad yw pobl o Gymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon yn gallu cofrestru.

    Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddan nhw'n sicrhau bod modd i bobl fregus gael y bwyd, meddyginiaeth a nwyddau eraill sydd eu hangen arnynt.

    Mae modd darllen mwy ar y stori yma ar ein hafan.

    FanFfynhonnell y llun, AFP
  15. Oes gennych chi sylw neu gwestiwn?wedi ei gyhoeddi 08:20 Amser Safonol Greenwich 27 Mawrth 2020

    Post Cyntaf
    大象传媒 Radio Cymru

    Bydd rhaglen Post Cyntaf Radio Cymru yn ymestyn eto bore 'ma tan 09:00 gyda chyfle i chi ffonio gyda'ch sylwadau neu gwestiynau.

    Mae Dylan Jones yn barod i holi'r meddyg Dr Dai Lloyd a'r cyfrifydd Huw Roberts ar eich rhan.

    Y rhif ff么n ydy 03703 500 500, neu e-bostiwch post.cyntaf@bbc.co.uk.

  16. Croeso i'r llifwedi ei gyhoeddi 08:15 Amser Safonol Greenwich 27 Mawrth 2020

    Bore da, a croeso i'r llif byw ar ddydd Gwener, 27 Mawrth.

    Arhoswch gyda ni trwy gydol y dydd am y diweddaraf yng Nghymru a thu hwnt yn y frwydr yn erbyn coronafeirws.